Back
Mynwentydd Caerdydd i gau dros dro ar ôl nifer uchel o ymwelwyr ar y penwythnos
Caiff pedair mynwent yng Nghaerdydd eu cau i’r cyhoedd dros dro, oni bai eu bod yn mynd i angladd, yn dilyn penwythnos gyda llu o bobl yn ymweld â’r safleoedd ac yn methu cydymffurfio â chyfarwyddiadau'r Llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Profedigaeth, y Cynghorydd Michael Michael: “Nid oedd cau’r safleoedd hyn yn benderfyniad hawdd i ni, ond yn ystod yr argyfwng presennol, rhaid i ddiogelwch y cyhoedd a chyfyngu lledaeniad COVID-19 fod y flaenoriaeth gyntaf.

“Yn anffodus, mae nifer yr ymwelwyr sydd wedi bod yn anarferol o uchel y penwythnos hwn ar y cyd a’r diffyg ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod rhaid i ni wneud yr hyn y mae llawer o awdurdodau mewn ardaloedd eraill eisoes wedi’i wneud - cyfyngu mynediad.”

O 2 Ebrill bydd gatiau Mynwent Cathays, Mynwent y Gorllewin a Mynwent Pantmawr wedi eu cloi drwy’r amser, gyda mynediad cyfyngedig, am uchafswm o ddeg aelod teulu agos, dim ond pan gynhelir angladdau a chladdedigaethau ar y safle.

Bydd mynediad cyfyngedig i Fynwent ac Amlosgfa Draenen Pen-y-graig hefyd. Yn unol â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru bydd yr Amlosgfa ei hun ar gau i’r cyhoedd ehangach, ac eithrio i uchafswm o 10 aelod teulu agos yn mynychu angladdau a chladdedigaethau.  Ni chaniateir mynediad i’r cyhoedd i ardaloedd eraill y safle, megis y gerddi, y cofebion, neu’r Llyfr Coffa.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: “Rydym yn deall y bydd hyn yn anodd i rai pobl, er enghraifft os na allant ymweld â pherthynas ar ben-blwydd, ac rydym yn cydymdeimlo gyda hyn, ond mae hi’n adeg heriol ac yn y pen draw mae rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i gadw pobl yn ddiogel.”