Back
Diweddariad COVID19 - Marchnad Caerdydd
Mae newidiadau wedi’u cyflwyno ym Marchnad Caerdydd i sicrhau y gall masnachwyr hanfodol barhau i gynnig cynnyrch ffres i gwsmeriaid ledled y ddinas yn ystod yr achosion o COVID19.

Mae'r oriau masnachu wedi'u gostwng i 8am -1.30pm gyda'r fynedfa a'r allanfa drwy Heol Eglwys Fair yn unig, er mwyn i dîm y farchnad allu rheoli nifer y cwsmeriaid sy'n dod i mewn i'r adeilad a sicrhau system ciwio ddiogel.  

Y masnachwyr sydd ar agor yw:

E Aston (Fishmongers) Limited

Mae Ashton's, sydd wedi bod yn rhan o Farchnad Caerdydd ers ei hagor yn 1891, yn cynnig gwasanaeth cownter ffres a danfoniadau am ddim ledled y ddinas.  Ashton’s yw gwerthwyr pysgod annibynnol mwyaf Cymru, ac mae eu gwerthwyr pysgod medrus yn gallu cynnig y dewis gorau a mwyaf eang o bysgod i'w gwsmeriaid. Ffoniwch eu llinell archebu ar 029 2022 9201  i gael danfoniad am ddim.

 

JT Morgan Butchers

Mae JT Morgan Butchers, a sefydlwyd yn 1861, yn fusnes teuluol sydd wedi cael canmoliaeth gan bobl fel Rick Stein, Raymond Blanc ac Angela Gray. Maent yn darparu amrywiaeth o gigoedd o safon uchel, gan gynnwys cig oen morfa heli. Cysylltwch â llinell archebu JT Morgan ar 029 2038 8434i holi am ddanfoniadau.

 

K Blackmore & Sons Butchers

Mae gan Blackmore Butchers enw da am gynnig cigoedd o safon a thoriadau anarferol. Maent wedi bod yn rhan o'r farchnad ers blynyddoedd lawer ac mae ganddynt lawer o gwsmeriaid ffyddlon. O doriadau cig eidion o safon, i gig gafr a phen moch, mae cigyddion Blackmore yn cynnig gwasanaeth cigyddiaeth heb ei ail. Ffoniwch 029 2039 0401 i gael gwybodaeth am ddanfoniadau.

 

Sullivans Fruit & Veg

Mae Sullivans Fruit and Veg fusnes teuluol, annibynnol gyda mwy na 50 o flynyddoedd o brofiad. Mae Sullivans yn cynnig bocsys ffrwythau a llysiau ar ben eu harchebion arferol ac yn cynnig gwasanaeth danfon am ddim ar gyfer archebion dros £10. Maent hefyd yn cyflenwi llaeth, wyau a choed ar gyfer stofiau llosgi coed fel rhan o'u gwasanaeth danfoniadau. Archebwch ar-lein drwywww.cardiffgreengrocer.com