Back
COVID-19: Trefniadau Ymbellhau Cymdeithasol ar gyfer Rhandiroedd
Gellir parhau i ddefnyddio rhandiroedd Caerdydd yn ystod cyfnod parhaus COVID-19, ond yn unol â chyngor y Llywodraeth, cyflwynwyd canllawiau newydd i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n ddiogel.

·       Os ydych yn hunan-ynysu, peidiwch â mynd i mewn i'r safle

·       Cyfyngwch ymweliadau i 1 awr y dydd, yn unol ag argymhellion ymarfer corff dyddiol.

·       Cofiwch ymarfer ymbellhau cymdeithasol gyda’ch gilydd, cadwch 2 fetr i ffwrdd o eraill a chyfyngwch gysylltiad â'ch gilydd gymaint â phosib.

·       Ewch ar eich pen eich hun, peidiwch â mynd â theulu a ffrindiau gyda chi.

·       Cadwch hylif diheintio dwylo gyda chi a'i ddefnyddio'n rheolaidd, yn enwedig cyn ac ar ôl agor a chau gatiau a chyffwrdd cloeon.

·       Gwisgwch fenig tafladwy a newidiwch y rhain yn rheolaidd.

·       Peidiwch â rhannu offer.  Sychwch eich offer eich hun ar ôl eu defnyddio.

·       Peidiwch â golchi eich dwylo mewn cafnau dŵr.

·       Arhoswch ar eich llain eich hun, peidiwch â mynd i mewn i leiniau eraill, hyd yn oed os cawsoch ganiatâd ymlaen llaw

·       Mae’r holl gyfleusterau cymunedol ar gau, gan gynnwys toiledau.