Back
Preswylwyr yn dangos eu gwerthfawrogiad i'r criwiau casglu gwastraff

 

Mae rhieni a phlant wedi dechrau anfon negeseuon personol at eu criwiau casglu gwastraff drwy atodi lluniau a negeseuon i'w bagiau ailgylchu gwyrdd a'u biniau olwynion du.

Ddoe (Mawrth 30), atododd preswylwyr sy'n byw ym Mhentyrch, Radur, y Tyllgoed a Chreigiau luniau a chapsiynau at eu biniau a'u bagiau gwastraff  - roedd llawer yn cynnwys y neges symlaf a'r orau oll, sef ‘Diolch'.

Yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus mae Cyngor Caerdydd wedi symud i gasgliadau ymyl y ffordd wythnosol, ac eithrio gwastraff gardd. Mae hyn i sicrhau nad oes gwastraff yn cronni ar strydoedd y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Gyda'r pandemig parhaus hwn, mae ein criwiau gwastraff yn gwneud eu gorau glas mewn amodau heriol iawn.

"Ar adeg fel hyn, mae cadw ysbryd uchel ymysg ein gweithlu yn bwysig iawn ac mae'r criwiau'n ddiolchgar iawn am y negeseuon a gawsant. Mae'n wych gweld plant a mwy na thebyg ychydig o oedolion hefyd yn gadael negeseuon i'r criwiau er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad.

"Nod y Cyngor yw parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i breswylwyr yn ystod yr argyfwng hwn. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen i breswylwyr ddilyn y cyfarwyddiadau a roddwyd ynglŷn â sut y dylent gyflwyno eu gwastraff.

"Rydym wedi symud i un casgliad wythnosol ar gyfer popeth ond gwastraff gardd.  Ni all y cyfleuster troi gwastraff yn ynni dderbyn hwnnw.

"Rwy'n gwybod y bydd gan rai preswylwyr gwestiynau am sut mae pethau'n gweithio a cheir atebion i lawer o'r rheiniyma

"Yn hollbwysig, mae'r Cyngor hefyd yn ailgyfeirio criwiau er mwyn i ni allu canolbwyntio ar gael gwared ar wastraff y GIG yn ystod yr argyfwng. Gyda'r newyddion bod Stadiwm Principality hefyd yn cael ei droi'n ysbyty, mae'r Cyngor yn paratoi cynlluniau ar gyfer sut y byddwn yn gwasanaethu'r cyfleuster newydd hwn.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn gyda'r adnoddau prin sydd ar gael. Dyna pam mae angen i bobl weithio gyda ni a deall pam rydym wedi gorfod atal casgliadau gwastraff gardd a newid y ffordd rydym yn delio â gwastraff am y tro. Byddwn yn dychwelyd y trefniadau i'r arfer cyn gynted ag y gallwn.

"Mae hefyd yn bwysig bod pobl yn parhau i ailgylchu a defnyddio eu bagiau gwyrdd ar gyfer hyn. Byddwn yn dychwelyd at broses ailgylchu arferol cyn gynted ag y gallwn ac mae'n bwysig nad ydym yn torri'r arfer o ailgylchu'n gywir. Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd ac rydym eisiau bod y gorau yn y byd.

"Drwy weithio gyda'n gilydd gall pob un ohonom helpu i sicrhau bod gwastraff yn cael ei symud o strydoedd y ddinas yn ddiogel ac mor gyflym â phosibl."