Back
Darpariaeth ddigartrefedd ychwanegol ar gyfer pobl fwyaf agored i niwed y ddinas


 31/03/20

Datgelir cynlluniau i ddefnyddio gwesty ychwanegol i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer unigolion digartref yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

 

Cyhoeddodd Cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf ei fod wedi sicrhau llety ychwanegol yng Ngwesty'r OYO ar Clare Street yng Nglan-yr-afon, ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd a'r rhai sy'n byw mewn llety brys, pan fo unigolion yn cysgu mewn llety a rennir a lle nad yw hunanynysu yn bosibl.

 

Mae'r llety newydd hwn yn galluogi unrhyw unigolion sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol, neu sy'n dangos symptomau Coronafeirws COVID-19, i hunanynysu.

 

Mae pob un o'r 41 ystafell wely yng ngwesty OYO bellach wedi'u meddiannu. Mae preswylwyr yn derbyn tri phryd y dydd ac mae staff cymorth ar gael dydd a nos i sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddiogel a bod cyngor a chymorth priodol ar gael bob amser.

 

Mae'r llety hunangynhwysol hwn, yn ogystal â'r ddau gynllun cynwysyddion llongau sydd newydd eu cwblhau yn Nhrelái a Butetown, yn rhan o gyfres o ddarpariaethau newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Gyngor Caerdydd i roi cymorth ychwanegol i bobl sy'n agored i niwed.

 

Cyhoeddodd y Cyngor y bydd ail westy, gydag 89 o welyau, yn agor heddiw i roi lle diogel i fwy o unigolion hunan-ynysu a gwella. Fel gyda Gwesty'r OYO a'r cynwysyddion llongau, bydd gan adeilad Hostel Canol Caerdydd yr YHA yn Stryd Tyndall Sblot, gymorth ar y safle 24 awr y dydd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae'n gyfnod heriol iawn ond rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i sicrhau bod digon o ddarpariaeth briodol ar gael i bawb sy'n ddigartref yn y ddinas.

 

"Ein neges i bobl ar y strydoedd ar unrhyw adeg yw iddyn nhw ddod i mewn i'r llety a derbyn y gwasanaethau sydd yno ar eu cyfer, ond nawr, yn fwy nag erioed o'r blaen efallai, mae'n hanfodol bod unigolion sy'n cysgu ar y stryd yn gwrando ar ein ple, er eu lles eu hunain ac iechyd pobl eraill hefyd.

 

"Yn ogystal â darparu man diogel, cynnes a sych, bydd gwasanaethau cymorth arbenigol hefyd ar gael yn ein llety i helpu pobl ag anghenion cymhleth, gan gynnwys materion sy'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, er enghraifft.

 

"Felly rwy'n annog pobl sy'n dal ar y strydoedd i ddod i mewn, ac i unrhyw un sy'n dangos symptomau - mae angen i chi fod o ddifri ynghylch hunanynysu i helpu i atal y firws rhag lledaenu ymhellach."

 

Bydd y gwasanaeth brecwast dyddiol sy'n cael ei gynnig gan y Wallich, mewn partneriaeth â'r Cyngor, yn parhau i ddarparu byrbryd cynnes a diod boeth i bobl sy'n cysgu ar y stryd, gyda threfniadau ychwanegol ar waith i hwyluso ymbellhau cymdeithasol ac osgoi pobl yn ymgasglu wrth y fan. Mae Byddin yr Iachawdwriaeth hefyd yn gweithio'n ddygn yn darparu prydau bwyd gyda'r nos i rai sy'n cysgu ar y stryd.  Mae bwyd hefyd ar gael yng Nghanolfan Ddydd Huggard ar Hansen Street.

 

Aeth y Cynghorydd Thorne yn ei blaen i ddweud:  "Mae ein tîm allgymorth, sy'n gweithio mor galed i helpu pobl oddi ar y strydoedd, wedi bod yn siarad â chleientiaid am coronafeirws yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan roi cyngor am y symptomau a chadw llygad barcud ar iechyd y cleientiaid.  Maen nhw'n gwneud gwaith anhygoel i gael pobl i mewn i'n llety a byddan nhw'n parhau i gynnig cefnogaeth ac anogaeth i bawb sydd angen ein help."