Back
Diweddariad COVID-19 - 27 Mawrth

Mae diweddariad COVID-19 heddiw Cyngor Caerdydd yn trafod adleoli staff, apêl am eitemau parseli bwyd, help i'r hunangyflogedig, ceisiadau cynllunio a chwestiynau cyffredin casglu gwastraff. 
 

Staff y Cyngor yn gwirfoddoli i adleoli i wasanaethau hanfodol mewn ymateb i'r argyfwng COVID-19

O ganlyniad i'r argyfwng Coronafeirws, rydym yn gweithredu newid i flaenoriaethu gweithwyr allweddol a gwasanaethau rheng flaen hanfodol sy'n cael eu darparu i drigolion Caerdydd.

Mae miloedd o staff Cyngor Caerdydd wedi gwirfoddoli i newid eu swyddi presennol, i weithio yng ngwasanaethau hanfodol y cyngor ac i amddiffyn pobl agored i niwed a'r rhai sydd mewn perygl yn ein dinas. 

Ymatebodd dros 5,000 i arolwg sgiliau yr wythnos ddiwethaf ac rydym yn y broses o baru'r sgiliau hynny â'n rolau mwyaf hanfodol. 

I lawer, mae'n golygu newid mawr o ran y meysydd maent yn gweithio ynddynt a'r rolau dyddiol maent yn eu cyflawni. Gall fod yn weithiwr swyddfa sydd nawr yn dosbarthu Pryd ar Glud, yn cefnogi'r digartref neu'n casglu gwastraff. 

Mae ymgyrch hefyd i gynyddu nifer y gweithwyr gofal i gefnogi pobl sy'n agored i niwed yn eu cartrefi. Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rheoli ceisiadau a hyfforddiant i bobl i'w galluogi i ddod yn ofalwyr a helpu i ddarparu'r gwasanaeth yn ystod yr argyfwng hwn. 

Mae'r ffaith bod y sgiliau hyn wedi'u nodi, eu paru a'u rhoi ar waith mewn cyn lleied o amser yn dyst i amrywiaeth, hyblygrwydd ac ymrwymiad ein gweithlu.  Mae staff sy'n gallu gweithio gartref yn gwneud hynny, ond mae gennym rolau rheng flaen sy'n darparu gwasanaethau, a bydd yr adleoli yma yn hynod bwysig o ran cadw gwasanaethau pwysig i fynd. 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod y Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, "Mae'r ymateb gan staff sy'n barod i gael eu hadleoli o'u gwirfodd wedi bod yn wych ac mae'r swyddi y byddant nawr yn eu cyflawni yn hanfodol i alluogi'r ddinas a'i thrigolion i symud ymlaen drwy'r cyfnod digynsail hwn." 

 

Cefnogaeth busnes

Mae'r Cyngor yn awyddus iawn i glywed gan unrhyw fusnesau a hoffai gefnogi'r ymdrechion i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn y ddinas, drwy gyfrannu bwyd neu eitemau hanfodol, yn enwedig bara, reis, pasta a grawnfwyd. 

Dylai unrhyw un a all helpu ffonio 07970241 918neu ebostcyswlltcyflogwyr@caerdydd.gov.uk 

 

Cyhoeddiad ar gymorth ariannol Llywodraeth y DU i bobl hunan-gyflogedig

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynllun newydd i gynorthwyo pobl hunan-gyflogedig yn ystod yr argyfwng COVID-19 parhaus. 

Ar gyfer pawb sy'n gymwys - nid oes angen i chi wneud unrhyw beth ar y cam hwn - gan y bydd CThEM yn cysylltu â chi yn unigol pan fydd y cynllun ar waith a byddant yn eich gwahodd i wneud cais ar-lein. 

Ynghyd ag unigolion hunangyflogedig, os ydych yn aelod o bartneriaeth, gallwch hefyd wneud cais am y cymorth ariannol hwn. 

Mae'r cynllun yn rhoi grant trethadwy gwerth 80% o'ch elw masnachu ac mae hyd at uchafswm o £2,500 y mis ar gyfer y tri mis nesaf. 

Y meini prawf cymhwysedd am y grant trethadwy hwn yw:

  • Rydych wedi cyflwyno hunanasesiad treth incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2018-19
  • Rydych chi wedi masnachu yn y flwyddyn dreth 2018-19
  • Rydych yn masnachu ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, neu y byddech wedi bod yn gwneud hynny oni bai am COVID-19
  • Rydych yn bwriadu parhau i fasnachu yn y flwyddyn dreth nesaf - 2020-21
  • Rydych wedi colli elw masnachu/partneriaeth oherwydd COVID-19.

Bwriad y cynllun yw rhoi rhyddhad ariannol i'r rheini sydd ei angen fwyaf. O gofio hyn, mae Llywodraeth y DU wedi pennu trothwy ariannol ar gyfer y cynllun ac i fod yn gymwys, rhaid i bob elw masnachu hunangyflogedig fod yn llai na £50,000. Hefyd, yr amod olaf yw bod yn rhaid i hanner eich incwm ddod o hunangyflogaeth yn unig. 

 

Y diweddaraf am gynllunio

Ni fydd yr Adran Gynllunio yn cofrestru nac yn cyhoeddi penderfyniadau ar unrhyw geisiadau cyfredol hyd nes y nodir yn wahanol. 

Os bydd mater eithriadol neu frys yn codi, mae'r adran yn dal i fod â'r adnoddau i brosesu cais, os rhoddir awdurdod iddo wneud hynny. 

Bydd swyddogion yn parhau i fwrw ymlaen â'r 500 o geisiadau sydd yn y system ar hyn o bryd, hyd eithaf eu gallu. 

 

Chwestiynau cyffredin casglu gwastraff

Mae Caerdydd yn symud i drefn newydd wythnosol o gasglu gwastraff ymyl y ffordd a chaiff yr holl wastraff cartref (ac eithrio gwastraff gardd) ei gasglu ar yr un pryd. 

Cliciwch yma i ddarllen Holi ac Ateb Casgliadau Gwastraff ar Newyddion Caerdydd   https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23502.html  yn ymdrin â: 

Pam ydych chi'n newid y casgliadau?

Beth dylwn i ei wneud gyda fy hancesi papur?

Gan fy mod yn gweithio gartref mae gennyf ormod o wastraff - beth gallaf i ei wneud ag ef?

Nawr ein bod ni gartref, mae pawb yn glanhau'n drylwyr - sut dylem gael gwared â'r gwastraff?

Ble byddwch chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf?

Allaf i ddim cael gafael ar fagiau ailgylchu na bagiau bwyd.

A gaf i ostyngiad yn fy Nhreth Gyngor?

Allaf i brynu biniau gwyrdd, sachau gwastraff gardd ychwanegol i storio fy ngwastraff gardd?

Rydw i wedi cael sticer pinc/llythyrau am eitemau anghywir gyda'r ailgylchu-ydy'r broses hon yn ddilys o hyd?

A gaf i roi fy sbwriel mewn bin sbwriel, nawr eich bod wedi canslo casgliadau?

Pam rydych wedi cau'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref?

Rwy'n hunanynysu - a oes modd i mi gael casgliad cofnodedig dros dro (codi â chymorth) ar gyfer fy miniau?

Pam nad ydych chi'n parhau i gasglu bwyd ar wahân yn yr ardaloedd biniau?

Pam ydych chi'n casglu gwastraff bwyd ar wahân mewn ardaloedd bagiau?

Dw i'n byw mewn ardal biniau - allaf i barhau i wahanu fy mwyd yn y tŷ?

Does gen i ddim cadi ymyl y ffordd/cadi cegin/bagiau cadi.

Does gennyf ddim bagiau streipiau coch ar ôl

A allaf roi gwastraff gardd allan i'w gasglu?

A fyddwch chi'n casglu bagiau ychwanegol/eitemau swmpus o wastraff?

Dyw fy ngwastraff ddim wedi cael ei gasglu - beth dylwn i ei wneud?

Beth dylwn i ei wneud gyda'm gwastraff gardd?