Back
COVID-19: Grantiau i gefnogi busnesau lleol

26.03/20

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn cymorth gwerth £1.4 biliwn i fusnesau yng Nghymru er mwyn helpu i fynd i'r afael ag effaith economaidd Coronafeirws (COVID-19).

Bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd a gwerth ardrethadwy o £500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad o 100% ar ardrethi annomestig ar gyfer 2020-21. Bydd hyn yn cael ei weinyddu'n awtomatig drwy Gynllun Ardrethi'r Cyngor a chaiff ei weithredu'n awtomatig.

Yn ogystal â'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £850m ychwanegol ar gael drwy gynllun grant newydd i fusnesau.

Bydd hyn yn golygu y bydd pob busnes, sydd ar hyn o bryd yn gymwys ar gyfer rhyddhad Ardrethi Busnesau Bychan, hynny yw y rheiny sydd â gwerth ardrethol hyd at £12,000, yn derbyn grant o £10,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwchymai gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.

Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £50,000 yn derbyn grant o £25,000. Os ydych yn credu eich bod chi'n fusnes cymwys cliciwchymai gael y ffurflen gais a dilynwch y prosesau a amlinellir.