Back
COVID-19: Diweddariad ar gasgliadau gwastraff wythnosol

26/03//20

Mae Caerdydd yn symud i drefn newydd wythnosol o gasglu gwastraff ymyl y ffordd a chaiff yr holl wastraff cartref (ac eithrio gwastraff gardd) ei gasglu ar yr un pryd.

Bydd y diwrnodau casglu ar gyfer eich ardal yn aros yr un fath, ond mae'r ffordd y caiff gwastraff ei drin yn newid i helpu i reoli effaith COVID-19 a sicrhau lles y preswylwyr a'r gweithlu.

Yn dechrau ddydd Llun, 30 Mawrth, mae'n rhaid i'r holl breswylwyr sydd â biniau olwynion du roi eu gwastraff bwyd a'u gwastraff hylendid (cewynnau/gwastraff meddygol ac ati) yn y bin du i'w casglu.Peidiwch â defnyddio eich cadi bwyd. Bydd y casgliadau yn digwydd ar y diwrnod arferol ar gyfer eich ardal.

Mae'n rhaid i breswylwyr sy'n byw mewn ardaloedd, nad oes biniau olwynion du ynddynt, roi'r gwastraff hylendid (cewynnau/gwastraff meddygol ac ati) yn eu bagiau streipiau coch ar gyfer gwastraff cyffredinol. Dylai'r gwastraff bwyd mewn ardaloedd â bagiau barhau i gael ei roi yn eich cadi bwyd i atal anifeiliaid ac adar rhag gwasgaru gwastraff ar hyd y strydoedd.

Bydd casgliadau ailgylchu yn parhau yn ôl yr arfer a dylid rhoi bagiau ailgylchu allan yn wythnosol ar yr un pryd â'r gwastraff arall.

Gofynnir i'r holl breswylwyr, ble bynnag y maent yn byw yng Nghaerdydd, i barhau i ailgylchu fel arfer, gan olchi eu hailgylchu a rhoi'r deunyddiau ailgylchu cywir yn eu bagiau ailgylchu gwyrdd. Mae tudalen A-Y o Ailgylchu ar gael ymahttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân, Ailgylchu a'r Amgylchedd: "Rydyn ni'n credu y bydd y system newydd hon yn ein galluogi i gadw'r strydoedd yn lân drwy gydol y sefyllfa COVID-19, hyd yn oed os gwelwn ostyngiadau yn nifer y criw wrth i bobl gael amser i ffwrdd i wella o'r feirws.

"Mae'n hynod bwysig bod preswylwyr yn ein helpu ni i wneud hyn yn iawn drwy gydymffurfio â'r trefniadau newydd. Maent wedi eu cynllunio i'n galluogi ni i redeg gwasanaeth llawn gyda gweithlu llai."

Gan y caiff gwastraff cyffredinol ei gasglu'n wythnosol nawr yn hytrach na phob pythefnos, nid yw'r cyngor yn disgwyl gweld biniau du yn gorlifo gyda gwastraff cyffredinol gormodol wedi ei adael wrth ochr y biniau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Byddem yn disgwyl casglu dim ond y gwastraff y byddai aelwyd arferol yn ei gynhyrchu mewn wythnos.

"Mae'n hollol bwysig nad yw pobl yn ceisio manteisio ar y system newydd a gadael pethau allan na allant eu cludo i'r CAGCau yr oedd rhaid i ni eu cau am resymau ymbellhau cymdeithasol.

"Rydym ni wedi gosod system fydd yn gweithio os yw pobl yn glynu at yr argymhellion. Rwy'n gwybod bod y mwyafrif ohonon ni eisiau cadw ein dinas yn lân drwy gydol yr argyfwng, felly gwnewch eich rhan i helpu. Rwy'n gwybod bydd y rhan fwyaf ohonoch chi'n gwneud hyn."

Casgliadau gwastraff swmpus a chasgliadau gwastraff gardd

Mae casgliadau gwastraff swmpus a gwastraff gardd gwyrdd wedi eu hatal nes bydd yr argyfwng wedi dod i ben. Bydd atal y gwasanaethau hyn yn helpu'r Cyngor i ddefnyddio'r gweithlu i gadw ein strydoedd yn lân.

I symleiddio'r gweithrediadau gwastraff a sicrhau y gallant barhau gyda gweithlu llai, efallai na fydd yn bosib i ni ddidoli gwastraff ailgylchu yn ystod yr argyfwng, fel y cyfryw, bydd yn mynd i'r gwaith troi gwastraff yn ynni ynghyd â'r gwastraff gweddilliol. Dyma'r ffordd ddiogelaf o waredu gwastraff a all gludo Covid-19. 

 

Fodd bynnag, er ei bod yn ymddangos yn rhyfedd, rydyn ni'n dal angen i chi rhoi eich deunyddiau ailgylchu yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd fel y gallwn ddychwelyd i ailgylchu gwastraff pan fyddwn yn gallu.

  

Hefyd, os nad ydych yn golchi a gwahanu eich bagiau gwyrdd, bydd anifeiliaid ac adar yn eu torri ac yn gwasgaru'r gwastraff ar y strydoedd. Gyda gweithlu llai, bydd yn eithriadol o anodd i ni reoli a glanhau hyn.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Michael: "Rydyn ni'n gwybod y bydd y rhan fwyaf ohonoch yn gwneud y peth iawn, ond mae angen i chi i gyd wneud y peth iawn, ar gyfer eich dinas, eich cymdogion, ac ar gyfer eich iechyd ac iechyd eich teulu.

 

"Rydyn ni hefyd yn gofyn i chi lanhau handlenni eich biniau â diheintydd yn ystod yr argyfwng er eich diogelwch chi a diogelwch ein staff.

 

"Gwnewch eich rhan, os gwelwch yn dda, i'n helpu ni i atal y feirws. Cofiwch ei ddal, ei daflu a'i ddifa."

 

Mae bagiau ailgylchu gwyrdd yn parhau i fod ar gael yn y pedwar prif hyb, sef Hyb y Llyfrgell Ganolog, y Powerhouse yn Llanedern, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelái. Gallwch hefyd eu harchebu ar-lein ymahttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/Archebwch-bagiau-bwyd-ac-ailgylchu/Pages/default.aspx ac rydym yn adleoli staff i gyflymu danfoniadau i aelwydydd. Gofynnwn am eich amynedd yn yr amgylchiadau wrth i ni wneud ein gorau glas i ddod â bagiau i chi.

 

Nodiadau i'r Golygydd:

 

  • Caiff y trefniadau casglu gwastraff newydd eu huwchlwytho i wefan y Cyngor ac App y Cyngor cyn gynted â phosibl.  Mae'r wybodaeth yn y datganiad i'r wasg hwn yn gywir ac yn derfynol.