Back
COVID-19: Annog trigolion i gysylltu â’r Cyngor os ydyn nhw’n ei chael hi’n anodd talu eu treth gyngor

Anogir trigolion Caerdydd sy'n ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngori gysylltu â'r Cyngor drwy'r wefan -www.caerdydd.gov.uk- a defnyddio ffurflenni ar-lein i roi gwybod i'r awdurdod am unrhyw newid yn eu hamgylchiadau.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu cyfyngiadau rhannol ar symud i geisio arafu ac atal lledaeniad COVID-19. Mae hyn wedi effeithio ar gyfleoedd gwaith nifer fawr o bobl, yn arbennig y rheiny sy'n hunan-gyflogedig neu'n gweithio ar gontractau dim oriau, ac mae rhai cwmnïau wedi gorfod diswyddo gweithwyr.

 

Yn ddiweddar, galwodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, ar Lywodraeth y DU i gyflwyno ateb cenedlaethol ar gyfer y rheiny sy'n ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngor:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/23434.html

 

Mae'r Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid yng Nghyngor Caerdydd, nawr yn gofyn i drigolion sy'n ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngor, oherwydd bod achosion o Covid-19 wedi effeithio ar eu trefniadau gwaith, gysylltu â'r cyngor i weld a all yr awdurdod fod o gymorth mewn unrhyw ffordd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Weaver:  "Rydyn ni'n gwybod bod pobl yn ofidus iawn a hoffwn iddyn nhw wybod y byddwn yn gwneud popeth y gallwn ni i helpu. Mae ein canolfan gyswllt yn hynod brysur ar hyn o bryd, yn derbyn nifer sylweddol o alwadau gyda gweithlu llai, felly, os yw'n bosib i chi wneud, a fyddech cystal â gwneud ymholiadau drwy ein gwefan. Gallwch gysylltu â thîm y dreth gyngor yn uniongyrchol drwytrethgyngor@caerdydd.gov.uk

 

"Os ydych ar incwm isel, neu os yw eich incwm wedi gostwng, efallai y bydd gennych hawl i gael gostyngiad y dreth gyngor a gall trigolion gael gwybod mwy am hyn ar ein gwefan. Gwnewch gais ar-lein drwyhttps://www.caerdydd.gov.uk/CYM/preswylydd/Budd-daliadau-a-Grantiau/Budd-dal-Tai/cais-fudd-dal-tai-neu-ostyngiad-treth-cyngor/Pages/default.aspxFel arall gall trigolion roi gwybod i ni am unrhyw newid drwy www.caerdydd.gov.uk/newidbudd-daliadau. "