Back
COVID-19: Cadw plant a phobl ifanc yn dysgu pan fo'r ysgolion ar gau.

25/3/2020

Mae Cyngor Caerdydd wedi sefydlu tîm penodol i helpu ysgolion, drwy gynnig llu o ddeunyddiau digidol a chynlluniau ar-lein arloesol, fydd yn eu galluogi i barhau i gyflwyno'r cwricwlwm yn ystod y cyfnod y bydd ysgolion ar gau yn sgil COVID-19.

Hyd yma, mae'r gwasanaethau cymorth ar-lein i athrawon sydd wedi cael eu sefydlu yn cynnwys gwefan i athrawon gael mynediad at gyngor a chefnogaeth yn ymwneud â dysgu o bell a grŵp dosbarth Google a grŵp WhatsApp lle gall athrawon rannu gwybodaeth ac adnoddau gyda'i gilydd.

Mae tîm o gydlynwyr TGCh wedi'u recriwtio i helpu i gefnogi holl ysgolion Caerdydd gyda dysgu ar-lein drwy ystafell ddosbarth rithwir ac mae pob ysgol wedi sicrhau bod gwaith ar gael ar-lein i'w disgyblion a'u rhieni ei ddefnyddio, drwy lwyfan yr hwb yn bennaf.

Yn ogystal, mae gwasanaeth e-ddysgu Caerdydd, Addewid Caerdydd a'r gwasanaeth ieuenctid yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu llwyfan i bobl ifanc i barhau mewn cysylltiad a rhannu profiadau dysgu yn ystod y cyfnod y bydd yr ysgolion ar gau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn ystod y cyfnod eithriadol heriol hwn, mae'n hanfodol bod ein plant a'n pobl ifanc yn gallu parhau i ddysgu ac aros mewn addysg. 

"Mae ein tîm Addysg yn gweithio ddydd a nos i weithredu dulliau gweithio arloesol er mwyn i athrawon allu cynnal Addysg o bell i bob plentyn. Yn ogystal â chefnogi a chryfhau nifer o lwyfannau ar-lein sydd eisoes yn cael eu defnyddio'n effeithiol ledled y ddinas, mae nifer o ddulliau newydd yn cael eu datblygu i gefnogi ein hysgolion a'u staff fel y gallant barhau i gyflawni cystal ag y gallant. "

"Wrth i'r sefyllfa newid yn ddyddiol, byddwn yn parhau i fonitro'r trefniadau ar gyfer ysgolion yn rheolaidd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod y gwaith caled sy'n mynd rhagddo yn y cefndir i ddod o hyd i atebion yn yr amgylchiadau anodd hyn. "