O heddiw ymlaen, caiff uchafswm o ddeg aelod o'r
teulu agos fynychu angladdau ac amlosgiadau sy'n digwydd yn Amlosgfa Draenen
Pen-y-graig a mynwentydd y ddinas.
Mae pob seremoni briodas yn awr wedi eu canslo
ac oherwydd ôl-groniad yn ystod y gwanwyn yn sgil COVID-19, ni fydd archebion
newydd ar gyfer priodasau yn cael eu derbyn ar gyfer dyddiadau sydd cyn mis
Medi. Nid oes unrhyw hysbysiadau newydd o briodas yn cael eu derbyn ar hyn o
bryd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y
Cynghorydd Michael Michael: "Mae'r rhain yn ddigwyddiadau cerrig milltir
mawr pan fydd teuluoedd a ffrindiau fel arfer yn dod at ei gilydd i ddathlu neu
i alaru, ond mae hwn yn gyfnod gwirioneddol ddigynsail a rhaid rhoi
blaenoriaeth i gyfyngu ar gyswllt cymdeithasol er mwyn helpu i ohirio
lledaeniad COVID-19.
"I helpu cymaint o bobl â phosibl i dalu
teyrnged i'w hanwyliaid, mae'r Cyngor yn hepgor ei ffi safonol o £50 ar gyfer
gwe-ddarllediadau byw o wasanaethau angladd. Mae'r gwasanaethau hyn, a
ddarperir gan gontractwr, yn ôl y galw ar gael drwy rif PIN preifat sydd i'w
gael ar gais gan y rheolwr angladdau."
Mae ardal y dderbynfa yn Amlosgfa Draenen
Pen-y-graig bellach ar gau i'r cyhoedd. Gellir ymdrin ag ymholiadau ar-lein o
hyd drwyhttps://cardiffbereavement.co.uk/cy/drwy
e-bostioDerbynfaDraenenPen-y-graig@caerdydd.gov.ukneu
ffonio 029 2054 4820.
Er mwyn cynnal lefelau gwasanaeth, rhoddir
blaenoriaeth ar hyn o bryd i waith allweddol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â
chladdedigaethau ac amlosgiadau dros gyfundrefnau cynnal a chadw tiroedd ym
mynwentydd Caerdydd. Mae mynwentydd yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd ar hyn
o bryd ond mae'n ofynnol i unrhyw ymwelwyr ddilyn rheolau ymbellhau
cymdeithasol a theithio ond os yw hynny'n hanfodol.
Mae gwasanaeth blynyddol Sul y Blodau, y
trefnwyd ei gynnal yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 5 Ebrill 2020 hefyd wedi
ei ganslo.
Mae'r dderbynfa yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd
bellach ar gau i'r cyhoedd. Gellir cofrestru genedigaethau a marwolaethau o hyd
yn Neuadd y Ddinas, drwy apwyntiad yn unig. Dim ond un person fydd yn cael
cofrestru'r digwyddiadau hyn. I wneud apwyntiad ffoniwch 029 2087 1680 neu 029
2087 1684 neu e-bostiwchcofrestryddion@caerdydd.gov.uk