Back
Maes Parcio Parc y Mynydd Bychan yn cau i'r cyhoedd – i roi parcio am ddim i staff y GIG

Mae Cyngor Caerdydd yn cau maes parcio Parc y Mynydd Bychan i'r cyhoedd er mwyn rhoi cyfleusterau parcio am ddim yno i feddygon, nyrsys a staff hanfodol eraill y GIG.

 

Mae arwyddionyn cael eucodi yn y maes parcio i hysbysu'r cyhoedd fod y maes parcio, a leolir ym Mharc y Mynydd Bychan -https://bit.ly/2UrVEUB- ond i gael ei ddefnyddio gan staff y GIG.

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Mae hwn yn gyfnod digynsail ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein cydweithwyr yn y GIG.  Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn gwneud pethau ychydig yn haws i staff y GIG sy'n gwneud gwaith rhyfeddol yn ceisio ein cadw ni oll yn ddiogel rhag y feirws hwn."