Back
Diweddariad Coronafeirws (COVID-19), 19/03/20

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi newidiadau i nifer o'i wasanaethau wrth iddo symud tuag at ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol i ddiogelu'r henoed a'r bobl fwyaf agored i niwed yn y ddinas yn ystod yr achos hwn o COVID-19.

 

Casgliadau Gwastraff:

 

  • Bydd casgliadau gwastraff gardd yn cael eu canslo o ddydd Llun 23 Mawrth nes clywir yn wahanol.
  • Gwneir pob ymdrech i gasglu unrhyw wastraff gwyrdd sydd heb ei gasglu o gartrefi ers dydd Mawrth.  Fodd bynnag, os nad yw eich gwastraff gardd wedi cael ei gasglu erbyn nos Sul, os gwelwch yn dda ewch ag ef yn ôl i'ch eiddo. Gellir dod â gwastraff gardd naill ai i Ffordd Lamby neu CAGC Clos Bessemer;
  • Bydd casgliadau swmpus sydd eisoes wedi eu harchebu ar gyfer yr wythnos nesaf yn cael eu anrhydeddu, ond bydd casgliadau swmpus yn dod i ben o ddydd Gwener nesaf, 27 Mawrth hyd nes ceir hysbysiad pellach;
  • Bydd casgliadau gwydr ar wahân yn dod i ben yfory, Dydd Gwener, 20 Mawrth, hyd nes y ceir hysbysiad pellach. Dim ond 17,000 o gartrefi a gymerodd ran yn y treial ailgylchu gwydr ar wahân sydd wedi eu heffeithio gan hyn. Gall y cartrefi hyn bellach roi eu gwydr mewn bagiau ailgylchu gwyrdd.

 

Llyfrgelloedd a Hybiau:

 

  • Bydd pob llyfrgell yn cau yfory (Dydd Gwener, 20 Mawrth). Bydd defnyddwyr llyfrgelloedd yn dal i allu cael gafael ar wasanaethau digidol am ddim gan gynnwys e-lyfrau, llyfrau e-sain, e-gylchgronau a phapurau newydd ar-lein
  • Ac eithrio casglu bagiau ailgylchu gwyrdd a bagiau gwastraff bwyd, bydd canolfannau cymunedol yn gweithredu ar sail apwyntiad yn unig a bydd angen i gwsmeriaid gysylltu â Rhif Cynghori y Cyngor ar 02920 871071 i wneud apwyntiad.

 

Y Gwasanaeth Dewisiadau Tai a Digartrefedd

 

  • Mae ein Gwasanaeth Dewisiadau Tai a Digartrefedd bellach ar gael trwy apwyntiadau'n unig. Dylai unrhyw un sydd angen cymorth gysylltu â'r Cyngor dros y ffôn ar 02920 570750 neu drwy e-bost CanolfanOpsiynaiTai@caerdydd.gov.uk 
  • Gwasanaeth Byw'n Annibynnol y Cyngor yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth a chyngor i bobl hŷn a phobl anabl a gellir cysylltu â nhw ar 02920 234234.
  • Bydd gwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn parhau i weithredu. Mae'r gwasanaeth ar gael dros y ffôn ar 03000 133 133, drwy e-bost cyswlltfas@caerdydd.gov.uk neu ewch i https://www.cardifffamilies.co.uk/cy/
  • Dylai unrhyw un sy'n pryderu am ddiogelwch plentyn gysylltu â'r Ganolfan Ddiogelu Aml-asiantaeth (MASH) ar 02920 536490 neu y tu allan i oriau ar 02920 788570. Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol o gael ei niweidio, ffoniwch 999.

 

Meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:  "Mae'r Cyngor ynghyd â phawb arall yn gweithio mewn cyfnod cwbl ddigynsail. Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau hanfodol, y gwasanaethau sy'n amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed ac mewn perygl. 

 

"Mae llawer iawn o gynllunio wedi digwydd er mwyn sicrhau bod modd parhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol hyn.  Mae rhai o'r newidiadau arfaethedig hyn yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd wrth i ni symud, fel sefydliadau eraill ledled y DG, i fwy o weithio gartref a lleihad anorfod yn y gweithlu a achosir gan y feirws.

 

"Rwyf am i chi wybod ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn gallu cynnig parhad o ran gwasanaethau hanfodol i breswylwyr drwy gydol y broses.

 

"Rydym hefyd yn sylweddoli bod llawer iawn o drigolion am wneud eu rhan i helpu, a byddwn cyn hir yn lansio Gyda'n Gilydd dros Gaerdydd, gyda'r nod o ddod â gwirfoddolwyr at ei gilydd mewn ffordd gydlynus fel y gallant gael effaith wirioneddol wrth i ni frwydro yn erbyn yr haint. Parhewch i'n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau rheolaidd."