Back
Coronafeirws (COVID-19) - Cyngor Caerdydd - Newid i Wasanaethau

18/03/2020

Yn dilyn cyngor y Llywodraeth ar Coronafeirws, mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno'r newidiadau canlynol i helpu i oedi lledaeniad COVID-19, ac i flaenoriaethu gwasanaethau. 

Casgliadau Gwastraff Swmpus a Chasgliadau Gwastraff Gardd

Mae gwasanaethau Ailgylchu a gwasanaethau Strydlun Cyngor Caerdydd yn dechrau blaenoriaethu gwasanaethau. 

O heddiw ymlaen, ddydd Mercher 18 Mawrth 2020, ni fydd y Cyngor yn derbyn unrhyw archebion pellach am gasgliadau gwastraff swmpus. Bydd yr awdurdod lleol yn ceisio anrhydeddu'r casgliadau a drefnwyd ar gyfer yr wythnos nesaf (yr wythnos yn dechrau dydd Llun 23 Mawrth 2020). Os oes angen canslo unrhyw archebion ar gyfer yr wythnos nesaf, bydd cwsmeriaid yn cael eu hysbysu a'u had-dalu.  Bydd unrhyw gasgliadau a drefnwyd ar gyfer yr wythnosau canlynol yn cael eu canslo, a rhoddir ad-daliadau. 

Bydd casgliadau gwastraff gardd yn cael eu canslo o ddydd Llun 23 Mawrth 2020 nes clywir yn wahanol. 

Gellir mynd â gwastraff gardd a gwastraff swmpus i Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor (CAGC). Mae gwybodaeth am safleoedd ac amseroedd agor ar gael ynwww.caerdydd.gov.uk/CAGC 

Lleoliadau ac Adeiladau Cyngor Caerdydd

Mae safleoedd canlynol Cyngor Caerdydd bellach ar gau i'r cyhoedd nes clywir yn wahanol:

  • Canolfan Addysg Parc Bute
  • Canolfan Gymunedol Treganna
  • Canolfan Weithgareddau Bae Caerdydd
  • Maes Carafanau Caerdydd
  • Castell Caerdydd
  • Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
  • Ysgol Farchogaeth Caerdydd
  • Marchnad Caerdydd - Ar ôl trafod gyda’r masnachwyr, bydd Marchnad Caerdydd yn aros ar agor am nawr, gyda threfniadau glanhau mwy trylwyr ac ymgais i annog ymbellhau cymdeithasol. Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu o hyd a gallai newidiadau pellach gael eu gwneud i ddilyn cyngor diweddaraf Iechyd Cyhoeddus a’r Llywodraeth.
  • Canolfan Hamdden Trem y Môr
  • Ynys Echni
  • Canolfan Dysgu i Oedolion Severn Road
  • Neuadd Dewi Sant
  • Y Plasty
  • Y Theatr Newydd
  • Neuadd Llanofer
  • Amgueddfa Caerdydd
  • Safle Motocross       
  • Tŷ Gwydr Parc y Rhath

Mae Neuadd y Ddinas a Neuadd y Sir ar gau fel lleoliadau ar gyfer hurio preifat a digwyddiadau preifat. 

Digwyddiadau a drefnwyd gan Gyngor Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd yn adolygu ei galendr digwyddiadau, ac mae penderfyniad wedi'i wneud i ganslo'r Ŵyl Llenyddiaeth plant eleni. Bydd digwyddiadau y bwriedir eu cynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn parhau i gael eu hadolygu a bydd penderfyniadau ynghylch a ydynt yn mynd rhagddynt yn cael eu gwneud ar sail y cyngor diweddaraf gan y Llywodraeth ar yr adeg honno. 

Yn ogystal â digwyddiadau a drefnwyd gan Gyngor Caerdydd, mae'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol hefyd wedi penderfynu canslo Sioe Flodau'r RHS Caerdydd eleni, a oedd fod i gael ei chynnal y mis nesaf, dan nawdd Cyngor Caerdydd ym Mharc Bute. 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae hon yn amlwg yn sefyllfa sy'n datblygu'n barhaus, a bydd yn rhaid gwneud parhau i wneud penderfyniadau sy'n adlewyrchu'r cyngor diweddaraf gan y Llywodraeth a chan Iechyd y Cyhoedd. 

"Rhaid i iechyd a lles ddod yn gyntaf bob amser, ac rwyf am sicrhau pawb bod llawer iawn o waith cynllunio dwys wedi bod yn mynd rhagddo ers rhai wythnosau.  Mae holl adrannau'r Cyngor yn blaenoriaethu'r gwaith o gynllunio ar gyfer effaith y Coronafeirws yn anad dim arall. Wrth i'r argyfwng ddatblygu a dwysau yma yng Nghaerdydd, bydd y ffocws ar sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i gael eu darparu a'r gwasanaethau hynny y mae ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn dibynnu arnynt. Bydd yn rhaid inni fod yn hyblyg o ran sut y caiff staff, adnoddau ac asedau eu hailflaenoriaethu i gefnogi'r gwasanaethau cyngor hynny sydd dan y straen mwyaf.  

"Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda phartneriaid gwasanaeth cyhoeddus, yn enwedig gyda Bwrdd Iechyd y Brifysgol, i ddeall y ffordd orau o gefnogi ein gilydd yn y cyfnod sydd o'n blaenau. 

"Effaith y Coronafeirws yw'r her fwyaf y mae ein dinas ni wedi ei hwynebu ers blynyddoedd lawer. Gyda'n partneriaid, byddwn yn gweithredu fel un tîm ar draws gwasanaethau cyhoeddus ein dinas, i gadw cynifer o bobl â phosibl yn ddiogel ac yn iach."