Back
Helpu i gadw cymunedau’n ddiogel gyda Gatiau Lonydd Cefn


17/03/20 

Mae ymrwymiad Cyngor Caerdydd i fynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau trafferthus ledled y ddinas wedi ei amlygu yn y polisi diweddaraf ar gatiau lonydd cefn.

 

Mae Polisi a Strategaeth Gatiau Lonydd Cefn ar Briffyrdd Cyhoeddus ar gyfer 2020 yn amlinellu sut mae gatiau lonydd cefn yn fesur syml ac effeithiol i leihau digwyddiadau all gael effaith niweidiol ar gymunedau lleol.

 

Mae mwy na 200 o lonydd wedi cael eu gatio yn y ddinas ers 2008, yn dod â budd i dros 7,000 o eiddo ac yn helpu i wella ansawdd bywyd pobl yn yr ardaloedd hynny sydd wedi cael llu o broblemau megis byrgleriaeth, yfed dan oed, camddefnyddio sylweddau, troseddau amgylcheddol a llosgi bwriadol.

 

Mae'r polisi newydd wedi ei ddatblygu erbyn hyn i adlewyrchu gofynion deddfwriaethol presennol megis disodli'r Gorchmynion Gatiau gyda Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, ac i nodi ystyriaethau a gweithdrefnau cyfredol sydd ynghlwm wrth gyflawni cynlluniau gatio.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Yn unol â'n gweledigaeth Uchelgais Prifddinas i helpu i wneud cymunedau Caerdydd yn lleoedd diogel i fyw ynddynt drwy fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau gatiau lonydd cefn a'r gwerth sydd ganddynt o ran atal a lleihau troseddu mewn rhai ardaloedd.

 

"Mae cynlluniau gatiau lonydd wedi bod yn hynod boblogaidd a llwyddiannus yn y ddinas ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan drigolion sy'n byw mewn ardaloedd â chynlluniau gatio. Gan amlaf, maent yn teimlo rhyddhad ac yn fwy diogel yn eu cartrefi ac o'u hamgylch.

 

"Mae gatiau lonydd yn parhau i fod yn hynod boblogaidd a byddwn yn gweithio gyda thrigolion, yn ogystal â phartneriaid megis Heddlu De Cymru, i nodi lonydd sydd angengatiau fwyaf a sicrhau y gweithredir y cynllun yn effeithiol er mwyn mynd i'r afael â throsedd ac anhrefn ac adfer hyder y gymuned."

 

Argymhellwyd i'r Cabinet gymeradwyo Polisi a Strategaeth Gatiau Lonydd Cefn ar gyfer 2020 yn ystod ei gyfarfod nesaf, ddydd Iau 19 Mawrth.