Back
Datganiad Gan Arweinydd Cyngor Caerdydd I Breswylwyr Y Ddinas Am Y Coronafeirws (Covid-19)

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas: "Anfonwyd llythyr gennyf fi a'r Prif Weithredwr at staff y Cyngor y prynhawn yma ynglŷn â'r cynllunio a'r paratoadau y mae'r awdurdod yn ymgymryd â nhw mewn ymateb i ledaeniad y Coronafeirws Newydd (Covid-19).  

"Yn amlwg, mae'r goblygiadau i'r Cyngor, ein partneriaid gwasanaeth cyhoeddus a phreswylwyr y ddinas yn sylweddol.

"Rwyf am anfon neges at breswylwyr i ddweud ein bod wrthi'n gweithio ar gynlluniau a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol ac ar amddiffyn pobl sy'n agored i niwed a'r henoed. Ac er y bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n dal y feirws yn gwella'n llwyr, mae'n rhaid i ni gydnabod a gwneud cynlluniau ar gyfer y tebygolrwydd y gallai'r Cyngor orfod darparu'r gwasanaethau pwysig hyn gyda gweithlu llawer llai, dros gyfnod estynedig o amser, oherwydd lledaeniad disgwyliedig y coronafeirws.

"Efallai bydd angen lleihau yn sylweddol y ffiniau sydd fel arfer yn gwahanu gwasanaethau wrth i'r coronafeirws ledaenu. Bydd angen i ni symud adnoddau i le mae eu hangen, pan fydd eu hangen, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod gwasanaethau allweddol yn parhau i weithredu ar ran preswylwyr wrth i'r sefyllfa ddatblygu. Mae'r undebau llafur yn deall y sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu ac yn gwbl gefnogol i'n cynlluniau.

"Rydyn ni ar fin dechrau ffordd newydd o fyw a fydd yn gofyn i ni i gyd ailfeddwl am sut rydym yn byw ein bywydau pob dydd ac ailystyried ein disgwyliadau arferol. Ond rwy'n gwybod, fel arweinydd y Cyngor, y bydd ein staff yn gwneud eu gorau glas dros breswylwyr ein dinas a bydd ein preswylwyr yn gwneud eu gorau glas i sicrhau y bydd enw da trigolion Caerdydd am gynhesrwydd, cyfeillgarwch a gofalu am ei gilydd yn dod i'r amlwg yn y dyddiau sy'n dod."