Back
Cyfle tai cyffroud o amgylch tirnod yn y ddinas


13/03/20

Bydd y Cabinet yn ystyried cyfle cyffrous i ddatblygu tai newydd o amgylch un o dirnodau adnabyddus Caerdydd yr wythnos nesaf

 

Byddai cynllun arfaethedig ar gyfer 500 o gartrefi newydd ar yr hen safle Gwaith Nwy yn Grangetown yn ymgorffori'r cynhwysydd nwy rhestredig Gradd II fel rhan o'r datblygiad.

 

Mae argymhellion i brynu'r darn o dir 29 erw ar Heol y Fferi gan Wales and West Utilities a'r Grid Cenedlaethol yn rhan o strategaeth ddatblygu tai uchelgeisiol y Cyngor er mwyn darparu 2,000 o gartrefi cyngor newydd ar gyfer y ddinas ac fe gânt eu trafod Ddydd Iau 19 Mawrth.

 

Mae'r safle Gwaith Nwy yn ddyraniad tai allweddol yng Nghynllun Datblygu Lleol mabwysiedig Caerdydd ac mae wedi dod i'r amlwg fel cyfle newydd i'r Cyngor ddarparu cartrefi rhent cymdeithasol y mae mawr eu hangen a chartrefi gwirioneddol fforddiadwy i'w gwerthu ar y farchnad leol, yn agos at amwynderau a thrafnidiaeth leol yn yr ardal.

 

Byddai caffael y tir yn galluogi'r Cyngor i ddatblygu cartrefi cynaliadwy o ansawdd uchel ac yn helpu i sicrhau adfywiad uchelgeisiol a phellgyrhaeddol i'r rhan hon o'r ddinas, gan gysylltu'r datblygiad hwn â'n cynigion ar gyfer ystâd Trem y Môr sydd gerllaw.

 

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar y cynllun i ailddatblygu Trem y Môr i ddarparu llawer o gartrefi deiliadaeth gymysg gyda gwell cysylltedd â mannau gwyrdd a chyfleusterau a rhwydweithiau trafnidiaeth cynaliadwy gwell.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rydym ar y trywydd iawn i sicrhau bod 1,000 o gartrefi cyngor newydd yn cael eu darparu erbyn 2022 ac mae caffael safle'r Gwaith Nwy er mwyn datblygu 500 o gartrefi eraill dros y blynyddoedd nesaf yn hwb mawr i'n cynlluniau ar gyfer mwy o dai fforddiadwy.

 

"Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i adfywio'r rhan hon o'r ddinas mewn modd gwirioneddol drawsnewidiol ac i helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai Caerdydd."

 

Byddai'r cynllun arfaethedig ar Heol y Fferi yn cynnwys 500 o gartrefi newydd, gan gynnwys cartrefi teuluol yn ogystal â datblygiadau dwysedd uchel, ynghyd â mannau agored dynodedig a gwell cysylltiadau seilwaith gydag ardaloedd cyfagos. Bydd y strwythur y cynhwysydd nwy rhestredig Gradd II yn cael ei ymgorffori yn yr uwchgynllun ar gyfer y datblygiad.

 

Argymhellir bod y Cabinet yn cymeradwyo caffael y tir i fodloni dyhead y Cyngor i ddarparu 1,000 o dai cyngor newydd erbyn Mawrth 2022 a 1,000 o gartrefi newydd pellach wedi'r dyddiad hwnnw.