Back
Diweddariad Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion Caerdydd

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn cael diweddariad ar Raglen Trefniadaeth Ysgolion y ddinas pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 19, Mawrth 2020. 

Bydd adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed yn y pedwar prif faes i ddatblygu a gwella ystâd ysgolion Caerdydd. Mae'n cynnwys: 

  • cyflwyno darpariaeth newydd o dan y rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.
  • cyflwyno darpariaeth fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)
  • rhaglen cynnal a chadw asedau gwell mewn perthynas â safleoedd presennol yr ysgol
  • Buddsoddi mewn TGCh ym mhob ysgol bresennol 

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

Ariennir y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. 

Bu buddsoddiad o £164 miliwn yn ystod cam cyntaf Band A rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif i gynyddu nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Mae hyn wedi cynnwys dwy ysgol uwchradd newydd: Ysgol Uwchradd y Dwyrain mewn cydweithrediad â Choleg Caerdydd a'r Fro ar Gampws Cymunedol y Dwyrain yn Trowbridge, ac Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yng Nghaerau, yn ogystal â chwe ysgol gynradd:Ysgol Gynradd Gabalfa, Ysgol Gynradd Howardian, Ysgol Gymraeg Glan Ceubal ac Ysgol Gymraeg, Ysgol Hamardryad ac Ygol Gynradd Howardian. 

Mae buddsoddiad Band A wedi arwain at welliant sylweddol mewn addysg yn yr ysgolion dan sylw, gyda chyfran yr ysgolion a gaiff sgôr Gwyrdd gan Estyn yn y rhaglen yn codi o 34.78% i 70.3%. 

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet o'r weledigaeth arfaethedig ar gyfer cam nesaf rhaglen Ysgolion yr 21ainGanrif, cafodd strategaeth ar gyfer Band B ei llunio ym mis Rhagfyr 2017, i fynd i'r afael â nifer ddigonol o leoedd ar gael, cyflwr adeiladau'r ysgol ac addasrwydd yr amgylchedd ar gyfer addysgu a blaenoriaethu ysgolion presennol yng Nghaerdydd. 

£248.4m yw cyfanswm buddsoddiad Band B rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Yn ogystal â hynny, mae £40miliwn dros gyfnod o 5 mlynedd wedi'i addo i adnewyddu asedau addysg, a fydd yn gwella cyflwr ac addasrwydd y ddarpariaeth bresennol. 

Mae cynnydd wedi'i wneud ar raglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair, Ysgol Uwchradd Fitzalan a'r cynlluniau cysylltiedig ar gyfer Ysgol Woodlands, Ysgol Riverbank ac Ysgol Uwchradd Cantonian. Bydd prosiectau Band B eraill a nodwyd yn symud ymlaen o fewn y rhaglen. 

Mae'r Cyngor hefyd wedi cytuno mewn egwyddor darparu Ysgol Uwchradd Willows ac Ysgol Uwchradd Cathays drwy fodel buddsoddi cydfuddiannol (MIM).  Cynllun cenedlaethol yw hwn a ddatblygwyd i fenthyca arian drwy'r sector preifat i ddylunio ac adeiladu'r ysgol, a chynnal adeiladwaith yr adeilad dros gyfnod o 25 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n caffael partner sector preifat i ariannu'r projectau a darparu gwasanaethau partneru. 

Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)

Mae'r CDLl yn nodi'r seilwaith mae ei angen i hwyluso a chynnal twf y ddinas hyd at 2026. Mae hyn yn cynnwys nifer o safleoedd tai newydd, megis Plasdwr yng ngogledd orllewin y ddinas a Sant Edern yng ngogledd ddwyrain y ddinas, a fydd yn cynhyrchu cynnydd sylweddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion.

Mae'n ofynnol i ddatblygwyr ddarparu cyfleusterau a seilwaith i liniaru effaith y datblygiad drwy gytundeb Adran 106. Gwnaed cynnydd ar y ddau broject cyntaf: ysgol gynradd 1DM yn Sant Edern ac ysgol gynradd 2DM i wasanaethu cyfnodau cynnar datblygiad Plasdŵr, yn cynnwys rhannau o Greigiau, Sain Ffagan, Radur, Pentre-poeth a'r Tyllgoed. 

Bydd ysgol Plasdŵr yn ffrwd ddeuol, a drefnir fel un dosbarth mynediad yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig lleoedd cyfrwng Saesneg, gyda defnydd sylweddol fwy helaeth o'r Gymraeg o'i chymharu ag ysgol Saesneg safonol, fel y cymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Ionawr 2020. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Bydd yr ysgol ddwy ffrwd newydd yn rhoi cyfle newydd a chyffrous yn y modd y dysgir y Gymraeg i ddisgyblion mewn ysgol cyfrwng Saesneg. 

"Yn seiliedig ar lwyddiant yng ngwlad y Basg, mae'r model yn amrywiad arloesol ar ddarpariaeth ysgolion cynradd traddodiadol dwy ffrwd a bydd yn rhoi llawer mwy o ffocws ar ddysgu Cymraeg o fewn y ffrwd cyfrwng Saesneg, gan gefnogi ein dyheadau i dyfu'r Gymraeg a osodwyd yn ein strategaeth ddwyieithog." 

Adnewyddu asedau addysg

Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am 128 eiddo ysgolion ac yn dilyn asesiad, roedd angen uwchraddio llawer o safleoedd. Roedd angen rhagor o lefydd yn y ddinas ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cynnwys cyflyrau sbectrwm awtistig, anghenion dysgu cymhleth, ac anghenion ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn y blynyddoedd diweddar, rydym yn ddiau wedi gwella ystâd addysg Caerdydd, nid yn unig yn cael effaith gadarnhaol ar ddisgyblion ond hefyd ar y cymunedau sydd wedi elwa o amwynderau newydd yn eu hardal leol. 

"Yr weledigaeth sydd yn Caerdydd 2030 ydy i holl blant a phobl ifanc yng Nghaerdydd gael addysg o safon uchel a datblygu gwybodaeth, sgiliau a nodweddion sy'n eu galluogi i fod yn llwyddiannus yn bersonol, yn economaidd gynhyrchiol ac yn ddinasyddion byd-eang. 

"Wrth i fuddsoddi a datblygu barhau. byddwn yn sicrhau y bydd ein hysgolion newydd yn darparu addysg o safon uchel ac yn cynnig cyfleoedd i blant fwynhau cyfleusterau ysgol rhagorol, mewn amgylchedd dysgu sydd yn addas i'r 21ain Ganrif waeth p'un ai addysg gyfrwng Cymraeg neu Saesneg mae'r teulu yn ddewis." 

"Byddwn hefyd yn sicrhau y bydd adeiladau ysgol newydd yn amgylcheddol gyfrifol, yn effeithlon o ran adnoddau, ac yn cael eu hadeiladu gydag ymwybyddiaeth cylch bywyd llawn o'u heffaith ar ynni a charbon." 

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r Cabinet nodi'r cynnydd a wnaed o ran datblygu'r ystâd ysgolion yng Nghaerdydd o dan Fand A a rhan gynnar Band B y rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif, yn ogystal â'r Cynllun Datblygu Lleol, a rhaglen cynnal a chadw asedau ysgol well y Cyngor. 

Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod y Cabinet:

  • yn cymeradwyo sefydlu swydd y Cyfarwyddwr Rhaglen fel swydd barhaol a fyddai'n adrodd i'r Cyfarwyddwr Addysg, yn unol â strwythur cyflog y Cyngor ar lefel Cyfarwyddwr Cynorthwyol
  • yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes (gan ymgynghori ag Aelodau'r Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau a Chyllid, Moderneiddio a Pherfformiad, y Cyfarwyddwr Llywodraethu a Gwasanaethau Cyfreithiol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Adnoddau, a'r Cyfarwyddwr Datblygu Economaidd) i benderfynu ar bob agwedd o'r broses gaffael* ar gyfer ysgolion a gaiff eu hadeiladu o'r newydd o fewn Rhaglen Trefniadaeth Ysgolion y cytunwyd eu bwrw ymlaen i'w gweithredu gan y Cabinet.

*(gan gynnwys, i osgoi amheuaeth, datblygu'r holl ddogfennau caffael a'r meini prawf dethol a dyfarnu, dechrau caffael hyd at ddyfarnu contractau)

Nodiadau i olygyddion 

Projectau a gyflawnwyd o dan raglen pum mlynedd Band A Ysgolion y 21ain Ganrif (2014 tan 2019) 

  • Dwy ysgol uwchradd newydd:
    • Ysgol Uwchradd y Dwyrain, ar y cyd â Choleg Caerdydd a'r Fro, ar gampws dysgu a rennir arloesol
    • Ysgol Uwchradd Gymunedol y Gorllewin, ysgol fraenaru â phartneriaid creadigol, a fydd yn agor dros y Pasg
       
  • Chwe ysgol gynradd newydd:
    • Pontprennau
    • Howardian
    • Ysgol Glan Morfa
    • Ysgol Gabalfa ac Ysgol Glan Ceubal
    • Ysgol Hamadryad
       
  • Gwelliannau i ysgolion sy'n bodoli eisoes, er enghraifft:
    • ‘Ciwb Dysgu' Ysgol Gynradd Coed Glas
    • Estyniad i Ysgol Gynradd Adamsdown