Back
Problem baw anifeiliaid anwes yn ein hailgylchu

13.03.2020

Lansiwyd yn ein cynllun Sticer Pinc wythnos diwethaf a chofnodwyd ychydig dros 4,000 achos o fagiau gwyrdd neu finiau compost wedi'u halogi

Y tri phrif eitem yw:

  • Cewynnau
  • Tecstilau
  • Gwastraff bwyd

Fodd bynnag, mae ein criwiau hefyd wedi dod ar draws rhywfaint o ysgarthion anifeiliaid gyda'r gwastraff ailgylchu.

Dylai gwastraff anifeiliaid anwes fynd yn eich bin du neu fag streipiog.

Gallwch hefyd gael gwared ar faw ci mewn unrhyw fin sbwriel sydd ar gael, nid oes angen ei roi mewn bin baw ci yn unig. 

Mae perchenogion cŵn a'u cŵn yn cael eu hannog i gofrestru i fod yn hyrwyddwyr lleol i'n hymgyrch Dim Ond Ôl Pawen - ffordd gyfeillgar, ddi-wrthdaro o newid agweddau ac ymddygiad pobl o ran baw cŵn.

Mae hyrwyddwyr lleol yn cario bagiau ychwanegolf elly os nad oes gan berchennog ci un gallwch ofyn wrth Hyrwyddwr. Mae modd eu hadnabod drwy fathodynnau ‘Dim Ond Ôl Pawen' sydd ganddyn nhw a'u ci.

I gael rhagor o wybodaeth, neu i fod yn hyrwyddwr, mwy yma.

Os nad ydych yn siŵr p'un a yw eitem yn gallu mynd yn eich bag ailgylchu gwyrdd, gweler ein Ailgylchu A-Y  cyn i chi daflu.

I gael gwybod sut i gael gwared ar glytiau, tecstilau ac eitemau gwastraff bwyd yn gywir, edrychwch ar ein cyngor  yma.

Dysgwch fwy am yr ymgyrch Sticer Pinc  yma  a dilyn #OsPincYGweliCofianHapêlNi ar y cyfryngau cymdeithasol.