Back
Buddsoddi yng nghymunedau Caerdydd


 13/03/20

Mae buddsoddi mewn tai newydd a gwell ar draws cymdogaethau lleol a chyflwyno cynlluniau adfywio mawr i greu cymunedau cynaliadwy sydd â chysylltiadau da yn ganolog i gynllun busnes tai'r Cyngor.

 

Mae cynllun busnes Cyfrif Refeniw Tai yr awdurdod ar gyfer 2020/21, y mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sy'n cadw stoc yng Nghymru ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn atgyfnerthu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer darparu 2,000 o gartrefi cyngor newydd mawr eu hangen yn y ddinas i fynd i'r afael â galw mawr, ac mae'n ymrwymo i amrywiaeth o gynlluniau i adnewyddu cymunedau a darparu gwasanaethau mewn modd cydlynol i ateb anghenion preswylwyr.

 

Mae'r cynllun yn tynnu sylw at brosiectau cyffrous fel ail gam cynllun ailddatblygu Maelfa yn Llanedern, gan gynnwys Hyb Iechyd a Lles integredig newydd a 41 eiddo 'parod ar gyfer gofal' newydd, a'r gwaith sydd ar y gweill i adfywio ystâd Trem y Môr yn Grangetown. Bydd yr ailddatblygiad hwn yn darparu cartrefi ynni-effeithlon newydd, gwell cysylltedd â mannau gwyrdd a chyfleusterau, a rhwydweithiau trafnidiaeth gynaliadwy gwell.

 

Mae gwaith adfywio ar y gweill hefyd yn Anderson Place a Galston Street yn Adamsdown a Bronte Crescent ac Arnold Avenue yn Llanrhymni ac mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo â thrigolion ynghylch cynigion ar gyfer cynllun yn Round Wood, Llanedern. Mae gwaith cwmpasu a dylunio cychwynnol wedi dechrau ar ddau gynllun adfywio ystâd yn Trowbridge Green, Tredelerch a Lincoln Court, Llanedern. 

 

 

 

Mae mwy o gydweithio â'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn thema allweddol yng nghynllun busnes 2020/21 er mwyn darparu a gwella gwasanaethau i gymunedau. Mae'r Cyngor yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i gyflwyno prosiectau fel yr Hybiau Cymuned a Lles newydd yn yr Eglwys Newydd a Rhydypennau, a chyfleuster y Capel yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd a hybiau ieuenctid newydd yng nghanol y ddinas ac yn Butetown, a fydd yn cynnwys gwasanaethau integredig ar gyfer pobl ifanc, gan eu helpu i gael y sgiliau a'r profiad mae arnynt eu hangen i lwyddo.

 

Mae'r cynllun yn rhoi diweddariad ar gynlluniau'r Cyngor ar gyfer 2,000 o dai cyngor newydd, y diweddaraf ar ei brosiect adnewyddu fflatiau uchel i ailosod cladin mewn pum bloc o fflatiau, y gwaith llwyddiannus sy'n cael ei wneud yn rhwydwaith hybiau cymunedol y ddinas a'r ymrwymiad parhaus i sicrhau bod y gwasanaethau gorau posibl ar gael i unigolion digartref, yn enwedig y rhai sydd ag anghenion cymhleth, er mwyn eu helpu i gael eu bywydau yn ôl ar y trywydd iawn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Unwaith eto, mae Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai eleni yn uchelgeisiol a phellgyrhaeddol, gan sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaethau gorau y gallwn i bobl yng Nghaerdydd.

 

"Mae ein strategaeth newydd yn cynrychioli'r rhaglen adeiladu tai cyngor fwyaf yng Nghymru a buddsoddiad o £280m i adeiladu cartrefi ynni-effeithlon, cynaliadwy, fforddiadwy o ansawdd trwy'r ddinas.

 

"Er bod darparu 2,000 o dai cyngor newydd yn rhan hanfodol o'n gweledigaeth, mae hefyd yn bwysig ein bod yn buddsoddi mewn cymunedau fel Trem y Môr a Maelfa, yn ogystal â chyfleusterau a gwasanaethau er mwyn i fanteision ein buddsoddiad gael effaith trwy'r ddinas.

 

"Mae gennym nifer o gynlluniau adfywio cyffrous, sydd naill ai yn mynd rhagddynt neu sydd ar y gweill, a fydd yn rhoi bywyd newydd i gymunedau lleol gan greu amgylchedd mwy deniadol a gwell cysylltedd i bobl leol.

 

"Rwy'n falch iawn ein bod yn parhau i berfformio'n eithriadol o dda yn ôl Safonau Ansawdd Tai Cymru a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein stoc, gyda rhaglenni gwella sy'n cynnwys gwaith toi, gosod drysau ffrynt newydd, newid ffenestri ac wrth gwrs, gwaith diogelwch ar adeiladau uchel yn disodli'r cladin a dynnom ddwy flynedd yn ôl.

 

"Rydyn ni hefyd yn ymrwymo i ddiwallu anghenion y boblogaeth sy'n heneiddio, gan adeiladu ac addasu cartrefi i helpu pobl i aros yn annibynnol, gan gynnwys ein cynlluniau newydd cyffrous "parod ar gyfer gofal" sy'n cynnig cartrefi hyblyg o safon i bobl hŷn a fydd, yn eu tro, yn rhyddhau cartrefi teuluol i'w gosod."

 

Ystyrir cynllun busnes Cyfrif Refeniw Tai Caerdydd gan y Cabinet yn y cyfarfod nesaf ddydd Iau 19 Mawrth.