Back
Cronfeydd dŵr y brifddinas i gael hwb ariannol i ddod yn hybiau ar gyfer iechyd a lles


10/3/2020
 

Mae safle dwy gronfa ddŵr, lle mae gwaith adfer pwysig yn cael ei wneud ar hyn o bryd, wedi cael hwb ariannol i gynorthwyo eu gwytnwch ecolegol er mwyn ailgysylltu pobl â'r ardal hoff yma, a chreu hyb ar gyfer iechyd y lles yn y brifddinas at y dyfodol.

Mae cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien, sydd yn ngofal Dŵr Cymru, wedi llwyddo i ddiogelu grant gwerth £930,000 trwy Gynllun 'Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles' (ENRaW) Llywodraeth Cymru.  Mae'r grant yn cynorthwyo prosiectau sy'n gwella ansawdd yr amgylchedd lleol a bioamrywiaeth, gan ddatblygu rhwydweithiau ecolegol gwydn, a hynny wrth ehangu mynediad at seilwaith gwyrdd cynaliadwy sy'n gysylltiedig â lles y boblogaeth ar led. 

Ers cymryd awenau'r safle yn 2016, mae Dŵr Cymru wedi bod yn  gweithio gyda'r gymuned leol i geisio deall eu safbwyntiau am agor y safle i'r cyhoedd yn y dyfodol.  Gan gydnabod potensial y cronfeydd dŵr o ran yr amgylchedd a lles, ffurfiodd y cwmni cyfleustod nid-er-elw bartneriaeth â Grŵp Gweithredu'r Gronfa Ddŵr (RAG), Cyngor Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ymgeisio am y grant. 

Mae'r safle'n adnodd naturiol unigryw sydd o bwys arwyddocaol i ecoleg.  Mae'r cronfeydd, sydd  mewn ardal breswyl yng ngogledd Caerdydd, yn cwmpasu dau Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac mae yno Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC) hefyd. Datblygwyd prosiect ENRaW Llys-faen a Llanisien trwy bartneriaeth arloesol sy'n ffrwyno arbenigedd 3 sector gwahanol: cwmni cyfleustod dŵr, y sector statudol a'r sector gwirfoddol.  Bydd y bartneriaeth yn ailgysylltu pobl â dŵr ac â'n hamgylchedd prydferth wrth gynnal, amddiffyn a chyfoethogi gwerth ecolegol y safle.

Bydd y bartneriaeth yn galluogi Dŵr Cymru i weithio ar y cyd ag eraill i ddarparu adnoddau naturiol a lles, wrth amddiffyn a chyfoethogi bioamrywiaeth y safle er budd cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd y grant yn hwyluso datblygiad seilwaith gwyrdd a gwaith i gyd-greu rhaglen i ymgysylltu'r gymuned, a fydd yn cynnwys canghennau gwirfoddoli, addysgu a chymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys creu ardaloedd cadwraeth a pharth dysgu, gan osod llwybrau cerdded, deunyddiau dehongli a chuddfannau gwylio adar fel y gall pobl fwynhau'r cyfoeth o adar dŵr sy'n byw wrth y cronfeydd. 

 

Dywedodd Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Bydd y cyllid ENRaW yma'n gwneud gwahaniaeth aruthrol i'r ddwy gronfa, gan hybu eu bioamrywiaeth a chyfoethogi eu hamgylchedd. Yn ogystal â chreu cyfleoedd i'r gymuned leol allu mwynhau a dysgu am y natur fendigedig sydd o'u cwmpas a'u cynorthwyo i wella eu hiechyd a'u lles eu hunain, byddan nhw'n gallu cymryd cyfrifoldeb eu dros y datblygiad eu hunain hefyd, ac ymgysylltu â'r safleoedd trwy weithgareddau a chyfleoedd i wirfoddoli."

Dywedodd Peter Perry, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr Cymru: "Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi  llwyddo i ddiogelu cyllid ENRaW.  Trwy ffrwyno brwdfrydedd ac ymroddiad y gymuned leol, bydd y cyllid yn cynorthwyo datblygiad cyfleusterau allweddol a fydd yn creu'r cyfleoedd hamdden gorau posibl i fodloni anghenion iechyd a lles pobl Caerdydd a de Cymru; a hynny wrth amddiffyn a chyfoethogi nodweddion arbennig, ecoleg a bioamrywiaeth y safle."

Dywedodd Richard Cowie, Cadeirydd y Grŵp Gweithredu dros y Gronfa: "Fel grŵp sydd wedi bod yn brwydro ers dros 15 mlynedd i amddiffyn y safle'r cronfeydd rhag datblygiadau tai, rydyn ni wrth ein boddau i gael gweithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru i sicrhau bod y safle hwn sydd o bwys hanesyddol ac ecolegol, yn cael ei fwynhau a'i amddiffyn am genedlaethau i ddod".

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bydd dod â'r cronfeydd yn ôl i ddefnydd yn creu ased go iawn i bobl Caerdydd, ac mae'r cyllid yma'n gam pwysig tuag at gyflawni hynny.  Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd y cronfeydd yn darparu cyfleoedd sylweddol ar gyfer trigolion o ran iechyd a lles, a, thrwy eu cysylltu â thir gwyrdd arall yn lleol, byddant yn rhoi hwb gwirioneddol i fywyd gwyllt a bioamrywiaeth Caerdydd."

 

Dywedodd Cheryl Williams, Prif Arbenigydd Hybu Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth ei fodd i fod yn rhan o'r prosiect cyffrous yma sy'n canolbwyntio ar adfywio cyfleuster cymunedol pwysig. Bydd amrywiaeth o grwpiau cymunedol yn gallu defnyddio'r cronfeydd a'r llwybrau o'u hamgylch i gerdded, ac i fwynhau chwaraeon dŵr a'r amgylchedd naturiol, ac mae hyn yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles unigolion. Bydd trigolion lleol yn gallu defnyddio'r cyfleuster yn rhan o ddull o fynd ati i wella iechyd sy'n seiliedig ar bresgripsiynau cymdeithasol, gyda chysylltiadau ar draws nifer o brosiectau cyfredol."

 

Er mwyn sicrhau bod modd gwireddu holl fanteision y cyfleusterau y bydd y cyllid yn eu cynorthwyo, bydd y bartneriaeth yn cydweithio ag amrywiaeth eang o grwpiau a sefydliadau lleol yn y brifddinas a'r cyffiniau i feithrin cysylltiadau rhwng y gymuned a safle'r gronfa.  Y nod yw cysylltu cynifer o bobl â phosibl mewn gweithgareddau neu gyfleoedd i wirfoddoli ar y safle; gan ddysgu am yr ecoleg a helpu i ofalu am y safle gwerthfawr yma yn y dyfodol.

Ers 2016, mae Dŵr Cymru wedi bod yn gweithio i adfer y cronfeydd gan ymgysylltu'r gymuned leol yn y gwaith o bennu'r cynlluniau ar gyfer mynediad cyhoeddus a hamdden at y dyfodol.  Mae amrywiaeth awgrymiadau wedi dod i law o ran y mathau o weithgareddau yr hoffai pobl eu gweld ar y safle yn y dyfodol. Yn eu plith mae chwaraeon dŵr - ac yn arbennig hwylio, canŵio, caiacio, nofio dŵr agored; pysgota; llwybrau cerdded a rhedeg; lleoedd i fynd â chŵn am dro, a chaffi.   Nod y cwmni yw cwblhau ei gynigion ar gyfer y safle yn y gwanwyn.

Dylai unrhyw sefydliadau, grwpiau cymunedol neu elusennau sydd am gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd partneriaeth a allai fod ar gael ar y safle gysylltu â Dŵr Cymru yn lisvaneandllanishen@dwrcymru.com