Back
Yr Ŵyl Lesiant yn mynd tua'r Gorllewin

10/3/20

Mae Gwasanaethau Byw'n Annibynnol Cyngor Caerdydd yn cynnal yr ŵyl lesiant nesaf yng ngorllewin y ddinas yn ddiweddarach y mis hwn i annog pobl yn yr ardal i gysylltu â'u cymunedau.

 

Bydd yr Ŵyl Corff Heini, Meddwl Iach 50+ yn cael ei chynnal dros dri diwrnod yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin Ddydd Llun, 23 Mawrth, yn Hyb Trelái a Chaerau, Ddydd Mercher 25 Mawrth ac yn Neuadd Gymunedol Treganna Ddydd Gwener, 27 Mawrth a bydd yn arddangos gwasanaethau'r cyngor a'i bartneriaid yn yr ardal ar gyfer pobl dros eu 50au.

 

Yr ŵyl yw'r digwyddiad diweddaraf i gael ei drefnu gan Wasanaethau Byw'n Annibynnol, sy'n helpu pobl i fyw'n annibynnol gartref ac i gysylltu â'u cymunedau, i dynnu sylw at weithgareddau a gwasanaethau yn y ddinas a all fod o fudd i iechyd a llesiant pobl. Bydd gan bob diwrnod ei thema - Celf a Chrefft, Chwaraeon a Gemau, Cerddoriaeth, Canu a Dawns, a bydd hyn yn berthnasol i'r gweithgareddau a'r wybodaeth a gynigir ar y diwrnod hwnnw.

 

Bydd ystod o sefydliadau ac elusennau yn cymryd rhan yn yr ŵyl er mwyn rhoi gwybodaeth am wasanaethau yn cynnwys Gwasanaethau Pryd ar Glud a Theleofal y Cyngor, Gofal a Thrwsio, Diabetes Cymru, Age Connects, Sightlife Wales, Dewis Cymru a llawer mwy. Bydd ysgolion lleol hefyd yn bresennol i gymryd rhan mewn sesiynau blasu ar amryw weithgareddau sy'n pontio'r cenedlaethau.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Mae gwyliau Corff Heini Meddwl Iach 50+ yn ffordd wych o gysylltu pobl â gwasanaethau lleol yn eu cymuned, a chael llawer o hwyl wrth wneud hynny.

 

"Rydym wedi bod wrth ein boddau â‘r ymateb a gafodd y gwyliau yng ngogledd y ddinas ac yn Llaneirwg, felly rydym yn edrych ymlaen at ddod â nhw i Drelái a Threganna yn ddiweddarach y mis hwn i annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd ar stepen eu drws, i gwrdd â ffrindiau newydd efallai a rhoi hwb i'w llesiant yn y broses."

 

Mae'r gweithgareddau chwaraeon a gemau ar Ddydd Llun, 23 Mawrth yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin yn cynnwys chwaraeon cerdded, bowls, sesiwn hel atgofion chwaraeon, atal cwympo a mwy. Mae gweithgareddau Dydd Mercher yng Nghanolfan Trelái a Chaerau yn canolbwyntio ar gelf a chrefft a bydd yn cynnwys gwybodaeth am hobïau a grwpiau cymdeithasol yn ogystal â'r grŵp canu poblogaidd Goldies.

 

Mae diwrnod olaf yr ŵyl yn symud i Neuadd Gymunedol Treganna ddydd Gwener, 27 Mawrth gyda pherfformiadau dawns a chôr yn cynnwys cerddoriaeth o bob degawd.