Back
Dathlu Canrif o Dai Cyngor yng Nghaerdydd


10/03/20

Bydd cyfres o ddiwrnodau hwyl i'r gymuned yn cael eu cynnal mewn canolfannau a llyfrgelloedd i ddathlu canmlwyddiant tai cyngor yng Nghaerdydd.

 

Caiff digwyddiadau ‘Dathlu Cymdogaethau' llawn hwyl eu cynnal ledled y ddinas i nodi canmlwyddiant ers i'r tŷ cyngor cyntaf gael ei godi yng Nghaerdydd.

 

Mae Caerdydd yn ymuno â chynghorau ledled y DG i nodi'r garreg filltir, ar ôl i Ddeddf Addison 1919 roi'r dasg i awdurdodau lleol ddarparu cartrefi newydd i fodloni'r galw yn eu hardaloedd, yng nghanol prinder tai difrifol bryd hynny. Er bod cyngor y ddinas ar y pryd wedi ymrwymo i ddarparu eiddo yn 1919, ni chafodd y tŷ cyngor cyntaf ei godi yn y brifddinas tan y gwanwyn, 1920.

 

Bydd digwyddiadau eleni yn dathlu tai cyngor dros y 100 mlynedd diwethaf, gan ddechrau Ddydd Mercher 11 Mawrth gyda diwrnod cymunedol ar thema'r 1920au i'r 1940au yn Hyb Trelái a Chaerau, sef yr ardal lle'r adeiladodd y Cyngor stoc ar raddfa fawr yn y 1920au.

 

Cynhelir digwyddiadau hefyd yn Hyb STAR, Hyb Llanrhymni, HybThe Powerhouseyn Llanedern a Hyb Llaneirwg.

 

Gwahoddir cymunedau i ddod i'r digwyddiadau lle bydd gweithgareddau i'r teulu am ddim, gemauretro, lluniaeth, cerddoriaeth, cyfle i ddysgu am hanes tai cyngor yn y ddinas gan ddefnyddio'r adnoddau yn Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays a chyfle i rannu eu hatgofion a'u profiadau o fyw mewn tŷ cyngor dros y blynyddoedd gyda chyd-denantiaid ac eraill.

 

Bydd cystadleuaeth ledled y ddinas yn cael ei lansio yn ystod y diwrnod hwyl cymunedol yn Hyb Trelái a Chaerau, gan roi tasgau i blant o dan 16 oed i ddylunio ac adeiladu tŷ cyngor o'r 1920au, 1930au, 1950au neu'r 1960au arMinecraft.  Bydd yr enillydd yn casglu tocyn rhodd Amazon i'w hunain a sesiwn clwbMinecraftam ddim i'w hysgol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Roedd 1919 yn cynrychioli cam pwysig ymlaen o ran darparu tai yn y DG ond nid tan 1920 y cafodd y tŷ cyngor cyntaf ei godi yng Nghaerdydd a dyma pam rydym yn dathlu eleni.

 

"Ychydig dros 100 mlynedd yn ddiweddarach ac mae tai cyngor yn parhau i fod yn adnodd hanfodol. Rydym wedi dod ymhell iawn ers hynny, ond yr hyn sydd heb newid yw'r angen i fynd i'r afael â phwysau cynyddol am dai fforddiadwy, ac rydym yn gwneud hynny drwy ein strategaeth datblygu tai.

 

"Y strategaeth hon yw'r rhaglen adeiladu tai cyngor fwyaf yng Nghymru gyda buddsoddiad o £280 miliwn yn y gwaith o godi cartrefi ynni-effeithlon, cynaliadwy, fforddiadwy o ansawdd uchel.

 

"Rydym yn gwybod bod tai fforddiadwy yn bwysig i deuluoedd ac rydym yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu tai cyngor i'r bobl sydd eu hangen fwyaf.  Dyna pam rydyn ni'n adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr eto fel rhan o'n rhaglen ddatblygu uchelgeisiol i adeiladu 2,000 o dai fforddiadwy o ansawdd da, a bydd 1,000 o'r rhain yn cael eu cwblhau erbyn 2022.

 

"Bydd y digwyddiadau hyn mewn hybiau yn gyfle i nodi'r garreg filltir hanesyddol hon, cofio a dathlu'r tai cyngor a godwyd yn y ddinas dros y 100 mlynedd diwethaf, ond rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at y cynlluniau cyffrous sydd gennym ar gyfer y dyfodol. Mae croeso i bawb ymuno â ni ac rydyn ni'n edrych ymlaen at glywed atgofion pobl o dai cyngor yng Nghaerdydd dros y blynyddoedd. "

 

Nodwyd mewn cofnodion cyngor ac adroddiadau papur newydd o 1919 a gedwir yn Llyfrgell Cangen a Threftadaeth Cathays sut y nododd yr awdurdod lleol yr angen yn y lle cyntaf i ddarparu 1,000 o dai cyngor dros dair blynedd yn y ddinas. Mae cofnodion hefyd yn dangos cynlluniau ar gyfer cynllun tai ar stryd Eldon, sef Ninian Park Road erbyn hyn yng Nglanyrafon, yn ogystal â datblygiadau mawr ym Mynachdy a Threlái.

 

Cafodd y tenant cyntaf i gymryd meddiant o'i gartref cyngor newydd yng Nghaerdydd, yn dilyn Deddf Addison, yr allweddi i'w eiddo ar Stryd Eldon ym y Haf 1920.