Back
Cyngor teithio ar gyfer Cymru v yr Alban yn Stadiwm Principality

Gyda'r stadiwm yn llawn, bydd Cymru yn chwarae'n erbyn yr Alban ar ddydd Sadwrn 14 Mawrth yn Stadiwm Principality.

Bydd y gic gyntaf am 2.15pm a bydd ffyrdd ar gau'n llwyr yng nghanol y ddinas o 10.45am tan 5.15pm i ddiogelu'r cyhoedd.

Bydd gatiau'r stadiwm yn agor am 11.15am a chynghorir pob cefnogwr i fynd i'r stadiwm yn gynnar i osgoi methu'r gic gyntaf.

Cynghorir y rhai fydd yn mynychu'r gêm i adael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r rhestr o eitemau a waherddir yn  principalitystaidum.wales cyn teithio i'r ddinas.

Cau ffyrdd

Bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau yn gynnar y diwrnod hwnnw i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr fydd yn ciwio.

Caiff y ffyrdd canlynol eu cau fel rhan o batrwm cau ffyrdd llawn canol y ddinas, am 10.45am

  • Ffordd y Brenin o'r gyffordd â Heol y Gogledd i'r gyffordd â Heol y Dug.
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o'r gyffordd â Heol y Gadeirlan i'r gyffordd â Heol y Porth.
  • Stryd Tudor o'r gyffordd â Clare Road i'r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Arglawdd Fitzhammon).
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o'r cyffyrdd â Despenser Place i'r cyffyrdd â Tudor Street (caniateir mynediad i drigolion a masnachwyr.)
  • Bydd y ffyrdd canlynol ar gau'n gyfan gwbl: Heol y Dug, Heol y Castell, Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.
  • Bydd mynediad i fysus yn unig i Rodfa'r Orsaf a Stryd Guildford o'r gyffordd â Heol Casnewydd at y gyffordd â Ffordd Churchill yn ystod yr amseroedd cau ffyrdd. Bydd hyn er mwyn sicrhau bod mynediad dibynadwy i fysus at y mannau lloeren yn Ffordd Churchill.

Ychwanegiadau: 
Canolfan Ddinesig: Rheolir mynediad i ran o'r Ganolfan Ddinesig drwy'r dydd. Caniateir mynediad yn unig i barcio ar gyfer y digwyddiad, rhywfaint o barcio ar gyfer cymudwyr, llwytho a mynediad i feysydd parcio preifat.

Dyma'r ffyrdd yr effeithir arnynt: Rhodfa'r Brenin Edward VII, Rhodfa'r Amgueddfa, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg a Heol Gerddi'r Orsedd.

Sylwer: 
Os bydd unrhyw bryderon diogelwch oherwydd tyrfaoedd yn ciwio i gael mynd i mewn i'r stadiwm cyn i'r gatiau agor, efallai y bydd angen cau Stryd Wood a Heol y Porth yn gynharach, yn ogystal â chau lonydd ger Gât 1 ar Heol Ddwyreiniol y Bont-faen.

Os bydd unrhyw bryderon ynghylch y system giwio yng Ngorsaf Caerdydd Canolog, bydd Stryd Wood, Heol y Porth, Heol y Parc, Stryd Havelock, Heol Eglwys Fair, Heol Penarth, Heol Saunders a Heol y Tollty oll yn aros ynghau hyd nes y bydd y pryderon diogelwch hynny wedi eu datrys.

Trenau

Mae Network Rail yn cynghori bob cwsmer nad oes gwaith peirianneg ar ddydd Sadwrn 14 Mawrth, ond bydd gwaith peirianneg yn cael ei gynnal y diwrnod wedyn ar ddydd Sul 15 Mawrth a bydd bysus yn disodli trenau rhwng y cyrchfannau canlynol:

  • Radur - Treherbert/Aberdâr a Merthyr Tudful tan 12.30pm
  • Port Talbot Parkway/Abertawe - Caerfyrddin trwy'r dydd

Cynghorir teithwyr i gynllunio eu taith ymlaen llaw drwy fynd i  www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 0000.

Ar gyfer holl wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, ewchwww.tfwrail.cymruar ddiwrnod eich taith i sicrhau bod eich gwasanaeth yn rhedeg neu dilynwch Trafnidiaeth Cymru ar twitter drwy @tfwrail.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi gwybod i'r holl gwsmeriaid y bydd trenau yn ardal Caerdydd yn brysur drwy'r dydd ar Ddydd Sadwrn 14 Mawrth. Cynghorir y sawl sy'n teithio i'r ddinas i wylio'r gêm adael digon o amser ar gyfer eu taith.

Bydd system rheoli torfeydd lawn ar waith yng Ngorsaf Caerdydd Canolog. Bydd holl wasanaethau'r Cymoedd yn gadael o gefn yr orsaf ym maes parcio Heol Penarth. Bydd gan wasanaethau gapasiti ychwanegol lle y bo'n bosib.

Bydd Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn cau amXpm i gwsmeriaid sy'n gadael y ddinas a bydd system giwio ar waith ar ôl y gêm yng ngorsaf Caerdydd Canolog.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4, ewch tua'r de ar yr A470 i ganol y ddinas a dilyn yr arwyddion i'r ganolfan ddinesig.

Cost: £12 os byddwch yn archebu ymlaen llaw drwy'r ddolen hon: cliciwch  yma neu £15 ar y dydd yn y maes parcio (arian parod yn unig).

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos. 

Parcio ar gyfer Digwyddiad yn y Ganolfan Ddinesig (Bysus)

Cost: £25 ar y dydd neu £25 os cadwch le o flaen llaw: cliciwch    yma 

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Parcio a Theithio ar gyfer Digwyddiad yn Lecwydd

Bydd gwasanaeth Parcio a Theithio ar gael yn Lecwydd, a gellir ei gyrraedd o gyffordd 33 yr M4 drwy ddilyn yr arwyddion i'r safle.

I gadw lle Parcio a Theithio ymlaen llaw -  cliciwch yma 

Os bydd cwsmeriaid yn archebu Parcio a Theithio ymlaen llaw, bydd angen iddynt argraffu'r cadarnhad a'i roi i staff wrth gyrraedd y safle. Y man gollwng yw Fitzhamon Embankment.

Mae'r safle Parcio a Theithio 1.5 milltir o ganol y ddinas, sy'n cymryd oddeutu 10 i 15 munud.

Os cadwch le ymlaen llaw, y gost fydd £8, neu £10 ar y diwrnod (arian parod yn unig)

Bydd staff yn cyrraedd y maes parcio am 8.30am, gyda'r safle yn agor am 9am a'r bws cyntaf yn gadael am 9am. Bydd y bws olaf yn gadael y man casglu am 6pm a bydd y maes parcio'n cau am 6.30pm.

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Gerddi Sophia (ceir)

(Tua 0.5 milltir o gerdded i Stadiwm Principality, Gât 2).

Parcio ar gyfer Digwyddiad yng Ngerddi Sophia

Cyrraedd yno: Gadewch wrth gyffordd 32 yr M4.

Cost - £15 i'w dalu ar y diwrnod yn y maes parcio (arian parod yn unig)

Amseroedd parcio: Bydd y maes parcio yn agor am 8am ac yn cau am hanner nos.

Sylwer: Bydd staff ym maes parcio Gerddi Sophia tan 6pm. Gadewir pob cerbyd ar y safle ar risg y perchennog. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am unrhyw ladrad neu ddifrod i geir nac i eiddo personol. Cyflwynir dirwy i unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael yn y maes parcio ar ôl yr amser cau.

Bws
Bysus lleol:

Hoffai Bws Caerdydd roi gwybod i gwsmeriaid y bydd gwasanaethau canol y ddinas yn rhedeg o leoliadau gwahanol o 10.45am i 5.45pm.

Yn lle mynd i'r safleoedd ar y ffyrdd fydd ar gau, bydd y bysus naill ai'n mynd i Ffordd Churchill tua'r dwyrain, Heol y Brodyr Llwydion tua'r gogledd neu Stryd Tudor tua'r gorllewin.

Ewch i wefan y gweithredwr bws perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am eich llwybrau bws penodol.

Ar gyfer gwasanaethau Bws Caerdydd, ewch i:  https://www.cardiffbus.com/principality-stadium 

National Express:
 
Bydd bysus National Express yn defnyddio Gerddi Sophia fel yr arfer.

Traffyrdd a chefnffyrdd

Fel yn achos pob digwyddiad mawr, anogir deiliaid tocynnau i gynllunio ymlaen llaw a chaniatáu ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd prysur. Disgwylir i goridor yr M4 a'r ffyrdd sy'n arwain i Gaerdydd fod yn brysur iawn.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Gall y rheini sy'n byw yng Nghaerdydd feicio neu gerdded.Mae ymchwil yn dangos bod 52% o'r teithiau car ym mhrifddinas Cymru yn llai 5km o hyd. Mae hwn yn bellter y gellir ei feicio yn braf mewn 20 munud.

Gwyddom hefyd fod 28% o drigolion Caerdydd nad ydynt yn beicio ar hyn o bryd yn dymuno gwneud hynny.

Pan fo tagfeydd ar y ffyrdd, mae hyn yn gwneud beicio yn ddewis mwy atyniadol fyth gan y byddai teithio ar feic yn gynt na char ar yr oriau brig neu yn ystod digwyddiadau mawr.

Parcio i Siopwyr

Argymhellir i siopwyr ddefnyddio'r safleoedd Parcio a Theithio penodol ym Mhentwyn neu Neuadd y Sir. Neu mae meysydd parcio ar gael yng nghanol y ddinas hefyd: Meysydd Parcio Heol y Gogledd; Canolfan Siopa Dewi Sant; John Lewis; Canolfan Siopa Capitol; NCP (Adam Street, Plas Dumfries a Heol y Brodyr Llwydion)

Parcio i Bobl Anabl

Argymhellir bod gyrwyr anabl yn defnyddio Gerddi Sophia. Mae lleoedd parcio i bobl anabl hefyd ar gael mewn meysydd parcio preifat amrywiol.

Gweler argaeledd ar wefannau unigol.

Tacsis

Bydd safle tacsi Heol Eglwys Fair (y tu allan i House of Fraser) yn cau am 10.45am ac yn ailagor am 5.15pm.