Back
Diwrnod Agored y Gwanwyn ym Mharc Bute
Mae taith i Barc Bute wrth iddo ddeffro o drwmgwsg y gaeaf bob amser yn arbennig, ond i unrhyw un sy'n chwilio am reswm ychwanegol i ymweld â chalon werdd y ddinas y mis hwn, mae'r Parc yn cynnal Diwrnod Agored y Gwanwyn a fydd yn cynnwys amrywiaeth o sgyrsiau, teithiau a gweithgareddau i'r teulu.

Mae'r digwyddiad sy'n rhad ac am ddim yn dilyn llwyddiant y llynedd pan ddathlwyd pen-blwydd y Parc yn 70. Bryd hynny agorwyd meithrinfeydd y Parc i'r cyhoedd am y tro cyntaf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae cael Parc Bute yng nghalon y ddinas yn un o'r llu o bethau sy'n gwneud Caerdydd yn arbennig, ac mae hwn yn gyfle gwirioneddol dda i gael gwybod mwy am ei hanes, y gwaith sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni, a chael rhai cynghorion gan yr arbenigwyr sy'n gweithio yno bob dydd ." 

Yn rhan o'r digwyddiad a gynhelir yng Nghanolfan Addysg Parc Bute ar ddydd Sadwrn 28 Mawrth mae:

·         Sgwrs am Erddi Fictoraidd Parc Bute a'u cysylltiadau ag ystâd deuluol Bute ar Ynys Bute.

·         Taith dywys yn archwilio casgliad coed enwog y Parc.

·         Gwenynwr preswyl Parc Bute yn siarad am y cychod gwenyn a gyflwynwyd i'r Parc yn ddiweddar.

·         Cyfle i gael cynghorion gan dîm o arddwyr arbenigol y Parc wrth iddyn nhw gymryd rhan ym mhanel 'Gardener's Question Time'.

·         Cyfle prin i fynd ar daith o amgylch y tai gwydr lle mae tîm Meithrinfeydd Parc Bute yn tyfu planhigion ar gyfer basgedi crog, potiau blodau a pharciau'r ddinas, a chyfle i ymweld â Gardd Salad Caerdydd - menter gymdeithasol arloesol sy'n tyfu llysiau salad ar gyfer bwytai'r ddinas ac sy'n gwella iechyd meddwl.

·         Clywed perchennog Caffi'r Ardd Gudd yn disgrifio ryseitiau sy'n defnyddio llysiau tymhorol y gallwch fynd â nhw gyda chi a rhoi cynnig arnynt gartref.

·         Gwerthiant planhigion, wrth i Feithrinfeydd Parc Bute agor eu drysau i'r cyhoedd am y tro cyntaf eleni a Ffeiriau Planhigion Caerdydd yn y Parc sydd ag amrywiaeth o blanhigion arbenigol i'w prynu.

·         Llu o weithgareddau galw heibio i'r teulu i ddiddanu'r plant drwy gydol y dydd. 

Gellir archebu tocynnau am ddim o flaen llaw drwy:https://www.eventbrite.co.uk/o/bute-park-15541788264