Back
Datganiad ar symud dwy goeden o Dŷ Suffolk

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae gan y Cyngor ddyletswydd i wneud penderfyniad ar unrhyw gais cynllunio sy'n dod gerbron yr Awdurdod Cynllunio (Cyngor Caerdydd).

"Yn unol â pholisi a chyfraith cynllunio, mae'n rhaid i'r Cyngor asesu'r holl ffactorau sy'n berthnasol i gais. Yn yr achos hwn, asesodd yr Awdurdod Cynllunio ystod eang o faterion a daeth i benderfyniad cytbwys pan gyflwynwyd yr argymhelliad. Darparwyd nodyn technegol gan yr ymgeisydd yn benodol ar y coed a oedd yn cynnwys opsiynau i'w cadw, ond daethpwyd i'r casgliad nad oedd yr opsiwn hwn yn cael ei ystyried yn ddichonadwy nac yn ddiogel.

 
"Dylid nodi bod coed aeddfed eraill ar y safle hwn na fydd tarfu arnynt a chaiff coed ychwanegol eu plannu hefyd fel rhan o'r datblygiad.

"Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn gwbl fodlon bod y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio yn amodol ar broses benderfynu gadarn, a oedd yn cynnwys ymweliad â'r safle, adroddiad manwl gan y swyddog yn nodi'r rhesymau dros yr argymhelliad a thrafodaeth lawn mewn dau gyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio a oedd yn cynnwys gwybodaeth a ddarparwyd gan y swyddog achos, y swyddog coed, y swyddog cadwraeth yn ogystal ag aelodau lleol. "