Back
Pinc a gwyrdd? Newidia dy ffyrdd

06.02.2020

Ydych chi wedi clywed am ein Sticeri Pinc? Wythnos yma, lansiwyd cynllun i'n helpu i wellaansawdd yr ailgylchu a chompostio sy'n cael eu casglu o gartrefi preswylwyr, i helpu Caerdydd i ddod yn un o ddinasoedd ailgylchu gorau'r byd.

Os ydych chi wedi cael sticer pinc ar eich bag ailgylchu gwyrdd, edrychwch i weld a ydych chi wedi rhoi'r eitemau canlynol yn y bag mewn camgymeriad:

  • Gwastraff bwyd / gweddillion bwyd mewn pecynnau, tuniau, jariau ac ati
  • Tecstilau - megis dillad, dillad gwely, carpion ac ati
  • Cewynnau

Nid yw'r eitemau hyn i fod yn y bagiau ailgylchu gwyrdd ond gellir eu hailgylchu mewn mannau eraill:

  • Dylech roigwastraff bwyda sbarionyn eich cadi cegin, yna i mewn i'ch cadi brown i'w gasglu. Dylech olchi unrhyw gynwysyddion fel bod y pecyn yn lân cyn iddo gael ei roi yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd.
  • Galltecstilaugael eu rhoi yn y banc tecstilau yn eich canolfan ailgylchu leol yn Ffordd Lamby neu Bessemer Close neu gallwch roi dillad sydd mewn cyflwr da i elusen. Gofynnwch i'ch siop elusen leol pa eitemau y gallant eu cymryd.

 

  • Gallcewynnaugael eu gwaredu drwy ein gwasanaeth casglu hylendid. Dysgwch fwyyma. Fel arall, cadwch nhw allan o'ch bagiau ailgylchu gwyrdd a gwaredwch nhw yn eich bin gwastraff cyffredinol.

Os nad yw eich bag ailgylchu gwyrdd yn cynnwys unrhyw un o'r eitemau hyn a'ch bod wedi derbyn sticer pinc, edrychwch ar ein tudalennau Ailgylchu A-Y i gael gwybod sut i gael gwared ar eitemau'n gywir:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Sbwriel-ac-ailgylchu/A-Y-o-ailgylchu/Pages/default.aspx

Dysgwch fwyymaa dilynwch #OsPincYGweliCofianHapêlNi ar y cyfryngau cymdeithasol.