Back
Tai arloesol ar gyfer teuluoedd digartref


3/3/20 

Mae wyth cartref teulu newydd, yn barod i ddarparu ateb dros dro i deuluoedd digartref, wedi cael eu datblygu yng ngorllewin y ddinas.

 

Fel rhan o gynllun cynwysyddion llongau arloesol Cyngor Caerdydd, mae'r cartrefi dwy ystafell wely newydd wedi'u lleoli ar dir hostel i deuluoedd, Fferm Tŷ Gwyrdd yn Nhrelái, a byddant yn croesawu eu preswylwyr cyntaf yn fuan, wrth iddynt aros am ddatrysiad mwy parhaol o ran tai.

 

Mae'r unedau hunangynhwysol, a ail-bwrpaswyd, wedi'u hinswleiddio'n llawn i greu llety cynnes, diogel gyda system wresogi drydan lawn a phaneli ffotofoltäig solar. Mae'r cartrefi'n cynnwys dwy ystafell wely, cegin wedi'i gosod yn llawn gyda lle byw/bwyta ac ystafell gawod.  Mae'r holl unedau wedi'u cymeradwyo gan Reoli Adeiladu ac yn cydymffurfio â'r safonau cyfredol.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\PHOTOGRAPHY DIARY\2019-20 PHOTOGRAPHY DIARY\February 2020\Shipping container flats\5.JPG

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Bydd yr wyth cartref newydd ar Fferm Tŷ Gwyrdd yn darparu llety o ansawdd da i bobl sy'n wynebu digartrefedd.

 

"Mae'r unedau yn ddewis ardderchog i ni gan eu bod yn darparu ateb tai yn gynt na chynllun adeiladu traddodiadol gan fod yr unedau'n cael eu hadeiladu mewn ffatri ac wedyn yn cael eu danfon i'r safle unwaith y bydd yr holl waith daear wedi'i gwblhau.

 

"Mae'r cartrefi'n gyfforddus ac yn gartrefol ac yn rhoi'r hyblygrwydd i ymateb i alw sy'n newid wrth iddynt allu cael eu hadleoli a'u hailddefnyddio. Mae'r cynllun hwn yn rhan o'n cynllun i fynd i'r afael â phwysau tai yn y ddinas ac rydym yn ymrwymedig i ddarparu 1,000 o gartrefi cyngor newydd erbyn 2022, a chyfanswm o 2,000 o gartrefi yn y blynyddoedd i ddod. "

 

Dyfarnwyd cyllid i'r cynllun cynwysyddion llongau drwy Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru yn 2017. Mae'r Cyngor hefyd yn datblygu 7 fflat 2 ystafell wely a 6 fflat 1 ystafell wely gyda Chymdeithas Tai Cadwyn ar hen safle PDSA ar Stryd Bute.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\PHOTOGRAPHY DIARY\2019-20 PHOTOGRAPHY DIARY\February 2020\Shipping container flats\IMG_0816.JPG

 

Heriodd y rhaglen tai arloesol, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, y sector tai i ddod o hyd i ffyrdd o gyflenwi cartrefi newydd yn gyflymach wrth gyflawni safonau dylunio uchel & perfformiad ynni. Mae Cyngor Caerdydd wedi llwyddo i gael pum grant IHP ers 2017, cyfanswm o dros £8,400,000. Mae'r cynlluniau'n cynnwys cynwysyddion llongau wedi eu haddasu, 42 o gartrefi newydd sy'n cyrraedd safon PassivHaus, naw tŷ â 2 ystafell wely gan ddefnyddio system fodiwlaidd a 214 o gartrefi newydd ar hen safle ysgol uwchradd y dwyrain, a adeiladwyd i safon carbon isel.