Back
Gweithio gyda'n gilydd i wneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd

26/02/20

Caiff yr ymgyrch sticer pinc ei lansio ar 2 Mawrth, fel rhan o gynlluniau'r Cyngor i wella ansawdd yr ailgylchu a'r compostio a gesglir o gartrefi preswylwyr, i helpu Caerdydd i ddod yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd.

Y Cynghorydd Michael Michael, Aelod y Cabinet dros Strydoedd Glân, yr Amgylchedd ac Ailgylchu yng Nghyngor Caerdydd sy'n arwain yr ymgyrch i sicrhau y gall y ddinas ymdrechu i gyrraedd y targedau heriol ar gyfer ailgylchu a chompostio a osodwyd gan Lywodraeth Cymru hyd at 2025.

Dywedodd y Cynghorydd Michael: "Mae'r cynllun hwn wedi'i gynllunio i roi cymorth ychwanegol i drigolion i ailgylchu cymaint â phosibl o'u gwastraff.

"Yn bennaf, mae'r Ymgyrch Sticer Pinc yn ymgyrch addysg, fel bod y rhai nad ydynt yn ailgylchu eu gwastraff yn gywir yn cael cyngor a chymorth ychwanegol fel y gallwn wella ansawdd y deunydd ailgylchu a gesglir.

"Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu faint o wastraff y gall y ddinas ei ailgylchu, gan leihau costau gweithredu a gwella amodau gwaith ein staff yn y Cyfleuster Adfer Deunyddiau sydd ar hyn o bryd yn gorfod tynnu eitemau megis cewynnau wedi'u defnyddio, dillad a gwastraff bwyd o'r bagiau gwyrdd, gan fod y gwahanol gynhyrchion yn cael eu gwahanu i'w hailgylchu. "

Mae ffigurau a ryddhawyd gan y Cyngor yn dangos bod 20% o wastraff sy'n cael ei roi mewn bagiau gwyrdd i'w ailgylchu yn cynnwys deunyddiau anghywir sy'n llesteirio'r broses ailgylchu. Y pethau gwaethaf yw clytiau budr, dillad, pecynnu a gwastraff bwyd.

Mae gwastraff gardd gwyrdd hefyd yn cael ei gyflwyno gyda deunyddiau anghywir fel caniau dyfrio, cardfwrdd, dodrefn gardd a hyd yn oed rhannau o siediau yn cael eu rhoi mewn biniau olwynion gwyrdd. Er bod lefelau halogi yn is ar 5% mae'r Cyngor yn gobeithio y bydd ei gynllun newydd yn rhoi hwb i ffigurau ailgylchu ar draws y ddinas.

Yn rhan o'r ymgyrch newydd, bydd sticeri pinc llachar yn cael eu rhoi ar finiau neu fagiau ailgylchu neu wastraff gardd yn rhoi gwybod i breswylwyr eu bod yn cynnwys eitemau anghywir. Os caiff sticer pinc ei roi ar gynhwysydd, bydd yn rhaid i breswylwyr fynd â'u gwastraff yn ôl i'w heiddo er mwyn cael gwared ar yr eitemau anghywir cyn iddynt roi eu hailgylchu allan eto ar y dyddiad casglu nesaf.

Aeth y Cynghorydd Michael Michael yn ei flaen i ddweud: "Os bydd pobl yn gweld pinc rydyn ni eisiau iddyn nhw stopio a meddwl. Mae'r Cyngor ar hyn o bryd yn casglu deunydd ailgylchadwy sych mewn bagiau gwyrdd, er mwyn ei gwneud mor hawdd â phosibl i breswylwyr ailgylchu eu gwastraff.

"Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn casglu ychydig dros 40,000 tunnell o wastraff ailgylchu o strydoedd y ddinas bob blwyddyn, ond ni all 7,000 tunnell o'r gwastraff hwn gael ei ailgylchu neu mae wedi cael ei halogi gymaint gan ddeunyddiau eraill fel na ellir ei wahanu ar gyfer ei ailgylchu.

"O ran y gwastraff sy'n cael ei roi yn y bagiau gwyrdd, y camgymeriadau mwyaf cyffredin yw rhoi gwastraff bwyd, clytiau a thecstilau yn y bagiau gwyrdd. Nid oes angen rhoi'r eitemau hyn yn y bagiau ailgylchu gwyrdd, gan fod gennym gasgliadau gwastraff bwyd wythnosol ar wahân, a chasgliad hylendid ar gyfer cewynnau. Gallwch hefyd fynd ag eitemau fel tecstilau i'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

"Ar gyfer y gwastraff gardd gwyrdd, dim ond toriadau glaswellt, coed neu lwyni a dderbynnir. Dyma'r unig eitemau y dylid eu rhoi yn y biniau olwynion gwyrdd.

"Os gwelwch sticer pinc ar eich gwastraff yn y dyfodol yna byddwch hefyd yn gweld cyfeiriad ar-lein ar gyfer ein A i Y ailgylchu ar wefan y Cyngor. Gallwch weld pa ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn ein gwasanaeth casglu ymyl y ffordd.

"Rydym hefyd yn gofyn i breswylwyr rinsio eu caniau, eu tuniau a'u gwydr cyn eu hailgylchu. Bydd hyn oll yn helpu i wneud Caerdydd yn un o ddinasoedd gorau'r byd ar gyfer ailgylchu ac mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo."

Bydd yr ymgyrch ailgylchu newydd hon yn cynnwys pum cam hawdd eu dilyn:

Cam 1)Os bydd casglwyr gwastraff yn gweld gwastraff ailgylchu anghywir naill ai yn y bagiau gwyrdd neu'r bin olwynion gwyrdd, rhoddir sticer pinc ar y cynhwysydd sy'n cynghori'r preswylydd i weithredu.

Cam 2)Os bydd hyn yn digwydd eto, caiff sticer arall ei roi ar y cynhwysydd a bydd llythyr yn cael ei anfon i'r cyfeiriad yn hysbysu'r preswylydd ei fod wedi rhoi eitemau anghywir yn ei wastraff gan ei gynghori i weithredu. 

Cam 3)Os ceir trydydd achos, bydd trydydd sticer yn cael ei roi ar y cynhwysydd a bydd llythyr ffurfiol yn cael ei anfon at y preswylydd i roi gwybod iddo y gall dderbyn hysbysiad cosb benodedig am gyflwyno ailgylchu halogedig eto.

Cam 4)Os ceir achos pellach, bydd pedwerydd sticer yn cael ei roi ar y cynhwysydd gwastraff a bydd hysbysiad adran 46 yn cael ei gyflwyno. Llythyr cyfreithiol yw hwn i roi gwybod i'r preswylydd sut y dylid cyflwyno gwastraff i'w gasglu ac y bydd methu â chydymffurfio yn arwain at hysbysiad cosb benodedig.

Cam 5)ar y 5ed achlysur, bydd hysbysiad yn cael ei anfon at ein Swyddogion Gorfodi strydlun. Byddant yn ymweld â lleoliad yr halogiad, yn chwilio ac yn tynnu'r gwastraff. Caiff hysbysiadau cosb benodedig eu hanfon lle ceir tystiolaeth. Nid yw'r hysbysiad cosb benodedig o £100 yn cael ei gynhyrchu'n awtomatig.

Bydd y sticeri pinc yn cyfeirio preswylwyr at wefan, sy'n rhoi 'A-Y o ddeunyddiau ailgylchadwy' er mwyn iddynt allu ymgyfarwyddo â pha eitemau y dylid eu rhoi yn y cynwysyddion a ddarperir.

Dros gyfnod treigl o 12 wythnos, os bydd preswylydd yn rhoi eitemau anghywir naill ai yn ei fagiau gwyrdd neu yn ei fin compostio gwyrdd (neu fagiau) ar bum achlysur gwahanol, rhoddir hysbysiad cosb benodedig o £100 iddo.

Aeth y Cynghorydd Michael yn ei flaen i ddweud: "Mae'n bwysig pwysleisio mai dim ond i breswylwyr sy'n rhoi'r deunyddiau anghywir wrth ailgylchu a chompostio y mae'r ymgyrch hon a'r pum cam a amlinellir yn berthnasol. Ar gyfer pob trosedd amgylcheddol arall, fel taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon, gosod posteri'n anghyfreithlon, ac eraill, bydd gorfodaeth gwastraff arferol ar waith.

"Cofiwch, er nad oes modd ailgylchu rhai eitemau wrth ymyl y ffordd, gallwn ailgylchu dros 20 o eitemau eraill yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Mae mwy o fanylionyma

"Mae'r cynllun yn cael ei gynnal yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar addysg a gorfodi gwastraff."

Os bydd preswylydd yn anwybyddu'r sticer pinc ac yn gadael ei wastraff ar y stryd gellir hepgor y broses pum cam a gallai wynebu hysbysiad cosb benodedig o £100 yn syth am daflu sbwriel.

Mae didoli'r gwastraff hwn na ellir ei ailgylchu o ffrydiau ailgylchu'r ddinas yn costio tua £750,000 y flwyddyn i'r cyngor a'r trethdalwr, ac mae'n cael effaith negyddol ar berfformiad ailgylchu'r ddinas a allai arwain at gosbau gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru am fethu â chyrraedd ein targedau ailgylchu heriol.

Gobeithir y bydd yr ymgyrch newydd yn gwella ansawdd yr ailgylchu a gesglir yn y ddinas, yn cynyddu'r gyfradd ailgylchu ac yn helpu'r ddinas i chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.