Back
Porth y Gorllewin - y ‘pwerdy’ traws-ffiniol cyntaf - yn lansio gwefan a phrosbectws newydd

26/02/20

Mae partneriaeth economaidd newydd ar draws de Cymru a gorllewin Lloegr, sydd â'r nod o roi hwb i economïau lleol drwy gydweithio, yn lansio gwefan a phrosbectws newydd heddiw. Porth y Gorllewin, a lansiwyd gan Weinidogion y Cabinet ym mis Tachwedd 2019, yw trydydd pwerdy gwledydd y DU. Y ddau arall yw'r Northern Powerhouse a'r Midlands Engine.

Mae Porth y Gorllewin yn bartneriaeth o wyth dinas gref ynghyd â chymunedau gwledig mewn ardal economaidd eang.Fodd bynnag, mae Porth y Gorllewin yn mynd un cam ymhellach na'r pwerdai ‘rhanbarthol' sydd wedi'u ffurfio hyd yma. Mae Porth y Gorllewin yn ymestyn ar hyd de Cymru a gorllewin Lloegr, felly mae'n draws-ffiniol.

Mae'r holl bartneriaid yn canolbwyntio ar dwf economaidd cynhwysol a glân, lle gall graddfa a chydweithredu gyflawni mwy i bobl ac economïau ehangach y gwledydd dan sylw nag y gall ein rhannau cyfansoddol eu cyflawni ar eu pen eu hunain.

Mae prosbectws newydd ar gyfer Porth y Gorllewin yn amlinellu'r weledigaeth sy'n dod i'r amlwg a'r uchelgeisiau allweddol ar gyfer y bartneriaeth economaidd. Mae'r prosbectws wedi cael ei ddatblygu yn dilyn trafodaethau rhwng awdurdodau lleol y bartneriaeth, busnesau, Partneriaethau Cyflogaeth Lleol a dinas-ranbarthau. Mae'n nodi graddfa uchelgais Porth y Gorllewin ac yn nodi'r blaenoriaethau strategol sy'n dod i'r amlwg, sef:

- cysylltedd

- arloesi; ac
- ymagwedd ryngwladol gydgysylltiedig tuag at fasnach a buddsoddi.

Bydd gwireddu'r weledigaeth hon yn ychwanegu dros £56 biliwn i economi'r DU erbyn 2030 ac yn ein helpu i sicrhau dyfodol sero-net.

Dywedodd Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Porth y Gorllewin:"Mae'r cynnig rydym yn ei gyflwyno'n un a fydd yn rhoi'r hwb economaidd sydd ei angen ar y rhanbarth i fanteisio i'r eithaf ar ei botensial. Mae ein prosbectws yn rhoi cipolwg ar y daith rydym yn ei chyflawni gyda'n gilydd fel partneriaeth o fusnesau ac awdurdodau, ac rydym yn benderfynol o sicrhau twf o Abertawe i Swindon ac o Cheltenham i Weston."

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas:"Mae Caerdydd yn brifddinas sydd â chysylltiadau ledled Cymru a'r byd. Ond mae ein partneriaid pwysicaf o bosib yr ochr arall i'r Hafren. Rydym yn dod at ein gilydd i ennill y buddsoddiad rhyngwladol a'r cyllid seilwaith llywodraeth sydd eu hangen arnom yn ne Cymru a gorllewin Lloegr fel y gallwn arwain chwyldro diwydiannol sero-net a helpu i greu Prydain lanach, decach."

Daw prosbectws Porth y Gorllewin cyn dogfen gweledigaeth lawn y bartneriaeth, a fydd yn dilyn Adolygiad Economaidd Annibynnol yn ddiweddarach yn 2020 a fydd yn darparu sail dystiolaeth ar draws gwledydd, ardaloedd a rhanbarthau'r bartneriaeth.Ledled gwledydd Prydain mae'r map economaidd yn cael ei ail-lunio gan ddatganoli a phwerdai rhanbarthol.

Gallwch weld a darllen ein prosbectws yn:www.western-gateway.co.uk