Back
Bryn Hafod a Glan yr Afon yn dathlu dod yn Ffederasiwn yr Enfys

26/2/2020

Bydd dwy ysgol gynradd yn Llanrhymni yn dathlu cael eu ffedereiddio'n swyddogol gyda llu o weithgareddau.

Mae ysgolion cynradd Bryn Hafod a Glan yr Afon wedi sefydlu partneriaeth ffurfiol dan enw Ffederasiwn Enfys, enw a ddewiswyd gan ddisgyblion y ddwy ysgol.  Cynhaliwyd digwyddiad arbennig ddechrau'r wythnos hon, lle roedd plant o'r ddwy ysgol yn perfformio can y maent wedi'u hysgrifennu, o flaen gwahoddedigion.

Arweiniwyd y broses o greu'r Ffederasiwn gan Gyrff Llywodraethu Bryn Hafod a Glan yr Afon. Bydd yn galluogi'r ddwy ysgol i rannu arferion addysgu a dysgu da a rhagorol, gan roi ystod ehangach o gyfleoedd addysgol ac allgyrsiol. 

Dywedodd Pennaeth Gweithredol Ffederasiwn yr Enfys, Rhian Lundrigan: "Yn dilyn misoedd o ymgynghori a chynllunio, heddiw rydym mewn lle cyffrous ac mae gennym i gyd y cyfle i greu gweledigaeth go iawn o ddysgu cymunedol. Bydd ffedereiddio yn ein galluogi i ymestyn y cyfleoedd addysgol i blant, staff, rhieni a llywodraethwyr drwy rannu arbenigedd, adnoddau a chyfeillgarwch, wrth gadw nodweddion unigryw'r ddwy ysgol hyn, wrth galon y gymuned.

"Mae pob plentyn yn ein hysgolion yn unigryw ac yn haeddu'r cyfle i fod yn ddiogel ac yn hapus, i ddod yn unigolion iach a hyderus. Os bydd ein plant yn y dyfodol yn edrych yn ôl ac yn dweud bod y Ffederasiwn Enfys wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau a'u bod yn gadael fel dysgwyr galluog uchelgeisiol, cyfranwyr mentrus, creadigol a dinasyddion â gwybodaeth foesegol, yna byddwn ni fel gweithwyr proffesiynol wedi llwyddo."

Mae ysgolion cynradd Bryn Hafod a Glan yr Afon filltir oddi wrth ei gilydd yn yr un gymuned ac yn hanesyddol maent wedi cydweithio'n agos ar brojectau cydweithredol.

Bydd Cyrff Llywodraethu presennol y ddwy ysgol yn cael eu diddymu a chaiff un Corff Llywodraethu newydd ei sefydlu a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r ddwy ysgol yn strategol, a gweithio ochr yn ochr â'r Pennaeth Gweithredol Rhian Lundrigan. Bydd y naill ysgol a'r llall yn cadw ei henw, categori ysgol Llywodraeth Cymru, cyllideb a staff, a byddant yn parhau i gael eu harolygu fel ysgolion ar wahân gan Estyn.

Daw'r newid i ffedereiddio ar ôl i Gyngor Caerdydd gymryd camau i ddiogelu dyfodol Glan yr Afon y llynedd. Bydd yr ysgol yn lleihau i ysgol un dosbarth mynediad o fis Medi 2020 fel ymateb i'r broblem o dandanysgrifio a thrwy hynny bydd yr ysgol ar sail ariannol sicrach. Bydd Bryn Hafod yn aros yn ysgol dwy ffrwd mynediad.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae sefydlu Ffederasiwn Enfys yn nodi pennod newydd a chyffrous ar gyfer Bryn Hafod a Glan yr afon a fydd o fudd i staff, disgyblion, rhieni a'r gymuned ysgol ehangach.

"Bydd y Ffederasiwn yn galluogi'r ddwy ysgol i rannu adnoddau, syniadau, cyfleusterau ac arfer da, er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau i'r plant gan gynnal hanes a hunaniaeth pob ysgol ar yr un pryd.

"Rwyf wedi mwynhau clywed y gân a ysgrifennwyd gan ddisgyblion o'r ysgolion, yn enwedig y geiriau 'byddwn ni'n cyflawni dyfodol disglair, byddwn ni'n gwneud ffrindiau sy'n para am byth' sy'n crynhoi'r cam cadarnhaol yma iddyn nhw a'u cymunedau."