Heddiw, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd y caiff cymorth ariannol ei roi i drigolion a busnesau a effeithiwyd gan lifogydd a achoswyd gan Storm Dennis.
Bydd y Cyngor yn rhoi cymorth drwy Grant Adfer Llifogydd Cymunedol - Taliad Caledi, o £500 i drigolion a £1,000 i fusnesau y mae'r tu fewn i'w heiddo wedi cael ei ddifrodi gan lifogydd.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Er i Gaerdydd osgoi'r llifogydd gwaethaf, roedd dal 24 o eiddo yn y ddinas a gafodd lifogydd mewnol. Roeddem am ddangos ein cefnogaeth i'r teuluoedd a'r busnesau a effeithiwyd felly byddwn yn cynnig taliad caledi yn ôl disgresiwn o £500 i drigolion a £1,000 i fusnesu a ddioddefodd o'r llifogydd a achoswyd gan Storm Dennis.
"Bydd yr arian hwn yn ychwanegol at yr arian y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'i addo i'r sawl a effeithiwyd. Mae asesiadau'n mynd rhagddynt ar ran Llywodraeth Cymru ac ar ôl eu cwblhau byddwn yn sicrhau bod y trigolion yng Nghaerdydd a effeithiwyd yn cael yr arian. Gobeithio y bydd yn eu helpu rywfaint mewn cyfnod o angen."
Ffôniwch Cyngor Caerdydd: 029 2087 2088