24.02.2020
Sut ydych chi'n bwyta eich un chi? Gyda lemwn a siwgr? Banana a siocled? Efallai eich bod chi'n ffafrio'r sawrus dros y melys? Sut bynnag ry'ch chi'n bwyta eich un chi, mae hi'n bwysig cofio bod Diwrnod Crempog yn ddigwyddiad sy'n seiliedig ar atal gwastraff, felly dyma sut gallwch chi leihau eich gwastraff chi.
Bydd preswylwyr yn cael cymorth ychwanegol i ailgylchu'n iawn dan gynllun newydd, sy'n lansioDdydd Llun 2 Mawrth, a fydd yn rhoi i chi pan fyddwch yn cyflwyno eitemau anghywir nad ydynt yn addas i'w hailgylchu.
Y gobaith yw y bydd y cynllun newydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd yr ailgylchu a chompostio a gesglir o ymyl y ffordd - gan helpu'r ddinas i ddod yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd.
Yn rhan o'r ymgyrch newydd, bydd sticeri pinc llachar yn cael eu rhoi ar finiau neu fagiau ailgylchu neu wastraff gardd yn rhoi gwybod i breswylwyr eu bod yn cynnwys eitemau anghywir. Os caiff sticer pinc ei roi ar gynhwysydd, bydd yn rhaid i breswylwyr fynd â'u gwastraff yn ôl i'w heiddo er mwyn cael gwared ar yr eitemau anghywir cyn iddynt roi eu hailgylchu allan eto ar y dyddiad casglu nesaf. Dysgwch fwy yma.
Dysgwch fwy am yr ymgyrch yma a dilyn #OsPincYGweliCofianHapêlNi ar y cyfryngau cymdeithasol.