Back
Datganiad Cyngor Caerdydd ar Storm Dennis

Mae ein timau wedi bod allan drwy'r penwythnos yn clirio gylïau a cheuffosydd i helpu i sicrhau bod trigolion ac eiddo'n cael eu diogelu rhag y posibilrwydd o lifogydd oherwydd Storm Dennis.

 

·      

Mae’r lefelau dŵr yn Afonydd Taf, Elái a Rhymni yn gostwng nawr, ond mae Michaelston Road dal ar gau a disgwylir iddo aros felly tan y bore, pan gaiff y sefyllfa ei hail-asesu.

 

Yn ystod y 24 awr ddiwethaf rydym wedi gweld y llif afonydd uchaf a gofnodwyd ers cronni'r Bae. Mae'r Taf wedi bod ar ei

 lefel uchaf a gofnodwyd erioed i fyny’r afon, o Bontypridd i fyny.  

 

 

Mae yno gryn dipyn o rwbel sydd wedi dod i lawr yr afonydd ac i mewn i'r Bae gyda chyfaint anhysbys i fyny’r afon tu hwnt i derfynau'r Harbwr yn dal i ddod i lawr yr afon. 

 

Am resymau diogelwch a nes y cewch eich hysbysu fel arall, mae pob safle bws dŵr wedi'i gau.

 

Hefyd, dylech fod yn ymwybodol bod cryn dipyn o sbwriel o gwmpas ymylon y Bae a hefyd ym mhrif gorff y Bae, y mae llawer ohono'n debygol o fod dan y dŵr, felly rhaid bod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio'r Bae. 

 

Mae'r llwybr estyll isaf wedi cael ei foddi â sbwriel y penwythnos hwn ac rydym yn disgwyl mwy dros yr oriau nesaf. Mae ardal wedi’i chau ac nid oes mynediad i’r cyhoedd iddi ar hyn o bryd.

 

 

Byd y prif gatiau i Barc Bute yn parhau i fod ar gau bore fory ond bydd mynediad i’r parc o 7am, trwy Erddi Sophia / Pont y Mileniwm trwy Bont y Pysgotwyr ger Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

 

 

Bydd ein timau yn dechrau glanhau dros y dyddiau nesaf. I roi gwybod am lifogydd yng Nghaerdydd ffoniwch 02920 872087 a dewiswch opsiwn 5. Gallwch ddod o hyd i erthyglau a gwybodaeth am beth i'w wneud yn achos llifogydd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.