Back
Ydych chi’n ailgylchu neu’n ailgylchu croesi bysedd? Sut mae sicrhau eich bod chi’n ei wneud yn gywir!

10.02.2020

Dychmygwch eich bod yn sefyll o flaen eich bag ailgylchu gwyrdd â rhywbeth yn eich llaw. Nid ydych yn gwbl  siŵr a oes modd ei ailgylchu ond rydych yn  meddwl ei bod yn iawn ei roi yn y bag. Mwy na thebyg. Yn ôl pob tebyg. Dylai fod yn iawn. Felly rydych yn ei roi yn y bag ac yn gobeithio'r gorau.

Rydych yn ailgylchu gan obeithio eich bod yn iawn - mae'ch calon yn y lle iawn ac rydych am sicrhau eich bod yn ailgylchu'r pethau cywir ond efallai nad oes gennych yr holl wybodaeth i wneud y dewis iawn ar gyfer eich gwastraff.

Wyddoch chi y gall ailgylchu gan obeithio eich bod yn iawn achosi mwy o broblemau ac effeithio'n negyddol ar yr amgylchedd? Mae'n costio arian i gywiro'r adegau pan fo'r eitemau anghywir yn y bagiau anghywir.

Bydd preswylwyr yn cael cymorth ychwanegol i ailgylchu'n iawn dan gynllun newydd a fydd yn rhoi gwybod iddynt pan fyddant yn cyflwyno eitemau anghywir nad ydynt yn addas i'w hailgylchu.

Gobeithir y bydd y cynllun newydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd yr ailgylchu a chompostio a gesglir o ymyl y ffordd gan Gyngor Caerdydd - gan helpu'r ddinas i ddod yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd.

Yn rhan o'r ymgyrch newydd, gweler sticeri pinc llachar ar finiau neu fagiau ailgylchu neu wastraff gardd yn rhoi gwybod i breswylwyr eu bod yn cynnwys eitemau anghywir.  Os caiff sticer pinc ei roi ar gynhwysydd, bydd rhaid i breswylwyr fynd â'u gwastraff yn ôl i'w heiddo er mwyn cael gwared ar yr eitemau anghywir cyn iddynt roi eu hailgylchu allan eto ar y dyddiad casglu nesaf. Dysgwch  fwy yma.

Dyma ein hawgrymiadau arbennig i sicrhau eich bod yn ailgylchu'r eitemau cywir:

  • Os nad ydych yn siŵr, cadarnhewch cyn taflu trwy ddefnyddio ein taflen  A-Z o ailgylchu ar ein gwefan.

 

  • Sicrhewch eich bod yn gwacau a golchi pob cynhwysydd, jar a photel.
     
  • Allwch chi ddim rhoi bagiau creision yn eich bagiau ailgylchu gwyrdd am eu bod wedi eu gwneud o ddeunyddiau cymysg. Dylech eu rhoi yn eich bag streipiau coch neu fin du.
     
  • Edrychwch i weld pa  becynnau gallwch eu rhoi yn eich bagiau gwyrdd.

Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaeth casglu gwastraff gan gynnwys  Casgliadau Eitemau Swmpus,  Casgliadau Cewynnau a Hylendida  Chanolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

Gallwch hefydgyfrannu eitemau i elusennau neu gynnig casgliad am ddim trwy wefannau megis Facebook Marketplace neu Gumtree os ydynt yn rhy dda i'w taflu.

Os na fyddwch yn cyflwyno'ch gwastraff a'ch ailgylchu'n gywir gallech gael hysbysiad cosb benodedig o hyd at £100. Fodd bynnag, cyn i hyn ddigwydd, gwelwch sticer pinc ar fagiau ailgylchu sydd wedi'u cyflwyno'n anghywir. Os gwelwch sticer pinc, rydym am i chi stopio a meddwl.

Dysgwch fwy am yr ymgyrch  yma a dilynwch #seepinkstopandthink ar y cyfryngau cymdeithasol.