Back
Cefnogi pobl i ailadeiladu eu bywydau


31.1.20 

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd wedi gostwng i'r lefel isaf ers chwe blynedd.

 

Cynyddodd y gwaith o ymgysylltu cadarnhaol ag unigolion sy'n agored i niwed ar y strydoedd a gwnaed gwelliannau i lety brys ac o ganlyniad gostyngodd nifer y bobl sy'n cysgu allan i 34 y mis hwn, o'i gymharu â 73 ym mis Ionawr 2019 a Ionawr 2018.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne, y ffigurau diweddaraf yn y cyngor llawn ddydd Iau 30 Ionawr a thalodd deyrnged i waith Tîm AmlddisgyblaetholDigartrefeddy ddinas, partneriaeth rhwng y Cyngor, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Cynllunio Ardal Caerdydd a'r Fro, sy'n llwyddo i gyrraedd unigolion sydd bellaf i ffwrdd o ddefnyddio gwasanaethau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thorne:  "Hoffwn longyfarch y timau allgymorth ac amlddisgyblaethol am eu holl ymdrechion i gynnig cymorth i'r rhai sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas. "Rydym yn cydnabod bod angen newid y ffordd rydym yn gweithredu rhai o'n gwasanaethau ac rwy'n falch bod y trefniadau newydd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl y mae arnyn nhw wir angen ein cymorth."

 

Sefydlwyd y Tîm Amlddisgyblaethol, grŵp o weithwyr proffesiynol gydag arbenigedd i helpu pobl ag anghenion cymhleth, y llynedd ac mae'n cynnwysgweithiwr cyffuriau ac alcohol, nyrsys, gweithwyr cymdeithasol, gweithiwr therapiwtig a chwnselydd, cymar-fentoriaid a mynediad at wasanaeth rhagnodi cyflym.Mae'r tîm yn cefnogi pobl i fanteisio ar y gwasanaethau mae eu hangen arnynt i symud i ffwrdd o fywyd ar y stryd ac i fynd i'r afael ag achos sylfaenol eu digartrefedd.

 

Ers mis Ebrill, mae 147 o bobl oedd yn cysgu ar y strydoedd ac a fu'n gyndyn o ddefnyddio cymorth a llety, wedi cael help i fynd i lety.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae'n galonogol iawn bod y cynnydd yn ylefelau o ymgysylltu â chleientiaid yn ogystal â gwelliannau i'n llety argyfwng wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas.  Er bod y niferoedd gwirioneddol yn newid bob dydd, mae'n wych gweld bod y duedd gyffredinol yn y cyfeiriad iawn.

 

"Rydym yn adolygu'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pobl ac mae gwelliannau eleni i'r ddarpariaeth tywydd oer mewn argyfwng yn cynnwys rhoi mwy o breifatrwydd i unigolion yn y llety a gynigiwn, a chaniatáu i grwpiau o ffrindiau ddod i mewn gyda'i gilydd.

 

"Er ein bod ni'n hynod falch bod nifer y bobl ar y strydoedd wedi gostwng, rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith o hyd, yn enwedigmewn ymateb i gymhlethdod cynyddol anghenion cleientiaid.

 

"Rydym yn parhau i weithio gyda'r rhai sy'n parhau i fod ar y strydoedd i'w hannog i fanteisio ar gynnig llety a chymorth, abydd ein adolygiad strategol ar wasanaethau yn sicrhau ein bod yn darparu'r ymateb aml-asiantaethol mwyaf cynhwysfawr posibl i ddiwallu anghenion y bobl sy'n agored iawn i niwed."