31/1/2020
Mae trosedd, comedi, gwyddoniaeth a natur i gyd ar y rhestr ddarllen yng Ngŵyl benigamp Llên Plant Caerdydd, a fydd yn ôl ym mis Ebrill, gyda rhywbeth bach gwahanol.
Eleni, yn ogystal â rhaglen ysbrydoledig o awduron, darlunwyr a gweithdai mae gan yr ŵyl deuluol fformat newydd cyffrous hefyd - bydd yr holl ddigwyddiad yn cael ei gywasgu i un penwythnos llawn dop yn Neuadd y Ddinas ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Pwrpas yr Ŵyl Llên Plant yw cael plant i gyffroi am lyfrau ac eleni roeddem am ganolbwyntio ar greu cyffro gŵyl go iawn.
"Dydy hi'n ddim o bwys p'un ai ysgrifenwyr awyddus, ffans gwyddoniaeth a natur, hoffi tynnu llun neu darllen i ddysgu mae eich plant, neu efallai eu boed eisoes yn troi tudalennau'n ddi-baid - bydd yr ŵyl yn ffordd wych iddynt gael eu hysbrydoli gan rai o hoff awduron y genedl. A gan fod gŵyl 2020 yn cynnwys canolbwynt newydd yn Neuadd y Ddinas, bydd yn haws fyth i deuluoedd dreulio'r diwrnod gyda'i gilydd, yn archwilio byd llyfrau."
Bydd yr ŵyl ar y 25ain a 26ain o Ebrill ac yn cynnal sesiynau yn Gymraeg a Saesneg, gan cynnwys Kes Gray, Benji Davies, Zeb Soames a James Mayhew.
Mae plant oedran cynradd yn gallu mwynhau yr awduron llyfr lluniau Kate Hindley, Lilo Maddocks, Matt Carr ac, ar gyfer yr ieuengaf, Amser Stori Elmer. Bydd darllenwyr hŷn sy'n hoffi trosedd yn mwynhau clywed gan Sharna Jackson, awdur ‘High Rise Mystery', neu os mai chwerthin ydy'r nod, yna bydd comedi wrth law gydag awdur ‘The Wrong Pong' a chyfres 'The Diary of Dennis The Menace', Steven Butler.
Bydd awduron ysbrydoledig megis Meleri Wyn James, Lily Dyu ac Chadeirydd yr RSPB, Miranda Krestovnikoff yn archwilio gwyddoniaeth, natur a'r amgylchedd.
Mae gweithdai lle gall plant wneud pethau yn rhan fawr o'r ŵyl - gall plant fachu eu cotiau gwynion a'u sbectols diogelwch gyda Hot and Cold Science, neu ddysgu gwneud eu Gromit neu Shaun the Sheep eu hunain gyda'r gwneuthurwyr modelau, Aardman Animations. Caiff awduron ifainc eu hudo gan yr awdur penigamp, Michelle Harrison, pan fydd yn rhannu'r syniadau a ysbrydolodd ei llyfrau mewn gweithdy ysgrifennu creadigol. Bydd Huw Aaron hefyd yn yr ŵyl yn dysgu darlunwyr y dyfodol sur mae creu a thynnu dinas-luniau anhygoel.
Rhwng y digwyddiadau awduron a'r sesiynau gweithdy â thocyn, bydd y canolbwynt newydd yn lle gwych i rieni ymlacio gyda phaned tra bod y plant yn gwneud gweithgareddau crefft am ddim, ymlacio yng Nghornel Ddarllen Llyfrgelloedd Caerdydd neu'n dysgu pam fod hwyaid yn siglo a ffeithiau difyr eraill yn nyth enfawr yr RSPB.
Bydd yr holl lyfrau y sonnir amdanyn nhw ar werth yn siop lyfrau'r ŵyl a bydd llawer o awduron yn llofnodi llyfrau ac yn cwrdd ag ymwelwyr ar ôl eu sesiynau.
Mae tocynnau pris is a chynigion arbennig i deuluoedd ar gyfer y rhai sy'n mynd i nifer o sesiynau nawr ar gael i helpu teuluoedd i fanteisio'n llawn ar yr ŵyl. Bydd sesiynau ar gyfer ysgolion yn yr wythnos cyn penwythnos yr ŵyl.
Am fwy o wybodaeth ac i brynu tocynnau, ewch iwww.gwylllenplantcaerdydd.com