Back
Dau aelod eraill o’r ‘sgam arian ar ôl damwain’ yn cael eu hanfon i’r carchar

Mae dau frawd o Gaerdydd wedi'u hanfon i'r carchar am bedwar mis yr un, ar ôl iddynt gael eu dyfarnu'n euog o ddirmyg llys bedair gwaith mewn cysylltiad â hawliadau ffug ar ôl damwain traffig ffordd a ddigwyddodd yn 2014.

Rhoddwyd Lee Cullen, 51, a Craig Cullen, 39, y ddau o Meirion Place, Caerdydd, ar brawf yn eu habsenoldeb yn Uchel Lys Cyfiawnder Caerdydd. Er gwaethaf ymdrechion ailadroddus i'w dwyn i'r llys, ni chymeron nhw ran yn yr achosion.

Yn dilyn gwrandawiad llys a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2020, barnwyd y Barnwr Anrhydeddus Harrison y byddai Lee Cullen a Craig Cullen yn mynd i'r carchar yn syth am bedwar mis a chyhoeddwyd gwarant i'w harestio ar unwaith.

Dros y penwythnos, cafodd Lee Cullen a Craig Cullen eu harestio a chawson eu cyflwyno gerbron Llys Uchel Cyfiawnder Caerdydd ddoe, lle y cafodd y dedfrydau eu cynnal ac yr aethpwyd â nhw i'r celloedd.

Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Daeth achos hwn i'r amlwg pan honnodd Lee Cullen a Craig Cullen eu bod yn deithwyr mewn fan cludo Volkswagen pan yrrodd Wagen Godi Ford y Cyngor i mewn i gefn y cerbyd.

"Ar adeg y gwrthdrawiad, roedd y fan gludo wedi stopio'n sydyn i osgoi blociau concrid oedd wedi llithro o gefn lori wastad.  Y gwir yw nad oedd y brodyr Cullen yn y fan cludo ar adeg y gwrthdrawiad, gan mai'r unig bobl oedd yn y cerbyd oedd y gyrrwr a dau berthynas."

Gan weithredu ar ran cwmni yswiriant Cyngor Caerdydd - Zurich Insurance - dadleuodd Horwich Farrelly Solicitors yn y llys y profwyd at safon droseddol bod yr amddiffynwyr wedi cyflawni trosedd â'r bwriad o ymyrryd â chwrs cyfiawnder. Yn fwy penodol, bod y brodyr Cullen wedi cyfarwyddo cyfreithwyr i wneud hawliad yr oeddent yn gwybod a oedd yn ffug a gwnaeth y ddau ohonynt ddatganiadau ffug ar Ffurflenni Hysbysu am Hawliad heb gred gonest eu bod yn wir.

Aeth y llefarydd ymlaen i ddweud: "Mae'r dedfrydu terfynol hwn bellach yn dod â'r sgam arian wedi damwain i ben. Yn y gwrthdrawiad traffig ffordd hwn a ddigwyddodd ar 6 Mawrth 2014, ceisiodd pedwar person hawlio arian yn dwyllodrus am anafiadau na chawson nhw a honnodd pob un o'r bobl hyn eu bod yn y fan gludo pan nad oedent yn y cerbyd. Mae hynny ynddo'i hun yn anghredadwy.

"Rwy'n falch o adrodd bod tri o'r bobl hyn wedi cael eu hanfon i'r carchar ar unwaith a bod un wedi dianc gyda dedfryd ohiriedig, gan ei fod wedi trafferthu dod i'r llys a chyflwyno mesurau lliniaru ar gyfer ei achos.

"Hoffwn ailadrodd unwaith eto bod pob hawliad yswiriant yn erbyn y Cyngor yn cael ei wirio a'i wirio'n eto a bod unrhyw anghysonderau yn cael eu nodi gyda'n cwmni yswiriant fel y gellir ymchwilio iddo gyda golwg ar erlyn y rhai sy'n troseddu."

Mae pedwar person wedi cael eu dwyn gerbron y llys am ddirmyg llys yn ymwneud â'r sgam arian wedi damwain hwn. Dedfrydwyd Kevin Hooper, 48, o Clos y Berllan, Caerdydd, i 8 mis yn y carchar ar 24 Mehefin 2016. Dedfrydwyd Michael Falkingham, 32, o Clos y Berllan, Caerdydd, i bedwar mis yn y carchar a ohiriwyd am 18 mis ar 11 Gorffennaf 2019, a dedfrydwyd Craig a Lee Cullen i bedwar mis yn y carchar ar unwaith ar 27 Ionawr, 2020.