Back
Gwahardd dyn o Gaerdydd rhag cadw cŵn am ddwy flynedd

Mae Pawel Czerwinski, 33, o Deere Road, Caerdydd, wedi ei wahardd rhag cadw cŵn am ddwy flynedd yn sgil gwrandawiad yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, 24 Ionawr.

Daeth Cyngor Caerdydd a Gwasanaeth Erlyn y Goron â'r achos i'r llys, yn sgil adroddiadau bod Czerwinski wedi achosi dioddefaint dianghenraid i un o'i ddau gi hysgi drwy ei daro'n gyson tra allan yn cerdded.

Ar ddau achlysur gwahanol, gadawodd Czerwinski y cŵn oddi ar eu tennyn gan achosi trallod i geffyl ar dennyn a genweiriwr yn Llynnoedd Lamby. Ar un o'r ddau achlysur, gwelodd tystion Czerwinksi yn taro un o'i gŵn drosodd a throsodd pan oedd y ci yn ôl dan ei reolaeth ar dennyn.

Yn Llys Ynadon Caerdydd, plediodd Pawel Czerwinski yn euog i ddwy drosedd dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, un drosedd gan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a throsedd arall dan Ddeddf Trefn Gyhoeddus 2014.

Yn ogystal â chael ei wahardd rhag cadw cŵn am ddwy flynedd, gorchmynnwyd Czerwinksi hefyd i wneud 100 o oriau gwaith yn ddi-dâl, talu costau cyfreithiol i Gyngor Caerdydd a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Rhoddwyd Gofyniad Adfer iddo hefyd, i fynd ar gyrsiau perthnasol i ddeall ymwybyddiaeth dioddefwyr a rheoli tymer.

Dywedodd y Cyng. Michael Michael, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'r hysgi yn gi deallus iawn, yn annibynnol ac yn heriol. Maen nhw'n frîd sy'n anodd eu hyfforddi, ond nid yw hynny'n esgus o gwbl dros unrhyw fath o gamdriniaeth. 

"Cŵn gweithio yw hysgis yn bennaf, ond maen nhw'n dod yn fwyfwy poblogaidd fel anifeiliaid anwes. Mae angen llawer o ymarfer corff ar y cŵn hyn a digon o le gartref. Maen nhw'n fwyaf addas ar gyfer pobl sydd â phrofiad helaeth o gadw cŵn."