Back
Cefnogi cyn-filwyr a theuluoedd y lluoedd arfog yn y ddinas


 29.1.20

Mae gwasanaeth cynghori arbenigol Cyngor Caerdydd i gyn-filwyr wedi helpu i hawlio dros £¾ miliwn mewn budd-daliadau a grantiau ar gyfer cwsmeriaid hyd yn hyn eleni.

 

Mae'r gwasanaeth ar gael mewn hybiau cymunedol ledled y ddinas a gall helpu aelodau presennol o'r Lluoedd Arfog, a chyn-aelodau, a'u teuluoedd gydag ystod eang o faterion, gan gynnwyscymorth cyflogaeth, budd-daliadau, problemau dyled, a thai.

 

Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2019, rhoddodd y gwasanaeth gymorth i dros 500 o gwsmeriaid gan helpu llawer i hawlio budd-daliadau neu daliadau nad oedden nhw'n sylweddoli gynt bod ganddynt hawl iddynt.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, helpwyd cwsmeriaid i hawlio £467,949 o fudd-daliadau, yn ogystal â gwerth £293,197 o daliadau untro.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig at roi cymorth i aelodau a chyn-aelodau o'r lluoedd arfog, a'u teuluoedd. Fel corff sydd wedi llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog, rydym wedi ymdynghedu i sicrhau nad yw'r profiad o wasanaethu eu gwlad yn gadael unrhyw un dan anfantais.

 

"Wrth i fwy o bobl ddod yn ymwybodol o'r cymorth rydyn ni wedi ei addo, mae'r gwasanaeth yn helpu mwy a mwy o gyn-filwyr a'u teuluoedd ac rydyn ni wedi eu helpu i hawlio swm anhygoel o arian, fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'w bywydau.

 

"Rydyn ni hefyd wedi gweithio gydag elusennau i helpu cwsmer ag anawsterau symudedd i gael sgwter a bod yn fwy annibynnol ac yn llai ynysig, ac rydym wedi helpu teulu arall i hawlio swm sylweddol o iawndal yn dilyn damwain ffordd ddifrifol.

 

"Rydym wedi trefnu digwyddiadau Cofio llwyddiannus iawn ym mis Tachwedd y ddwy flynedd ddiwethaf gyda'n partneriaid yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, ac yn 2019 fe estynnon ni'n rhaglen ddigwyddiadau i nifer o hybiau eraill y ddinas.

 

"Nid ar gyfer cyn-filwyr yn unig y mae ein gwasanaeth. Rydyn ni hefyd yn gweithio gydag aelodau presennol, a'u teuluoedd, ac rwy'n annog pawb yn y ddinas sydd angen cymorth neu gyngor gysylltu er mwyn i'n tîm cyfeillgar estyn help llaw."

 

Yn ogystal â datblygu gwasanaeth cynghori yn Hyb y Llyfrgell Ganolog, mae gwasanaeth allgymorth yn ymweld yn gyson â Hyb Grangetown, y Powerhouse yn Llanedern, Hyb Llanrhymni, Hyb Llaneirwg a Hyb Trelai a Chaerau. Mae modd hefyd wneud cais am ymweliadau â hybiau eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth, ewch ihttps://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Cyfamod-Cymunedol/Pa-gymorth-sydd-ar-gael-i-mi/Pages/default.aspxneu ffoniwch ni ar 029 2087 1000/07980953539neu e-bostiwch veteransadvice@caerdydd.gov.uk​