28/1/2020
Heddiw, ddydd Mawrth 28 Ionawr 2020, lansiodd Cyngor Caerdydd y rhaglen Cynllun Teithio Llesol Ysgolion yn swyddogol.
Cynhaliwyd y lansiad yn Ysgol Gynradd Howardian, Pen-y-lan, yn ystod digwyddiad Iechyd a Lles a gefnogwyd gan Sustrans Cymru a Beicio Cymru.
Mae'r Cynllun Teithio Llesol Ysgolion yn cynnig cyngor a chymorth i holl ysgolion Caerdydd er mwyn iddynt ddatblygu Cynllun Teithio Llesol sy'n benodol i'w hysgol ac mae hyn yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i sicrhau bod pob ysgol yng Nghaerdydd wedi datblygu Cynllun Teithio Llesol erbyn 2022.
Bydd y cynllun yn cynnig cymorth drwy swyddogion ynghyd ag adnoddau a chanllawiau ar-lein i helpu i newid ymddygiadau teithio gan gynorthwyo ysgolion i nodi pam fod rhieni'n defnyddio eu ceir. Bydd hyn yn eu helpu i hyrwyddo cerdded, beicio a sgwtio fel ffordd o deithio i'r Ysgol ac yn ôl gyda buddion fel:
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r Cyngor wedi lansio ein gweledigaeth trafnidiaeth 10 mlynedd ar gyfer y ddinas yn ddiweddar, sy'n amlinellu cynlluniau uchelgeisiol i weddnewid teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd. Mae'r weledigaeth hon yn gosod nodau clir i leihau tagfeydd, gwella ansawdd aer a mynd i'r afael â phroblemau newid yn yr hinsawdd. Mae amseroedd teithio i'r ysgol bob bore a phrynhawn yn gosod pwysau trwm ar ein rhwydwaith ffyrdd gan ychwanegu at dagfeydd oriau brig. Mae nifer y plant sy'n cerdded wedi gostwng dros y 15 mlynedd diwethaf tra bod y gyfran sy'n teithio mewn car wedi cynyddu. Mae gan y rhaglen Teithio Llesol i Ysgolion ran allweddol i'w chwarae wrth wrthdroi'r duedd hon."
"Rydym yn gwybod bod yn rhaid i opsiynau hyfyw amgen fod ar gael i rieni a dyma'n union pam yr ydym yn gweithio gyda phob ysgol yng Nghaerdydd fel y gall ysgolion ddatblygu cynllun sy'n benodol i'w lleoliad. Nid cynllun cyffredinol sy'n addas i bawb mohono. Rydym ni am ddefnyddio dull ‘pwrpasol'. Yn gyntaf, mae hyn yn golygu helpu pob ysgol rydym yn gweithio â hi i nodi eu prif broblemau a'r hyn sy'n rhwystro plant rhag teithio'n llesol. Byddwn wedyn yn helpu'r ysgol i ymrwymo i roi camau syml ar waith i helpu plant i gerdded a beicio i'r ysgol. Nid dim ond ysgrifennu dogfen mohono. Mae Cynllun Teithio Llesol yn set o gamau byw. Drwy ein tîm Cynlluniau Teithio Llesol byddwn yn helpu i ddatblygu'r Cynllun Teithio Llesol ac yn cyflwyno gweithgareddau megis hyfforddiant i feicwyr a cherddwyr drwy ein tîm Addysg Diogelwch ar y Ffyrdd. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru rydym hefyd wedi dechrau gosod mannau parcio beiciau a sgwteri dan do mewn ysgolion a, gyda chyllid parhaus rydym am ehangu'r ddarpariaeth hon i ysgolion eraill sydd angen mannau parcio beiciau a sgwteri newydd neu well."
Mae Cyngor Caerdydd wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Howardian ar y gwaith o ddatblygu eu Cynllun Teithio Llesol ac mae'r ysgol yn gweithredu sawl project erbyn hyn, sy'n cynnwys rhagor o hyfforddiant sgwteri a pharcio, sgwteri a beicio a hefyd ‘Parcio a Cherdded' lle caiff rhieni barcio i ffwrdd o' gatiau'r ysgol.
Dywedodd Helen Hoyle, Pennaeth Ysgol Gynradd Howardian: "Dangoswyd bod teithio'n llesol yn cael effeithiau cadarnhaol yn gyffredinol. Mae lles corfforol a meddyliol y plant wedi gwella ac maen nhw wedi dod yn fwy hyderus ac ymwybodol o faterion diogelwch ar y ffyrdd.
"Drwy ddatblygu ein Cynllun Teithio Llesol ein hunain rydym yn gobeithio y bydd tagfeydd o amgylch yr ysgol yn lleihau ac y bydd y ffyrdd yn dod yn fwy diogel ac yn llai llygredig i bawb."
Mae Sustrans Cymru hefyd wedi cynorthwyo'r ysgol i ddatblygu cynlluniau sy'n hyrwyddo cerdded a beicio i ddisgyblion drwy eu rhaglen Teithiau Llesol. Bydd staff hefyd yn derbyn hyfforddiant beicio yn y gwanwyn.
Mae'r Cynllun Teithio Llesol Ysgolion hefyd yn cysylltu'n agos â strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd sy'n canolbwyntio at ‘strydoedd sy'n dda i blant' er mwyn annog a galluogi plant a phobl ifanc i fod yn actif ac i ymgysylltu â'r ardal y maent yn byw ynddi, i deimlo'n ddiogel ac i symud o gwmpas mewn ffordd sy'n gyfleus iddynt.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae iechyd a lles ein plant yn flaenoriaeth, a thrwy leihau nifer y ceir sy'n gyrru i'r ysgol, mae hynny nid yn unig yn hybu gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion a rhieni ond mae hefyd yn helpu i wneud ysgolion yn fwy diogel.
"Caiff addewid Caerdydd i ddod yn ddinas sy'n dda i blant UNICEF ei siapio gan y plant a'r bobl ifanc sy'n gweithio gyda ni i gyflawni tri maes addysg â blaenoriaeth; teulu a pherthyn; ac iechyd.
"Mae'r cynlluniau wedi cynnwys diwrnodau dim ceir lle gall teuluoedd feicio'n ddiogel o amgylch canol y ddinas a'r cynllun Chwarae ar y Stryd sy'n galluogi cymunedau i wneud cais i gau eu ffyrdd gan alluogi plant i chwarae'n ddiogel, yn yr awyr agored yn eu stryd eu hunain.
"Cynlluniau Teithio Llesol Ysgolion yw'r rhaglen ddiweddaraf sy'n ceisio gwneud newidiadau sylweddol i ymddygiad ar gyfer y dyfodol, gan helpu Caerdydd i fod yn ddinas wyrddach gyda hawliau plant yn ganolog iddi."
Mae Sustrans Cymru hefyd wedi cynorthwyo'r ysgol i ddatblygu cynlluniau sy'n hyrwyddo cerdded a beicio i ddisgyblion drwy eu rhaglen Teithiau Llesol. Bydd staff hefyd yn derbyn hyfforddiant beicio yn y gwanwyn.
Sustrans Quote
Roedd y digwyddiad hefyd yn nodi achlysur lansio adnoddau ar-lein newydd i ysgolion sy'n cynnwys canllawiau cam wrth gam ac astudiaethau achos. Mae mwy o wybodaeth ar gael ynhttps://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/hafan/