Back
Cwestiynau ac atebion ar y Papur Gwyn ar Drafnidiaeth

 

1)     Cwestiwn: Pam mae Cyngor Caerdydd yn ystyried codi tâl ar ddefnyddwyr ffordd?
 

Ateb: Mae ffyrdd ein dinas wedi'u dylunio ar gyfer poblogaeth o 200,000, ond mewn gwirionedd mae'r boblogaeth yn chwyddo i bron 500,000 bob dydd. Mae angen gwella'r seilwaith trafnidiaeth yng Nghaerdydd ar frys, ac mae codi tâl ar ddefnyddwyr ffordd yn un o'r dulliau y byddwn yn eu hystyried i ddod o hyd i'r cyllid sydd ei angen.

Mae pedwar amcan clir y gallwn eu cyflawni drwy gael unrhyw gynllun yn gywir: 

A)    Lleihau tagfeydd (un o'r prif broblemau sy'n ein dal ni nôl yn economaidd, ac sy'n peri rhwystredigaeth bob dydd) 

B)   Buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus

C)   Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd (Trafnidiaeth yw'r prif faes lle gallwn ni fel dinas weithredu yn erbyn newid yn yr hinsawdd).

D)   Gwella ansawdd aer 

2)     Cwestiwn: Os caiff cynllun codi tâl ei weithredu, beth fydd y gost i yrru ar ffyrdd Caerdydd?

Ateb: Ar y cam hwn, mae codi tâl ar ddefnyddwyr ffordd yn cael ei ystyried fel cysyniad, a bydd achos busnes manwl yn cael ei gynhyrchu i ddod o hyd i'r ateb gorau, aallfod ar ffurf codi tâl. 

Fel rhan o broses benderfynu gadarn, byddwn yn ystyried pob opsiwn. Hoff opsiwn y Cyngor fyddai ffi isel o rhwng £2 a £3 yn ystod yr wythnos - nid fel y cynllun sydd ar waith yn Llundain. Ni allwn ymrwymo ar y cam hwn i'r gost, oherwydd bydd angen ymgynghori ac asesu i ystyried nifer o opsiynau.

3)     Cwestiwn: Pam na fyddai'n rhaid i drigolion Caerdydd dalu?

Ateb: Mae nifer o resymau am hyn:

A)    Trigolion Caerdydd sy'n dioddef fwyaf o effeithiau traffig cymudo allanol. Mae'n achosi tagfeydd yn eu cymdogaethau, lefelau ansawdd aer peryglus a gwaith cynnal a chadw ffyrdd y mae trigolion/trethdalwyr Caerdydd yn talu amdano.

B)    Effeithir arnynt gan newidiadau mewn ffyrdd eraill hefyd - llwybrau ar gau, cynnydd mewn costau parcio, colli llefydd parcio i wneud lle ar gyfer lonydd bysus a beiciau. 

4)     Cwestiwn: Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Ardal Aer Glân a thâl tagfeydd?

Ateb: Mae cysylltiad rhwng tagfeydd a llygredd aer, ond nid ydynt yr un peth. Unig ddiben Ardal Aer Glân sy'n codi tâl yw gwella ansawdd aer i fodloni gofynion cyfreithiol drwy godi tâl ar y cerbydau mwyaf llygredig i ddod i mewn i'r ardal.

Nid yw tâl tagfeydd yn gwahaniaethu rhwng cerbydau yn seiliedig ar lygredd, ond yn ceisio lleihau cyfanswm y cerbydau ar y ffordd neu o fewn ardal. Byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd aer o hyd. Gall Ardal Aer Glân effeithio ar dagfeydd, ond mae hyn yn debygol o fod yn y byrdymor yn unig tra bod cerbydau'n cael eu diweddaru i fodelau glanach a phobl ddechrau teithio mewn ffyrdd gwahanol, boed ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy gerdded neu feicio.

5)     Cwestiwn: Pa welliannau fydd yn cael eu gwneud i seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus cyn cyflwyno tâl tagfeydd?

Bydd y gwelliannau canlynol yn cael eu gwneud cyn cyflwyno tâl o'r fath:

2020

Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno rhagor o gapasiti trenau ar lwybrau allweddol y Cymoedd

2021

Parcio a Theithio newydd/gwell yn C32/A470, C33 a Dwyrain Caerdydd
Gorsafoedd bysus newydd yn Waungron ac Ysbyty Athrofaol Cymru

2022

Cwblhau projectau Cam 1 Metro+ e.e. Cyfnewidfa'r Porth
a Pharcio a Theithio Pont-y-pŵl a New Inn/Y Pîl
Cwblhau cam cyntaf y rhwydwaith beicio ar wahân (chwe llwybr)
Cwblhau Gorsaf Fysus Ganolog Caerdydd

2023

Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno rhagor o gapasiti trenau ar lwybr allweddol y Cymoedd
Agor gorsaf Metro yn Heol y Crwys
Agor gorsaf Parc Caerdydd yn Llaneirwg
Gweithredu cynllun bysus cyflym rhanbarthol

2024

Agor lein tram-trên Bae Caerdydd a Sgwâr Loudoun
a'u cysylltu â lein y ddinas i Radur (Cledrau Croesi cam 1)

6)     Cwestiwn: Pam nad ydych chi'n codi tâl ar y cerbydau mwyaf llygredig yn unig (fel rhai Ardaloedd Aer Glân mewn dinasoedd eraill?)

Ateb: Ystyriwyd Ardal Aer Glân gan y Cyngor yn ddiweddar yn sgil derbyn cyfarwyddeb gyfreithiol gan Lywodraeth Cymru i wella lefelau Nitrogen Deuocsid yng nghanol y ddinas ‘cyn gynted â phosib'. Mae gwybodaeth am yr asesiad hwn ar gael yma:https://www.cardiffnewsroom.co.uk/releases/c25/21121.html

Fodd bynnag, nid dim ond llygredd sy'n peri pryder i'r Cyngor, ac er bod ceir trydan yn ateb posib i lygredd allyriadau, byddant yn cyfrannu at dagfeydd yn y ddinas o hyd. Er mai allyriadau disel sydd fwyaf peryglus i'n hiechyd, mae ceir petrol yn cynhyrchu mwy o garbon deuocsid, sy'n gyfrannwr mawr at newid yn yr hinsawdd.

Hefyd, petai'r Cyngor yn codi tâl ar gerbydau hŷn sy'n defnyddio'r rhwydwaith ffordd yn unig, gallai hyn effeithio'n anghymesur ar bobl dlotach sy'n methu â diweddaru eu cerbyd.

At hynny, mae cerbydau trydan hyd yn oed yn cynhyrchu llygredd gronynnol o frêcs a theiars, ynghyd â charbon os yw'r ynni i bweru'r cerbydau trydan yn dod o danwyddau ffosil. Pe bai pobl yn penderfynu gyrru cerbydau petrol yn lle hynny, gallai hyn gynyddu ein hallyriadau carbon hefyd.  

7)     Cwestiwn: On'd yw'r cynllun yn codi arian ar bobl sy'n byw y tu allan i Gaerdydd i'w wario ar gynlluniau yng Nghaerdydd?

Ateb: Nac ydy. Bydd rhywfaint o refeniw yn cael ei ddefnyddio'n uniongyrchol i gefnogi gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus i bobl o awdurdodau cyfagos. Er enghraifft, i fuddsoddi mewn gwasanaeth bws cyflym rhanbarthol a chynlluniau Parcio a Theithio. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid rhanbarthol ar y cynlluniau hyn.

8)     Cwestiwn: Faint o incwm y flwyddyn mae'r Cyngor yn meddwl y gall ei godi gyda thâl tagfeydd, a beth gall yr arian gael ei wario arno?

Ateb: Bydd yr holl elw'n cael ei wario ar brosiectau trafnidiaeth, fel yr amlinellir yn y Cynllun Trafnidiaeth. Byddai'r broses o ddatblygu achos busnes yn pennu'r union incwm disgwyliedig. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir y gallai tâl o £2 yn ystod yr wythnos i geir godi gwarged o tua £15m i £20m y flwyddyn, a allai gael ei ddefnyddio i gefnogi benthyca ymlaen llaw ar gyfer buddsoddiadau a chymorth refeniw parhaus.

9)     Cwestiwn: A yw'r Papur Gwyn Trafnidiaeth wedi'i gostio'n llawn?

Ateb: Mae'r costau dangosol lefel uchel ar gyfer y prosiectau yn y Papur Gwyn yn amcangyfrif costau o rhwng £1bn a £2bn. Fodd bynnag, bydd angen gwneud gwaith pellach i sicrhau bod yr amcangyfrifon cost a roddir yn gadarn ac yn adlewyrchu'r rhaglen yn gywir wrth iddi ddatblygu dros gyfnod o 10 mlynedd.

10)Cwestiwn: Ydych chi'n meddwl y bydd codi £2 neu £3 y dydd ar bobl yn annog pobl i ystyried opsiynau eraill, neu a fyddant yn talu heb feddwl, a fyddai'n golygu dim newid mewn tagfeydd?

Ateb: Ar y cam hwn, nid ydym yn gwybod yr ateb i hyn. Caiff lefel y tâl ei ddatblygu fel rhan o'r achos busnes, ac wrth wneud hyn byddwn yn cynnal arolwg o gymudwyr i asesu'r gyfradd fwyaf addas i annog pobl i symud i ffwrdd o geir preifat fel y prif ddull o deithio i mewn i Gaerdydd.

Mae tystiolaeth gyfoes o ddinasoedd eraill yn awgrymu y gall tâl bychan hyd yn oed ‘wthio' newid mewn ymddygiad, yn enwedig os cynigir trafnidiaeth gyhoeddus well hefyd, gan arwain at leihad mewn lefelau traffig o rhwng 10 ac 20%, sy'n cyfateb yn fras i lefelau traffig yn ystod y gwyliau ysgol.

11)Cwestiwn: Beth yw'r camau nesaf? Os cytunir ar dâl tagfeydd, pryd bydd yn dechrau?

Ateb: Bydd y Cyngor yn edrych ar nifer o opsiynau i ddatblygu'r ateb sy'n gweithio orau i Gaerdydd a'r cyffiniau. Byddwn yn datblygu asesiadau manwl ac yn cefnogi achosion busnes i ddod o hyd i'n hoff opsiwn. Ar y cam hwn ni allwn gynnig dyddiad dechrau, ond gwerthfawrogwn y gallai unrhyw gynllun o'r fath gymryd hyd at bedair blynedd i'w ddatblygu'n llawn a'i brofi cyn ei weithredu.

12)Cwestiwn: Pwrpas y cynllun hwn yw cosbi gyrwyr er mwyn gwneud arian, pan nad oes opsiwn arall gan rai pobl. Sut allwch chi gyfiawnhau hyn?

Ateb: Fel y nodir yn y Papur Gwyn, y bwriad yw gwneud gwelliannau trafnidiaeth sylweddol cyn cyflwyno unrhyw dâl i sicrhau bod dewisiadau eraill gan bobl i benderfynu ar y ffordd orau o deithio i Gaerdydd ac o fewn y ddinas.

Yr hyn sy'n glir yw bod y problemau traffig y mae'r ddinas yn eu gwynebu ar y funud yn anghynaladwy - yn economaidd ac ecolegol - felly mae angen i ni weithredu.

13)Cwestiwn: Rydych yn sôn na fydd trigolion Caerdydd yn rhan o hyn. Pa grwpiau eraill fydd yn cael eithriad, e.e. deiliaid bathodyn glas, tacsis, gwasanaethau brys a bysus?

Ateb: Ar y cam hwn nid yw'n bosibl sôn yn bendant am unrhyw eithriadau, a chaiff eithriadau eu datblygu fel rhan o'r asesiadau a'r ymgynghoriadau, ond yn amlwg rydym yn disgwyl na fydd yn rhaid i'r gwasanaethau brys, trafnidiaeth gyhoeddus (h.y. bysus) na deiliaid bathodyn glas dalu costau. 

14)Cwestiwn: Beth am bobl sydd angen car ar gyfer eu gwaith neu fusnes, lle mae angen gyrru fel rhan o'u contract gwaith?

Ateb: Caiff hyn ei ystyried fel rhan o'r achos busnes, yr asesiadau dosbarthiadol a'r asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb.

15)Cwestiwn: Pa effaith fydd tâl tagfeydd yn ei gael ar yr economi leol? A oes asesiad effaith economaidd wedi'i wneud?

Ateb: Caiff hyn ei asesu'n llawn wrth i ni ddatblygu'r cynigion a byddwn yn ymgynghori'n agos â'r gymuned fusnes wrth i gynigion gael eu datblygu. 

Mae'n werth nodi hefyd mai tagfeydd yw un o'r prif broblemau sy'n dal twf economaidd Caerdydd a dinasoedd craidd eraill yn ôl. Mae dinasoedd fel Stockholm, Llundain, Milan, Nottingham a Singapore wedi parhau i dyfu'n economaidd er gwaethaf y taliadau. 

16)Cwestiwn: Bydd pobl sy'n gyrru o'r cymoedd yn cael eu cosbi gan y cynllun hwn, ac mae cymunedau'r cymoedd yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Sut allwch chi gyfiawnhau hyn?

Ateb: Aelodau tlotaf ein cymdeithas, yng Nghaerdydd a'r rhanbarth ehangach, yw'r bobl sy'n lleiaf tebygol o fod yn berchen ar gar, ac maent yn llwyr ddibynnol ar system trafnidiaeth gyhoeddus israddol.

Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid rhanbarthol a Llywodraeth Cymru i ehangu a gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i Gaerdydd o'r Cymoedd ac awdurdodau cyfagos i sicrhau bod cymudwyr yn yr ardaloedd hyn yn cael dewisiadau ymarferol, fforddiadwy heblaw am y car cyn gweithredu unrhyw gostau. 

Y bobl sy'n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig y cymoedd sy'n debygol o weld y budd mwyaf o unrhyw fuddsoddiadau y gallai cynllun o'r fath eu hariannu. Yn aml, nid yw'r gwasanaeth bws presennol yn gwasanaethu rhai o'r cymunedau hyn yn dda. Byddwn yn cynllunio i fuddsoddi mewn gwasanaethau bws cyflym rhanbarthol fel y gall cymunedau gael mynediad gwell i'r nifer gynyddol o gyfleoedd cyflogaeth yng Nghaerdydd. 

17)Cwestiwn: Bydd unrhyw gynllun codi tâl yn ddadleuol. Ydych chi'n credu y gallwch chi ddwyn perswâd ar y cyhoedd gyda'ch cynlluniau?

Mae agenda a ffocws y cyfryngau wedi newid, ac mae newid yn yr hinsawdd ac ansawdd aer nawr yn cael eu trafod yn eang bron yn ddyddiol. Mae tystiolaeth yna awgrymu, ar ôl amheuaeth gychwynnol am y cynlluniau hyn, fod eu poblogrwydd yn cynyddu wrth i'r manteision gael eu gwireddu.

Byddai'n fwy dadleuol gwneud dim byd, o ystyried y dystiolaeth sydd gennym ni ynghylch llygredd aer (220-425 o farwolaethau y flwyddyn ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro) a newid yn yr hinsawdd (11 mlynedd a mwy).