27/01/2020
Caerdydd yw un o ddinasoedd pennaf gwledydd Prydain ar gyfer ailgylchugyda chyfraddau'n uwch na 59%* ond mae dal gwaith i ni ei wneud i fwrw targed Llywodraeth Cymru eleni, sef 64%.
Er bod Caerdydd yn casglu ychydig dros 40,000 o dunelli o wastraff bob blwyddyn, nid oes modd ailgylchu mwy na 7,000 o dunelli o'r gwastraff hwn neu mae cymaint o wastraff na ellir ei ailgylchu yn y bagiau nad oes modd ei wahanu i'w ailgylchu.
Mae tri pheth sy'n cael eu rhoi mewn bagiau gwyrdd fwyaf sef:
Bydd trigolion Caerdydd yn cael cymorth ychwanegol i ailgylchu'n iawn dan gynllun newydd a fydd yn rhoi gwybod iddynt pan fyddant yn cyflwyno eitemau anghywir nad ydynt yn addas i'w hailgylchu.
Gobeithir y bydd y cynllun newydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd yr ailgylchu a chompostio a gesglir o ymyl y ffordd gan Gyngor Caerdydd - gan helpu'r ddinas i ddod yn un o'r dinasoedd ailgylchu gorau yn y byd.
Yn rhan o'r ymgyrch newydd, gweler sticeri pinc llachar ar finiau neu fagiau ailgylchu neu wastraff gardd yn rhoi gwybod i breswylwyr eu bod yn cynnwys eitemau anghywir. Os caiff sticer pinc ei roi ar gynhwysydd, bydd rhaid i breswylwyr fynd â'u gwastraff yn ôl i'w heiddo er mwyn cael gwared ar yr eitemau anghywir cyn iddynt roi eu hailgylchu allan eto ar y dyddiad casglu nesaf. Dysgwchfwy yma.
Os na fyddwch yn cyflwyno'ch gwastraff a'ch ailgylchu'n gywir gallech gael hysbysiad cosb benodedig o hyd at £100. Fodd bynnag, cyn i hyn ddigwydd, gwelwch sticer pinc ar fagiau ailgylchu sydd wedi'u cyflwyno'n anghywir. Os gwelwch sticer pinc, rydym am i chi stopio a meddwl.
Bydd y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno o 2 Mawrth 2020.
Dysgwch fwy am yr ymgyrchymaa dilynwch #seepinkstopandthink ar y cyfryngaucymdeithasol.
*59.19% yn 2018/19