23.1.20
Cafodd argymhelliad i ddatblygu cynigion diwygiedig ar gyfer cynnig llefydd addysg yn Adamsdown a Sblot, yn cynnwys y cynlluniau ibeidio â bwrw ymlaen â chau Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban yn Nhremorfa, ei gymeradwyo gan y Cabinet heddiw.
Roedd y cynnig i beidio â chynnal yr ysgol,ar gais yrArchesgobaeth Gatholig mewn pecyn o gynigion RhaglenBand B Ysgolion y 21ain Ganrif am lefydd ysgol yn Adamsdown a Sblot a aeth i ymgynghoriad cyhoeddus y llynedd.
Roedd cais yr Archesgobaeth yn seiliedig yn bennaf ar nifer isel y disgyblion o deuluoedd Catholig a oedd yn dewis mynd i ysgol Sant Alban. Fodd bynnag, mae niferoedd y disgyblion Catholig sy'n mynd i'r ysgol yn debyg i rai ysgolion Catholig eraill yng Nghaerdydd.
O ganlyniad, mae'r Archesgobaeth wedi diddymu ei chais i gau'r ysgol ac mae rhagor o waithi ddatblygu cynigion ad-drefnu a buddsoddi diwygiedig ar gyfer y ddarpariaeth addysg yn yr ardal yn mynd rhagddo. Ni fydd Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban yn cau fel rhan o'r cynigion diwygiedig, a ddygir yn ôl i'r Cabinet cyn gynted â phosibl.
Dyma'r cynigion gwreiddiol yn yr ymgynghoriad:
Cafodd y Cabinet newyddion am adborth gan ystod o randdeiliaid a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori yn ei gyfarfod a chlywed na fyddai angen cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Baden Powell bellach oherwydd ynewid yn yr amgylchiadau yr oedd y cynigion yn seiliedig arnyntac nad yw bellach yn ddichonol defnyddio adeiladau ysgol Sant Alban, a fyddai'n wag, er mwyn estyn Ysgol Feithrin Tremorfa.
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Rydym yn ymrwymo'n llawn i fuddsoddi mewn a gwella'r ddarpariaeth addysg yn Sblot ac Adamsdown o'r blynyddoedd cynnar at ysgol uwchradd a darpariaeth ôl-16, a rhoimynediad i'r amgylchedd dysgu o'r safon orau oll ar gyfer plant a phobl ifanc, a budd i'r gymuned ehangach yn sgil y cyfleusterau gwell yno.
"Yn dilyn cais yr Archesgobaeth i ddiddymu'r cynnig i gau Ysgol Sant Alban, mae angen rhagor o waith nawr i addasu'r cynigion am lefydd ysgol yn Sblot ac Adamsdown a bydd hyn yn rhoi cyfle i ni werthuso rhai o'r pwyntiau a godwyd yn yr ymgynghoriad."