Back
Cwestiynau ac atebion ar Ymgyrch y Sticer Pinc

1)     Pam mae'r cynllun yn cael ei weithredu?

Ateb: Bydd y sticeri'n rhoi gwybod i bobl pam nad yw eu bagiau, eu biniau na'u cadis wedi'u casglu. Mae'n bwysig sicrhau bod pobl yn rhoi'r eitemau cywir yn y cynwysyddion cywir fel y gallwn ailgylchu a chompostio cymaint â phosibl.

 

2)     Pam mae'r Cyngor yn bygwth rhoi dirwy i mi am ailgylchu?

Ateb: Nod y cynllun yw sicrhau bod pobl yn rhoi eu gwastraff allan yn gywir ac yn rhoi'r eitemau cywir yn y bagiau neu'r biniau cywir. Bydd hyn yn helpu i gynyddu ailgylchu a hefyd yn lleihau sbwriel ar y stryd. Dim ond os byddant yn methu â chyflwyno eu gwastraff yn gywir dro ar ôl tro y cânt eu dirwyo. Ar hyn o bryd, dim ond tua 58% o wastraff yr ydym yn ei ailgylchu, ond y targed presennol ar gyfer Cymru yw 64%.

 

Ar gyfer pob tunnell o wastraff a gollir o'r targed, gall y Cyngor dderbyn dirwy o £200. Os na fydd cyfradd ailgylchu'r ddinas yn codi o 58% i 70%, sef y targed ar gyfer 2025, gallai'r ddirwy gyfan fod yn fwy na £10m.

 

3)     A oes rhaid i'r pum cam a amlinellir yn yr ymgyrch newydd fod yn olynol i gael dirwy? Neu a oes terfyn amser ar pryd y bydd diffyg cydymffurfiaeth yn y broses bum cam yn dod i ben?

Ateb: Mae rhoi cosb benodedig am gyflwyno gwastraff yn anghywir yn gofyn am ddau gam yn unig, sef cyhoeddi hysbysiad adran 46 o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd, ac yna cyflwyno'r hysbysiad cosb benodedig.

Bydd rhaid i breswylwyr dorri'r cynllun bum gwaith dros gyfnod treigl o 12 wythnos er mwyn derbyn hysbysiad cosb benodedig oherwydd halogi. Nid oes gan yr hysbysiad adran 46 unrhyw ddyddiad cau fel y cyfryw, cyhyd ag y bydd y meddiannwyr yn aros.

Fodd bynnag, rydym yn cyflwyno'r ymgyrch sticer pinc er mwyn ceisio atal yr angen i roi cosb benodedig, drwy roi tri siawns i breswylwyr wneud pethau'n iawn, cyn i gamau gorfodi'r ymgyrch ddechrau. Bydd rhaid i breswylwyr dorri'r cynllun bum gwaith dros gyfnod treigl o 12 wythnos i gael hysbysiad cosb benodedig.

 

4)     Beth petai'r bin wedi'i halogi gan rywun yn cerdded i lawr y stryd yn hytrach na chan y preswylydd? Er enghraifft, dympio pacedi creision neu sbwriel arall yn y bin gwastraff gardd gwyrdd wrth iddynt gerdded heibio'r eiddo.

Ateb: Hyfforddir criwiau i nodi achosion halogi o'r fath.  Os byddwch yn cael sticer neu lythyr, ond eich bod yn credu nad yw eich bin/bag wedi'i halogi, cysylltwch â ni a byddwn yn ymchwilio i'r mater i chi.

 

5)     Beth sy'n digwydd os yw person eisoes wedi cael hysbysiad adran 46? A yw'r cynllun yn dal i fod yn gymwys?

 

Os yw person eisoes wedi cael hysbysiad adran 46, yna bydd yn cael hysbysiad cosb benodedig ar unwaith am beidio â chydymffurfio â hysbysiad cyfreithiol a gyflwynwyd. O ystyried hyn, ni fydd camau addysgol yr ymgyrch yn berthnasol i'r person o dan sylw.

 

6)     A yw'r cynllun yn berthnasol i bobl oedrannus neu anabl sydd ar y Cynllun Cymorth Codi?

Ateb: Mae'r cynllun sticer pinc yn berthnasol i bawb, ac eithrio'r rhai sydd eisoes wedi cael hysbysiad adran 46.  Y nod yw rhoi gwybod i bobl pam nad yw eu bag wedi cael ei gasglu, ond byddwn yn ystyried unrhyw amgylchiadau arbennig.

 

7)     A fydd y wybodaeth a ddarperir fel rhan o'r cynllun addysg a gorfodaeth ar gael mewn ieithoedd eraill ar wahân i Gymraeg a Saesneg?

Ateb: Gellir cyfieithu'r wybodaeth a ddarperir ar wefan y Cyngor i nifer o ieithoedd gan ddefnyddio Google Translate. Os nad oes gan breswylydd fynediad i'r rhyngrwyd gofynnir iddo ffonio C2C fel y gellir gwneud trefniadau eraill.

Fel arall, cyflenwir gwybodaeth mewn 14 iaith wahanol drwy'r ddolen ganlynol:

https://www.cardiff.gov.uk/ENG/resident/Rubbish-and-recycling/advice-in-other-languages/Pages/default.aspx

 

 

8)     Os yw llwyth gwastraff wedi'i halogi â gwastraff arall, pam na ellir tynnu'r deunyddiau anghywir gan y Cyngor neu gontractwr y Cyngor?

Ateb: Nid yw'n ymarferol i gasglwyr sbwriel dynnu eitemau anghywir. Mae eitemau anghywir yn halogi gweddill y llwyth ac ni ellir ei gasglu. Dyna pam mae'r cynllun hwn yn cael ei gyflwyno, i roi gwybod i breswylwyr pan fydd y deunyddiau anghywir yn cael eu rhoi yn y cynwysyddion a ddarperir.

 

9)     Beth sy'n digwydd os bydd preswylydd yn symud i eiddo newydd a bod y perchennog neu'r tenant blaenorol wedi torri amodau'r cynllun ac wedi cael rhybuddion? A yw'r rhain yn berthnasol i'r perchennog neu'r tenant newydd sydd wedi symud i mewn i'r eiddo?

 

Ateb: Nac ydynt - Mae'r rhybuddion ond yn berthnasol i unigolyn ar ôl i hysbysiad adran 46 gael ei gyflwyno. Dyma'r hysbysiad cyfreithiol sy'n rhoi'r awdurdod i'r Cyngor gyflwyno hysbysiad cosb benodedig.

 

10)A oes proses apelio yn ystod y pum cam, os nad yw preswylydd yn cytuno bod ei wastraff wedi'i halogi?

 

Ateb: Nid oes modd apelio yn erbyn hysbysiad adran 46. Mae'r Hysbysiad yn rhestru gofynion y gwasanaeth o dan dan ddarpariaethau Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Ar ôl derbyn yr Hysbysiad bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i breswylwyr gydymffurfio â'r trefniadau ar gyfer rhoi eu gwastraff allan i'w gasglu.

Mae hysbysiad cosb benodedig yn rhyddhau atebolrwydd i gael eich erlyn mewn llys ynadon. Nid oes unrhyw hawl apelio i'r Cyngor, mae torri hysbysiad yn drosedd droseddol yn hytrach na throsedd sifil sy'n gorfodi dirwy ac yn darparu proses apelio. Byddai'r cyfle i anghytuno trwy Lys yr Ynadon. 

Caiff y mater ei gyfeirio at Lys yr Ynadon trwy Weithdrefn Cyfiawnder Sengl pe bai'r gosb benodedig yn parhau heb ei thalu, neu pe baech yn rhoi cyfarwyddyd i Gyngor Caerdydd i wneud felly.

Mae gan y person sy'n ei derbyn 21 diwrnod i apelio i Lys yr Ynadon trwy'rWeithdrefn Gwynion Gorfforaethol neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymruac ni chaiff unrhyw ymateb ffurfiol ei anfon.

 

 

11)A yw'r broses pum cam yn berthnasol i'r holl gynwysyddion a ddarperir, felly, er enghraifft, os yw'r gwastraff gwyrdd wedi'i halogi un wythnos a bod y gwastraff gardd gwyrdd wedi'i halogi yr wythnos ganlynol, a yw hyn yn cyfrif fel dau ddigwyddiad?

 

Ateb: Mae'r cynllun yn berthnasol i fagiau gwyrdd ar gyfer deunydd ailgylchadwy sych a'r bin compost gwyrdd ar gyfer gwastraff gardd gwyrdd. Yn y sefyllfa hon, fel yr eglurir yn y cwestiwn, bydd halogi'r bagiau gwyrdd un wythnos a'r bin gwyrdd yr wythnos wedyn, yn arwain at dorri amodau dau gam o'r cynllun.