Back
Cyhoeddi enw’r rhai sydd yn rownd gyn-derfynol y Gig Fawr


 17.1.20

Mae deuddeg seren newydd yn sîn gerddoriaeth Caerdydd wedi cael eu dewis i frwydro yn erbyn ei gilydd yn nwy rownd gynderfynol Y Gig Fawr o flaen panel o feirniaid dylanwadol o'r diwydiant.

 

Bydd y Fuel Rock Club ar Stryd Womanby yn cynnal dwy noson o gerddoriaeth yn olynol sy'n arddangos yr ystod amrywiol o dalent yn y ddinas, yn amrywio o pync ynni uchel, i R&B, roc gwerin, hip-hop a phop arbrofol.

 

Gyda lle ar restr bandiau Gŵyl Sŵn 2020, ynghyd â thaleb o £100 i siop gerddoriaeth PMT ac amser recordio yn Stiwdios Music Box gyda'r cynhyrchydd chwedlonol Charlie Francis - sydd wedi gweithio gydag amrywiaeth o artistiaid, o Future of the Left, i Turin Brakes , Robyn Hitchcock, Wilco ac REM - mae ennill y Gig Fawr yn gyfle mawr i gerddorion lleol godi eu proffil.

 

Bydd rownd gynderfynol 1, ddydd Mawrth 28 Ionawr, yn cynnwys:

 

Aaronson:I ddilynwyr Explosions in the Sky a Mogwai. Wedi'u henwebu ar gyfer yr Albwm Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Caerdydd, ac wedi'u dewis ddwywaith fel band gorau Gŵyl Hyb, mae'r band ôl-roc Aaronson yn creu sŵn yn rheolaidd ledled y de.

https://soundcloud.com/aaronsoncentral/june

 

Ailsa Tully:Wedi ei hysbrydoli gan gerddoriaeth gorawl, gwerin ac indie, mae Ailsa Tully yn creu byd soniarus nodedig gyda'i band llawn o ferched, yn aml yn archwilio ei phrofiadau o fod yn fenyw. Mae Ailsa wedi cael sylw ar BBC Radio Wales sawl gwaith, wedi teithio'r Eidal, wedi perfformio ledled y wlad, gan gynnwys yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd a'r Ronnie Scotts chwedlonol.

https://soundcloud.com/ailsatully/highly-strung

 

Blackelvis:Mae Blackelvis o Gaerdydd yn disgrifio eu hunain fel band roc a rôl o'r oes newydd. Yn gymysgedd o bob math o gerddoriaeth, maent wedi cael eu cymharu â'r Red Hot Chilli Peppers a Rage Against the Machine. Ers eu gig gyntaf ym mis Mai 2019 maent wedi cael eu chwarae ar y radio ledled y byd ac wedi bod yn siartiau De Affrica ac Awstralia gyda'u sengl gyntaf "Gimme Ya Luv".

https://open.spotify.com/artist/4AG7gSQrwxWCrdEvACY48A

 

Blue Amber:Wedi'i ysbrydoli gan Jazz, y Gair Llafar, cerddoriaeth arbrofol, hip hop offerynnol ac ôl-pync, mae Blue Amber wedi chwarae sawl sioe nodedig, gan gynnwys Gŵyl Hyb, a ddenodd ddilynwyr ffyddlon yn lleol. Maent wedi rhyddhau EP a dwy sengl, ac roedd y ddwy ohonynt ar i'w clywed gyntaf ar sioe radio Adam Walton ar BBC Radio Wales.https://open.spotify.com/track/1nUZaiXJljZG4C37L8lUyo

 

Dunkie:Project y canwr/cyfansoddwr Anthony Price a'r cynhyrchydd Wayne Bassett, dunkie yw: "taith gymhleth a gwefreiddiol sy'n treiddio'n ddwfn i'r cyflwr dynol, gan ddwyn i'r golwg fyfyrdodau calonnog ar fywyd, marwolaeth, cariad a cholled anorfod." - Broken 8 Records

https://open.spotify.com/artist/4rpi2rHKCM11voup6Y7zPX

 

Bloodshots:Mae Bloodshots, y band seico-roc chwech aelod, wedi bod yn chwarae yng Nghaerdydd a'r cyffiniau ers Awst 2018 mewn lleoliadau fel y Moon, y Globe, Clwb Ifor Bach a LePub. Ym mis Medi ehangodd y band eu sain, gan ychwanegu dau chwaraewr synth at yr aelodau.

https://bloodshots.bandcamp.com

 

Bydd rownd gynderfynol 2, ddydd Mercher 29 Ionawr, yn cynnwys:

 

Blueyute:Mae Blueyute yn Artist R&B dinesig yng Nhaerdydd. Mae'n gysylltiedig â BBC Introducing, ac yn cynhyrchu ac yn perfformio ei gerddoriaeth eu hun gan ddefnyddio Samplwr SP-404.

https://soundcloud.com/blueyute/alone

 

Charlie J:Yn wreiddiol o swydd Gaerhirfryn ond bellach yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, mae Charlie J yn gynhyrchydd/rapiwr cerddoriaeth y mae ei gerddoriaeth wedi ymddangos ar BBC Radio Wales a BBC Introducing gorllewin swydd Efrog. Perfformiodd yn y Morecambe Kite Festival yn 2018 a chafodd ei sengl "Back of my Mind" ei ffrydio 3000 o weithiau ar Spotify.

https://open.spotify.com/artist/1cr9PnrF9g3bq2mOy2AD3i?si=glu1Zda4Rny1Ne4IL56Drg

 

Deadmethod:Yn broject i'r canwr/cyfansoddwr caneuon Lloyd Best, mae cerddoriaeth Deadmethod yn plymio i ddyfnderoedd pop electronig tywyll, arbrofol wrth iddo archwilio rhywioldeb, homoffobia, cariad a cholled gyda gonestrwydd a dawn farddonol. Yn rhan o'r Project Forte yn 2018, cefnogodd Deadmethod Public Service Broadcasting a 65 Days of Static.

https://open.spotify.com/artist/3B3cVlhfVXbKGC5YXlmUCn?si=SGzjcsdjQuew4WwvR9SNHw

 

Glass Jackets:Ers iddynt ddychwelyd yn dilyn seibiant byr yn gysylltiedig â sefyllfa fisas, mae'r band roc gwerin trawsiwerydd Glass Jackets wedi bod yn creu cynnwrf o gwmpas De Cymru. Mae Ilana Held, a anwyd yn Boston, ac Elliot Oakley o Lerpwl yn rhannu'r gwaith canu, gan ychwanegu harmonïau canu gwlad at sain roc nodedig y band.Cafodd Glass Jackets eu gwylio dros 4,000 o weithio ar YouTube a'u ffrydio dros 2,000 o weithiau ar Spotify.

https://open.spotify.com/artist/6sSxvbUijGc8ZYwk1R5gOz

 

Jack Perrett:Mae Jack Perrett yn ystyried DJ Radio'r BBC Janice Long fel ffan, ac yn 2019 cafodd ei ddewis ar gyfer project BBC Horizons. Ac yntau o Gasnewydd mae wedi mynd yn anhygoel o boblogaidd gyda'i fideos cerddoriaeth, wedi bod yn rhan o restr chwarae Radio X ac wedi derbyn cefnogaeth gyda chyfleoedd mewn gwyliau a gigiau gan yr hyrwyddwyr, This Feeling.

https://open.spotify.com/track/6igrZiQgp4bKREGJnMcWWd

 

Nigel:Mae Nigel yn fand pync egniol gyda llinellau bâs grŵfi. Yn unigryw, gyda dylanwadau gan grunge, pync a metel i indie, jas a'r blues, bu Nigel yn llenwi sioeau fel y prif fand yng nghlybiau Caerdydd ac maent wedi cefnogi bandiau fel Pizzatramp, Wonk Unit a GBH.

https://open.spotify.com/album/2LeNlniDDaLJUJRf2QLTl0?fbclid=IwAR1pVg65ztmdKtTjVcnPJehWUZ1c8Y17ErLsKwbc-Iu16kIUmIGSBrl6yNk

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Gallai'r sylw a'r gwobrau sy'n dod gyda'r Gig Fawr wneud gwahaniaeth gwirioneddol i artistiaid ar ddechrau eu gyrfa. Ond nid dim ond cyfle gwych i gerddorion y ddinas yw'r Gig Fawr, mae hefyd yn gyfle gwych i glywed cerddoriaeth newydd.

 

"Mae sîn gerddorol Caerdydd yn rhan fawr o'r hyn sy'n gwneud Caerdydd yn lle mor wych i fyw ynddo. Mae llawer o greadigrwydd a llawer o dalent i'w gael - mae hynny ynghyd â sefydlu bwrdd cerddoriaeth cyntaf y ddinas yn golygu ei bod yn adeg cyffrous iawn i fod yn ymwneud â cherddoriaeth yng Nghaerdydd."

 

Mae tocynnau ar gyfer y gigs, sy'n digwydd ar ddydd Mawrth 28 a dydd Mercher 29 Ionawr, yn costio £5 a gellir eu prynu ar y drws neu o flaen llaw, drwy:

 

https://www.ticketweb.uk/event/cardiff-councils-the-big-gig-fuel-rock-club-tickets/10325475

 

https://www.ticketweb.uk/event/cardiff-councils-the-big-gig-fuel-rock-club-tickets/10325555

 

#DinasGerdd #YGigFawr