Back
Datgelu gweledigaeth drafnidiaeth gwerth £2biliwn

15/1/2020
 
Mae gweledigaeth drafnidiaeth gwerth £2 biliwn i drawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a de-ddwyrain Cymru wedi ei datgelu gan Gyngor Caerdydd.

Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth Cyngor Caerdydd yn nodi cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer ym mhrifddinas Cymru, wedi ei lansio heddiw yn dilyn ymgynghori â miloedd o breswylwyr y ddinas ac arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth.

C:\Users\c739646\Desktop\White Paper\Front page image without text.jpg

Mae'r Papur Gwyn yn rhestru cyfres o brojectau a allai chwyldroi dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a'r rhanbarth, gan gynnwys:

  • Ehangu'r cynlluniau Metro presennol i gynnig mwy o lwybrau tram/trên a gorsafoedd yng Nghaerdydd a'r rhanbarth
  • Cyflwyno gwasanaethau Bws Cludiant Cyflym newydd a safleoedd Parcio a Theithio;
  • Gwneud teithio ar fws yn sylweddol rhatach
  • Darparu llwybrau beicio a cerdded mwy diogel
  • Cynnig dewisiadau teithio go iawn i annog pobl allan o'u ceir ac ar i drafnidiaeth gyhoeddus.

 

Datgelodd y Cyngor y bydd gwireddu'r weledigaeth yn gofyn am weithio mewn partneriaeth â'r llywodraeth, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid rhanbarthol eraill ond gellid ariannu'r gost o £2 biliwn yn rhannol gan gynllun defnyddwyr ffordd dyddiol, a fyddai'n cynnwys eithriad i breswylwyr Caerdydd.

Dwedodd arweinydd y Cyngor, y Cyng. Huw Thomas: "Mae llwyddiant Caerdydd yn y dyfodol yn dibynnu ar gael trafnidiaeth y ddinas yn iawn. All neb fod yn hapus â'r sefyllfa fel ag y mae ar hyn o bryd a dyna paham rydym yn dwyn y weledigaeth ddeng mlynedd uchelgeisiol hon ger bron a phaham ein bod yn dechrau ar sgwrs onest ynghylch y modd o dalu amdani."

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae rhwydwaith trafnidiaeth presennol Caerdydd wedi ei greu hanner canrif yn ôl ar gyfer dinas o 200,000 o bobl.  Heddiw, unwaith y rhoddir ystyriaeth hefyd i gymudwyr, siopwyr ac ymwelwyr yna mae poblogaeth ddyddiol ein dinas bron â bod yn hanner miliwn. Does dim syndod fod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn gwegian - nid yw bellach yn addas i'r diben.

"Os edrychwch chi ar y peth o safbwynt y preswylydd cyffredin yng Nghaerdydd yn gyrru o gwmpas y ddinas i'r gwaith bob dydd, yn straffaglu i ennill ychydig bach o le ar y ffordd gyda'r 80,000 o gymudwyr eraill sy'n dod yma yn eu ceir o'r tu allan i ffiniau'r ddinas, yna wrth gwrs mae tagfeydd, llygredd traffig a'r system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gwegian wrth geisio gwasanaethu'r bobl sy'n byw a gweithio yma oll yn destun pryder - ac mae hynny'n ddigon teg hefyd.

"Yr eiliad hon rydym yn byw mewn byd lle mae'r Argyfwng Hinsawdd yn newid yr hyn a deimlwn ynghylch ein dyfodol. Mae'n dechrau newid ein hymddygiad a phwyntio tuag at y camau y bydd yn rhaid i ni oll eu cymryd i achub y blaned ar gyfer ein plant a'n hwyrion. Mae cael ein system drafnidiaeth yn iawn mor bwysig i ddyfodol ein dinas ac i ddyfodol ein plant hefyd.

"Dyna pam ein bod ni wedi dod yn fwy a mwy argyhoeddedig y bydd cyflawni'r math o newid radical sydd ei angen yn galw am ryw fath o ddull o godi arian  er mwyn gallu ariannu'r seilwaith sydd ei hangen yn y ddinas a'r rhanbarth ehangach."

Gallai'r cynllun cywir wneud 4 peth yn syth a hynny ar yr un pryd:

  1. Taclo newid yn yr hinsawdd
  2. Lleihau tagfeydd
  3. Ansawdd aer gwell
  4. Darparu arian wedi ei neilltuo i fuddsoddi mewn mentrau trafnidiaeth gyhoeddus sydd mawr eu hangen

 

Ychwanegodd y Cyng. Wild: "Un dewis efallai fyddai system gyffredinol cost-isel o £2 wedi ei godi ar drigolion nad sy'n dod o Gaerdydd ond sy'n gyrru i'r ddinas, a allai leihau tagfeydd, tra'n codi arian tuag at dalu am welliannau i'n rhwydwaith drafnidiaeth. Mae angen i ni gael pobl allan o'u ceir ac ar i drafnidiaeth cyhoeddus. I wneud hynny mae'n rhaid i ni allu cynnig y dewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus gorau iddynt. Ac i wneud hynny mae angen i ni godi arian i dalu amdanynt. 

"Fel rhan o broses benderfynu cadarn byddwn yn ystyried sawl dewis.Byddai ein dewis cyntaf yn ffafrio cynnwys eithriad i drigolion Caerdydd rhag unrhyw dâlfelly gofynnwn i chi ystyried y cynigion uchelgeisiol yn y ddogfen hon yn llawn.  Mae'n dangos fel y gallwn wneud newid radical yn y modd y byd pobl yn teithio i mewn ac o amgylch Caerdydd, adeiladu ar a datblygu gwaith Llywodraeth Cymru ar y METRO gan sicrhau y bydd gennym system drafnidiaeth sydd wir yn gweithio i'r ddinas a'r rhanbarth.

"Nid codi tâl ar ddefnyddwyr y ffyrdd yw'r unig ddewis sydd ar gael i godi arian a byddwn yn edrych ar ddewisiadau eraill mewn achos busnes y byddaf yn argymell ein bod yn mynd i'r afael â hi dros y flwyddyn nesaf. Ni chodir unrhyw dâl hyd nes y caiff yr achos busnes hwnnw ei chwblhau ac i'r holl ddewisiadau gael eu hystyried, gan gynnwys codi tâl am lefydd parcio a pharthau tagfeydd. Yn allweddol, rydym hefyd yn cydnabod fod nifer sylweddol o ymyriadau y byddai gofyn i ni eu gwneud i gynnig dewisiadau teithio amgen i bobl cyn y gellid cyflwyno unrhyw gynllun codi tâl ac rydym wedi amlinellu rhai o'r rheiny yn y Papur Gwyn ei hun."

Amcenir bod cost cyflawni'r rhaglen uchelgeisiol a nodir yn y Papur Gwyn - sydd yn cynnwys parcio a theithio newydd, llinellau a gorsafoedd tram/trên newydd, llwybrau bysiau cyflym a beicffyrdd ar wahan - yn £2 biliwn Byddai unrhyw incwm o Gynllun codi arian yn cael ei neilltuo er mwyn helpu i gyflawni projectau.

ychwanegodd y Cyng. Wild: "Mae angen gweithredu ar frys a sicrhau datrysiadau dewr. Dechreuodd ein Papur Gwyrdd ar drafodaeth o ddifri ynghylch y problemau sy'n wynebu'r ddinas a rhai o'r datrysiadau posib. Rhannodd dros 5,000 o ymatebwyr, gan gynnwys dros 2,500 o bobl ifanc, eu barn gyda ni, ynghyd â nifer o sefydliadau ac arbenigwyr. Mae'n amlwg, allwn ni ddim mynd ymlaen fel hyn. Mae gormod o geir ar ein ffyrdd, nid yw ein cludiant cyhoeddus yn ddigon da. Nid yw gwasanaethau trên a bws yn ddigon aml. Mae nifer gynyddol o bobl yn awyddus i feicio ond dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel. Rydym oll am weld aer glanach a gwneud ein rhan i herio newid yn yr hinsawdd. 

"Rydym am sicrhau dinas werddach, iachach ac ynddi lai o dagfeydd a system drafnidiaeth gyhoeddus sydd yn gweithio i bawb. Bydd hyn yn gofyn am weithio mewn partneriaeth gyda'r rhanbarth a Llywodraeth Cymru ar raddfa nas gwelwyd erioed o'r blaen. Mae dinasoedd sydd yn cael trafnidiaeth yn iawn - yn gweithio. Maen nhw'n gwneud bywyd yn haws a gwell i breswylwyr, cymudwyr ac ymwelwyr. Mae dinasoedd sy'n cael eu trafnidiaeth yn anghywir yn cael effaith i'r gwrthwyneb, ac yma, nawr, gydag Argyfwng Hinsawdd wedi ei ddatgan, ni allai'r ddadl dros newid fod yn fwy amserol."

Mae'r cynlluniau wedi derbyn cefnogaeth gan arbenigwyr iechyd a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

Dwedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro "Os ydym o ddifri am wella ansawdd yr aer, cael mwy o bobl i fod yn actif a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae angen camau uchelgeisiol. Mae'r papur Gwyn hwn yn cynnig hynny, ac rydym yn llwyr gefnogol o'r uchelgais i gynyddu cerdded a beicio yng Nghaerdydd, cynnig gwelliannau sylweddol i'r rhwydwaith drafnidiaeth gyhoeddus yn y Ddinas, a lleihau llygredd aer niweidiol. Bydd y camau hyn yn cyfrannu at welliannau sylweddol o ran iechyd yn y tymor byr a'r hir-dymor i drigolion ac ymwelwyr â Chaerdydd, a chenedlaethau'r dyfodol, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd a'i bartneriaid wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt."

Dwedodd Mark Barry, Athro Cysylltedd ar Waith ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae uchelgais y cyngor ar gyfer ymestyniad Cledrau Croesi Caerdydd i'r Metro yn arddangos ymrwymiad y ddinas i drafnidiaeth gyhoeddus ac i fynd i'r afael â her newid yn yr hinsawdd. Yn y tymor byr golyga hynny weithio gyda Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i ddwyn y gwaith yn ei flaen er mwyn sicrhau pedair trên yr awr ar linell rheilffordd y Ddinas a Llinell Coryton ac i ddarparu cysylltiad uniongyrchol rhwng Llinell y Ddinas a Llinell y Bae. Bydd hwn yn gosod sail ar gyfer pob cynllun rheilffordd metro ar draws y ddinas yn y dyfodol."

Dwedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol"Rwy'n falch i weld fod Cyngor Caerdydd yn meddwl a chynllunio ar gyfer yr hir dymor, yn creu strategaeth drafnidiaeth sydd yn ceisio gwella iechyd a llesiant pobl a bywyd gwyllt yng Nghymru. Mae creu seilwaith trafnidiaeth integredig carbon-isel, buddsoddi mewn teithio llesol ac adnabod tueddiadau yn y dyfodol o ran twf poblogaeth y ddinas a'r dechnoleg newydd ar gael er mwyn teithio o gwmpas y ddinas, yn union y math o bethau sydd angen i'n dinasoedd eu gwneud er budd cenedlaethau'r dyfodol. 

"Y llynedd cyhoeddais gyfres o adnoddau fel rhan o fy rhaglen Celfyddyd y Posib i helpu cyrff cyhoeddus i wneud y cyfraniad gorau posib i'r saith o nodau llesiant, ac mae'n dda gweld fod y papur gwyn hwn yn adlewyrchu f'arweiniad ac yn dod â'r Ddeddf i fodolaeth mewn maes polisi sydd yn chwarae rhan allweddol yn newid y modd y byddwn yn byw, gweithio a theithio er gwell. 

"Rwy'n disgwyl gweld cyrff cyhoeddus eraill yn symud i'r un cyfeiriad â Chyngor Caerdydd a gweithio i roi eu dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar waith." 

Mae'r cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus yn y Papur Gwyn yn cynnwys:

METRO Caerdydd:

Creu'r tram/trên Cledrau Croesi Caerdydd yn cysylltu dwyrain a gorllewin Caerdydd drwy gyfrwng y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn y Sgwâr Canolog;

C:\Users\c739646\Desktop\White Paper\Circle Line.jpg

Ymestyn tram/trên Cylch Caerdydd gan agor llwybrau newydd yn y ddinas;

Cefnogi Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru i weld gwireddu tram/trên newydd i gysylltu gorsaf Caerdydd Canolog a Bae Caerdydd erbyn 2023;

Cyflwyno cam 1 y Cledrau Croesi - gwasanaeth tram-trên newydd man lleiaf o 4 trên yr awr o Radur i Fae Caerdydd ar hyd Lein y Ddinas a chyswllt newydd i'r de o'r Orsaf Ganolog ac ar draws Sgwâr Callaghan, erbyn 2024;

C:\Users\c739646\Desktop\White Paper\Crossrail Cardiff_Transport green and purple-1.jpg

 

Creu gorsafoedd newydd yn Sgwâr Loudoun (Butetown) yng nghanol Bae Caerdydd ar Heol y Crwys a Pharc y Rhath erbyn 2024;

 

Creu gorsafoedd newydd yng Ngabalfa erbyn 2028 yn ogystal â Pharc Fictoria, Felindre, Doc y Rhath a Sblot wedi hynny;

 

Sefydlu Gorsaf Drenau Prif Linell newydd ym Mharc Caerdydd yn Llaneirwg;

Gwella'r holl orsafoedd trên presennol gan gynnwys adfywio Gorsaf Heol-y-Frenhines yn sylweddol;

 

Lansio system docynnau hollol integredig ar gyfer yr holl drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd - gan gynnwys y Metro, bysus a Nextbike - gan alluogi teithio ar draws y system drafnidiaeth gyfan ag un tocyn.

 

Bws Cludiant Cyflym:

Mae llwybrau bysiau ar hyn o bryd yn gofyn i bobl deithio i mewn ac allan o ganol y ddinas ar ffyrdd sy'n aml yn llawn traffig araf, gan wneud teithio ar y bws yn ddewis anatyniadol o'i gymharu â cheir. Bydd y Cyngor yn gwella gwasanaethau drwy sefydlu rhwydwaith bysiau traws-ddinas, wedi ei gysylltu â'r METRO newydd.  Bydd hwn yn cynnwys dolen fysiau cylchol o amgylch canol y ddinas a fydd yn golygu na fydd yn rhaid i deithwyr deithio i ganol y ddinas yn gyntaf er mwyn cyrraedd eu cyrchfan. Bydd gorsafoedd bysiau newydd yn cael eu codi yn nwyrain a gorllewin y ddinas.

Bydd technoleg glyfar yn blaenoriaethu bysiau ger goleuadau traffig a chyffyrdd a bydd mynediad at gyrchfannau rhanbarthol, fel Casnewydd, Pontypridd a Phenarth yn cael eu gwella.

I wneud teithio ar y bws yn fwy fforddiadwy, mae'r Cyngor yn cynnig gweithio gyda gweithredwyr bysiau i leihau prisiau i £1 ledled y ddinas.

Bydd cyfleusterau Parcio a Theithio newydd yn cael eu codi ar Gyffordd 32 a 33 yr M4, a chreu lôn fysiau newydd ar hyd Ffordd Gyswllt yr A4232.

Cynigir cymhellion i weithredwyr bysiau a thacsis i symud at gerbydau trydan a pheiriannau glanach.

Teithio Llesol a gwelliannau i'n strydoedd:

Rydym yn gwybod mai'r rhain yw'r dulliau mwyaf gwyrdd ac iach o deithio; maent yn creu llai o lygredd, ac yn ein helpu i gadw'n ffit. Gall teithio llesol hyd yn oed wella perfformiad plant yn yr ysgol. Ar hyn o bryd mae'r rhwydwaith teithio llesol o lwybrau beicio a cherdded diogel, deniadol a chyfleus yn dameidiog ac anghyflawn.

Mae'r Papur Gwyn yn amlinellu sut fydd y Cyngor yn adeiladu rhwydwaith feicio ansawdd uchel a chyfan gwbl ar wahan erbyn 2026. Bydd hyn yn cynnwys dolen seiclo gyflawn o amgylch canol y ddinas, fydd wedi ei chysylltu â chwe beicffordd, sydd wedi eu cynllunio ar gyfer nifer o ardaloedd ledled y ddinas.

Bydd cynllun llogi beiciau nextbike yn cael ei ehangu i o leiaf 2000 o feiciau a bydd cyfleoedd beicio nextbike rhanbarthol newydd yn cael eu cyflwyno i roi cyfle i ragor o bobl ymuno â'r cynllun.

Bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno ‘Menter Strydoedd Iechyd', fel bod strydoedd yn cael eu hawlio nôl fel mannau cyhoeddus iach i'r cyhoedd eu mwynhau, yn cynnwys uchafswm cyflymdra 20mya ledled y ddinas.

Bydd cynlluniau teithio llesol yn cael eu lansio mewn ysgolion ledled y ddinas i hyrwyddo cerdded, sgwtera neu feicio ac uchafswm cyflymder arferol strydoedd Caerdydd fydd 20mya

Defnydd o'r car yn y dyfodol:

Bydd y Cyngor yn cynyddu'n sylweddol nifer y pwyntiau gwefru ar draws Caerdydd erbyn 2025 er mwyn annog mabwysiadu cerbydau trydan.

Bydd fflyd gerbydau'r Cyngor yn gwbl drydanol neu'n ‘alluog o fod yn allyriadau sero' erbyn 2025.

Bydd clybiau ceir sydd yn rhoi mynediad i ddefnyddio ceir 24 awr y dydd yn cael ei ehangu er mwyn lleihau yr angen i breswylwyr fod yn berchen ar eu car eu hunain.

Bydd y Cyngor yn lobio Llywodraeth Cymru i gwblhau Ffordd Gyswllt Dwyrain y Bae ac i osod seilwaith i roi gwell cysylltiadau i breswylwyr yn y dwyrain.

Bydd technoleg CLYFAR yn defnyddio gwybodaeth deithio amser go iawn i fonitro ac ymateb i ddata trafnidiaeth, traffig a pharcio, yn lleihau tagfeydd ar goridorau trafnidiaeth CLYFAR.

Seilwaith ar gyfer y rhanbarth ehangach:

Bydd rhwydwaith rhanbarthol Bws Gwib yn cael ei sefydlu gyda gwasanaethau bws fforddiadwy yn gweithredu bob 15-20 munud ar yr oriau brig. Bydd y rhwydwaith hwn yn cysylltu trefi ar hyd a lled y ddinas-ranbarth â chanol Caerdydd.

Mae gwelliannau sylweddol hefyd yn cael eu gwneud i'r holl brif lwybr i'r ddinas, gan gynnwys:

Coridor Trafnidiaeth y Gogledd-Orllewin

Gwelliannau â'r nod o wella hygyrchedd ar gyfer cymunedau Llantrisant a Thonysguboriau i ac o Gaerdydd.  Mae gwaith eisoes wedi dechrau i godi cyfnewidfa drafnidiaeth ar Heol Waungron fydd yn cysylltu â chyfleuster Parcio a Theithio newydd ar Gyffordd 32 Traffordd yr M4. 

Mae opsiynau i fodurwyr newid i deithio ar y bws o Gyffordd 34 hefyd dan ystyriaeth, gyda chyswllt bws gwib ar yr A4232 i Fae Caerdydd.

Coridor y Gogledd:

 

Mae cynllun peilot CLYFAR ar waith ar gyfer rhan fawr o goridor yr A470 rhwng Coryton a Gabalfa ac mae disgwyl y caiff ei gyflwyno yn 2020.

 

Mae Coridorau CLYFAR yn defnyddio data ar y pryd i reoli symudiad traffig, trafnidiaeth gyhoeddus, cerddwyr a beicwyr. Bydd hyn yn golygu y gall teithwyr wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth o ran sut maen nhw'n dymuno teithio, cyn teithio.

 

Coridorau'r Gogledd a'r De-ddwyrain:

 

Mae opsiynau'n cael eu hystyried i wella cysylltiadau trafnidiaeth, gan gynnwys seilwaith cerdded a beicio.

 

Coridor y De-orllewin:

Mae nifer o opsiynau'n cael eu hystyried i leihau tagfeydd rhwng Penarth a Chaerdydd. Mae'r rhain yn cynnwys cynllun beiciau trydan peilot, cyfleusterau cyfnewidfa yng ngorsaf drenau Cogan, ymchwilio i ddichonolrwydd cyfleusterau cerdded a beicio o amgylch pentir Penarth, a chyswllt bws Morglawdd Caerdydd rhwng Penarth a Chaerdydd.

 

Ychwanegodd y Cyng. Wild: "Rydym am roi cyfle i bawb ailfeddwl sut maent am gyrraedd y gwaith neu deithio i Gaerdydd ac mae'r symud i ffwrdd o'r gwaith eisoes yn digwydd. Mae pobl bellach yn ymwybodol o newid yn yr hinsawdd ac am chwarae eu rhan yn ei herio.

"Yn 2010, 57% oedd canran y bobl a oedd yn cymudo i Gaerdydd ar gyfer gwaith yn y car. Heddiw mae hwnnw wedi lleihau i 49% Yn ystod y cyfwng amser hwn mae canran y bobl sy'n teithio i'r gwaith ar drên neu fws wedi cynyddu ychydig, i fyny o 16% yn 2011, i 19% heddiw, ond mae nifer y bobl sydd yn cerdded neu feicio i'r gwaith wedi cynyddu o 26% yn 2011 i 31% heddiw sydd yn galonogol tu hwnt.

"Bellach mae angen i ni gyflymu'r newid ymddygiad hwn. Mae angen i ni annog pobl i ystyried dewisiadau teithio amgen, i'w cael nhw allan o'u ceir neu i feddwl am rannu ceir. Sawl gwaith ydych chi wedi eistedd mewn tagfa draffig diddiwedd a sylwi fod bron iawn pob car ond yn cynnwys y gyrrwr. Dychmygwch y gwahaniaeth pe byddai rhai ohonom yn rhannu ein taith i mewn i Gaerdydd, gallem gymryd miloedd o geir oddi ar y ffyrdd mewn un cam mawr.

"Wrth gwrs, os ydym am gyflwyno codi tâl, ac ni chaiff ei ystyried hyd nes y bydd achos busnes llawn wedi ei gwblhau, yna byddai'r Cyngor yn ymrwymo y byddai seilwaith newydd yn cael ei greu er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yn ddewis dichonadwy i bobl.

"Byddai hyn yn cynnwys Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno capasiti ychwanegol ar brif wasanaethau'r cymoedd, cyfleusterau parcio a theithio newydd ar gyffyrdd 32 a 33 yr M4; cyfnewidfa fysiau newydd ar Heol Waun-gron ac Ysbyty'r Brifysgol, cwblhau projectau Cam 1 y METRO; cwblhau cam cyntaf y rhwydwaith feicio; cwblhau'r gyfnewidfa fysiau newydd yn y Sgwâr Canolog; agor yr orsaf FETRO ar Heol y Crwys; agor yr orsaf newydd ym Mharc Caerdydd yn Llaneirwg; codi'r llinell tram-trên newydd i Fae Caerdydd yn ogystal ag agor yr orsaf newydd ar Sgwâr Loudon.

"Mae unrhyw un sydd wedi bod yn sefyll yn stond mewn tagfa draffig yn y ddinas yn gwybod fod yn rhaid i rywbeth ddigwydd. Bydd diffyg gweithredu ond yn arwain at fwy o dagfeydd, mwy o lygredd a mwy o niwed i'n hiechyd a'n hamgylchedd. Mae ein Papur Gwyn yn gosod rhai cwestiynau anodd ger bron ac yn ei gwneud yn eglur pa heriau sy'n ein hwynebu fel dinas, ond yn allweddol mae hefyd yn ein cyfeirio ni at ddatrysiadau a all adfywio ein rhwydwaith trafnidiaeth. Does yr un ohonom yn hapus a phethau fel ag y maen nhw ar hyn o bryd a neb am ei weld yn gwaethygu a dyna pam ein bod yn edrych ar gamau radical i weddnewid y modd y mae'r ddinas yn gweithio."