Back
Carreg filltir nesaf yn y gwaith o ddatblygu'r Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd

10/01/2020

Mae'r Cais Cynllunio ar gyfer yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd wedi'i gyflwyno i bwyllgor cynllunio Cyngor Caerdydd. 

Mae hyn yn nodi'r cam nesaf yng ngwaith datblygu'r project diweddaraf i gael ei gyflawni dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B £284m Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru. 

Os bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen, bydd yr Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd yn cynrychioli buddsoddiad £63.5m yn y gymuned leol a byddai'n gweld ysgol newydd yn cymryd lle'r ysgol bresennol ar dir ger Stadiwm Lecwydd yn ardal Treganna'r ddinas. 

Byddai'n fynediad 10 dosbarth, gyda lle i hyd at 1,500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, ynghyd â chweched dosbarth. Byddai'r ysgol newydd hefyd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys ardal gemau aml-ddefnydd, caeau 3G a phwll nofio dan do newydd, sy'n cael ei ddefnyddio eisoes yn helaeth gan ysgolion lleol a grwpiau cymunedol. 

Bydd y rhain, a chyfleusterau eraill yn yr ysgol, ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol. 

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae buddsoddi mewn ysgolion yn flaenoriaeth a dyma'r cam nesaf at greu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd a fydd nid yn unig yn cynnig  cyfleusterau modern ac amgylchedd dysgu o'r ansawdd orau i ddisgyblion, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd i fanteisio ar amwynderau modern a rhagorol i'r gymuned leol. 

"Cafodd y cyhoedd a rhandeiliaid lleol gyfle i wneud sylwadau neu awgrymiadau ynghylch y cynlluniau mewn ymgynghoriad pedair wythnos. Rydyn ni'n ddiolchgar am y safbwyntiau a dderbyniwyd sydd wedi helpu i siapio'r cynigion." 

Diben y Cais Cynllunio yw galluogi gwaith sy'n gysylltiedig â'r project, cyn y cais adeiladu a gaiff ei gyflwyno yn y gwanwyn.

Mae'r Cais Cynllunio'n ceisio caniatâd cynllunio llawn am y canlynol: 

  • Ail-leoli'r Gromen Aer i dir y tu ôl i Stadiwm Lecwydd;
  • Cae pêl-droed glaswellt newydd o safon Haen 2, (heb lifoleuadau);
  • Cae pêl-droed rygbi 3G newydd;
  • Ail-leoli'r cae taflu;
  • Adeiladu adeilad ystafell newid â 2 lawr (gyda 2 ystafell ddosbarth gymunedol ar y llawr cyntaf ac 1 ar y llawr gwaelod);
  • Adeiladu adeilad ystafell newid ag un llawr;
  • Cae 5 (i'w ddefnyddio ar gyfer criced);
  • Ardal Gemau Aml-ddefnydd (AGADd 16 a 17; a
  • Darparu maes parcio newydd a stondinau beiciau ar gyfer parcio cymunedol. 

Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i'r gwaith o adeiladu'r ysgol newydd ddod i ben yn flwyddyn academaidd 2022/2023. 

I weld y cynigion ewch i  

 https://planningonline.cardiff.gov.uk/online-applications/applicationDetails.do?activeTab=summary&keyVal=_CARDIFF_DCAPR_129880