2/1/2020
Mae
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans yn Llanedern wedi llwyddo i gael
‘rhagorol’ yn y pump maes gafodd eu harolygu gan Estyn - y sgôr uchaf posibl.
Yn ystod ymweliad diweddar, nododd arolygiaeth addysg Cymru bod yr ysgol yn
llwyddiannus iawn ac yn ofalgar, gyda disgyblion yn datblygu sgiliau
llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) o safon
uchel.
Nododd yr Arolygwyr bod lles disgyblion a’u hagweddau at ddysgu yn enghraifft
wych, a’u bod yn gyfeillgar, yn gofalu am ei gilydd ac yn cefnogi ei
gilydd.
Yn ystod yr ymweliad, roeddent o’r farn fod
cwricwlwm yr ysgol yn gyffrous a bod athrawon a staff cymorth yn sicrhau bod
bob disgybl, gan gynnwys y rheiny ag anghenion penodol, yn derbyn cefnogaeth o
safon uchel iawn ac hefyd yn sicrhau bod disgyblion yn hapus yn yr ysgol ac yn
cymryd rhan ragweithiol o ran eu dysgu.
Nododd
yr adroddiad bod y pennaeth yn arwain yr ysgol yn dda iawn, a bod
arweinyddiaeth yr ysgol yn gyffredinol yn gryf iawn gydag arweinwyr ar bob
lefel yn nabod y staff a’r disgyblion yn dda, yn gweithio’n llwyddiannus i greu
amgylchedd dysgu braf a gofalgar.
Gan adlewyrchu ar lwyddiant yr ysgol, dywedodd y
Pennaeth Catherine Power: ”Rydym yn falch
iawn fod y tîm Arolygu wedi cydnabod Sant Philip Evans yn ysgol anhygoel.
“Mae gennym blant hyfryd yma sy’n ddysgwyr da iawn,
Llywodraethwyr gwybodus, rhieni cefnogol a phlwyf a chymuned leol wych. Mae pob aelod o’n tîm staff talentog iawn
wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod bob plentyn yn gwneud cynnydd da gyda’u lles
a’u dysgu.
“Rwy’n falch iawn o
gael arwain yr ysgol ac rwy’n credu mai fi sydd â’r swydd orau yn y byd!”
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry,
Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a’r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a
Sgiliau: “Rwy’n hynod falch o ddarllen sylwadau Estyn am yr ysgol.
“Mae’r pennaeth, staff, disgyblion
a’r gymuned ysgol ehangach yn amlwg wedi gweithio’n galed i sefydlu amgylchedd
dysgu sydd mor ofalgar, a dylent fod yn falch dros ben o’r hyn y maent wedi
cyflawni. Llongyfarchiadau ar adroddiad Estyn ardderchog.”