Back
Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn cael ei chanmol am groesawu cannoedd o Blant sy'n Derbyn Gofa

Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd wedi'i chanmol am gynnal digwyddiad arbennig i Blant sy'n Derbyn Gofal yng Nghaerdydd.

Gwahoddwyd bron i 250 o Blant sy'n Derbyn Gofal yn y ddinas, eu gofalwyr a'u teuluoedd i'r atyniad Nadoligaidd i fwynhau bore o sglefrio, reidiau a bwyd a diod, i gyd am ddim.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Blant a Theuluoedd, y Cynghorydd Graham Hinchey: "Hoffwn ddiolch yn bersonol i Norman Sayer a'i dîm yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd am eu haelioni i'n Plant sy'n Derbyn Gofal a'u teuluoedd - caredigrwydd sy'n meddwl cymaint iddyn nhw. Hoffwn hefyd ddiolch i uwch dîm rheoli Gwasanaethau Plant Caerdydd sy'n gweithio'n galed drwy gydol y flwyddyn ac a wnaeth jobyn gwych o gydlynu'r digwyddiad.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\CHILDRENS SERVICES\senior-management.jpg

"Rydym yn ddiolchgar am y gofal a'r cymorth arbennig y mae ein gofalwyr yn ei roi i rai o blant a phobl ifanc mwyaf bregus Caerdydd - roedd hyn yn ffordd wych o ddweud diolch a rhoi rhywbeth yn ôl gan gofleidio ysbryd y Nadolig.

Ychwanegodd Paul Orders, Prif Weithredwr Cyngor Caerdydd: "Roedd y digwyddiad hwn yn enghraifft wych o sut gall cyflogwyr a busnesau roi rywbeth yn ôl i'r bobl sydd wir ei angen yng Nghaerdydd.

"Buaswn wrth fy modd o weld mwy o sefydliadau yn dangos ewyllys da fel hyn, sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywyd person ifanc, yn arbennig ar yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Diolch i Norman a staff Gŵyl y Gaeaf Caerdydd am ddiwrnod ffantastig a gaiff ei drysori am flynyddoedd i ddod."

Mae gan Gaerdydd fwy na 900 o Blant sy'n Derbyn Gofal ac mae'r Cyngor yn chwilio am ofalwyr maeth o gefndiroedd amrywiol sydd â phrofiadau, sgiliau a rhinweddau unigryw.

Mae yna fathau gwahanol o ofal maeth, gan gynnwys seibiant (arhosiad byr), hirdymor a llety â chymorth.

Os ydych chi'n credu y gallech helpu person ifanc, ewch ihttps://gofalmaethcaerdydd.co.uk